English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae’r llwybr hwn yn cysylltu dau o aneddiadau mwyaf hanesyddol Dyffryn Teifi, sef Cenarth a Chastellnewydd Emlyn, gan fynd trwy ardal wledig ddymunol ar hyd cwr deheuol gorlifdir Afon Teifi. Dilynir hen heol, yn wir mae’n bosibl taw ar hyd yr hen ffordd hon teithiodd byddin Owain Glyndŵr ym mis Mehefin 1403 er mwyn ymosod ar y castell yng Nghastellnewydd Emlyn, ar ôl croesi’r afon ger Cenarth.

Pentref dymunol yr olwg ar lannau Afon Teifi yw Cenarth, ac mae’n nodedig am ei raeadrau ysblennydd ac am yr eogiaid sydd yn heidio yno ar eu taith. Mae gan Giraldus Cambrensis, neu Gerallt Gymro fel y’i hadwaenir, ddisgrifiad o’r bysgodfa eogiaid a welodd yno yn 1188. Hyd heddiw defnyddir cwrwgl traddodiadol gan bysgotwyr ar yr afon, a Chenarth yw cartref Canolfan Gyryglau Genedlaethol Cymru. Er bod y pentref yn un bychan, mae’n frith o adeiladau a mannau diddorol, gan gynnwys eglwys y plwyf, sydd wedi bod yno ymhell dros 1000 o flynyddoedd, a chastell mwnt a beili, a godwyd yn y ddeuddegfed ganrif i warchod man hwylus i groesi’r afon.

Maredudd ap Rhys Gryg oedd wedi sefydlu Castellnewydd Emlyn yn 1240 a hynny drwy godi castell yno i gadarnhau ei reolaeth dros arglwyddiaeth Emlyn Uwch Cych. Bu’r castell, y gellir gweld ei adfeilion ar lannau Afon Teifi, yn dyst i rai o’r digwyddiadau mwyaf dramatig yn hanes Cymru. Y castell hwn oedd cadarnle terfynol tywysog brodorol olaf Gorllewin Cymru, sef Rhys ap Maredudd (mab sylfaenydd y castell), a ddienyddiwyd yn 1292. Yn 1403 cafodd y castell ei gipio gan luoedd Glyndŵr yn ystod ei Ryfel dros Annibyniaeth. Dinistriwyd y castell gan filwyr Cromwell yn 1648 ar ôl i’r Rhyfel Cartref ddod i ben. Drwy gydol y blynyddoedd cythryblus hynny bu i'r dref oroesi, gan lwyddo i dyfu mewn cyfnodau llai tymhestlog yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu.

Bellach mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur, lle mae nifer o atyniadau diddorol, gan gynnwys siopau a thafarnau, ynghyd â’r eglwys, y capeli a’r adeiladau cyhoeddus eraill.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded                   Plotaroute 

Pam Cerdded?

Llwybr unionsyth yw hwn ar hyd lonydd tawel sydd yn cysylltu dau o bentrefi mwyaf atyniadol a hanesyddol Sir Gaerfyrddin. Er bod y rhan fwyaf o'r daith drwy wlad fryniog, dim ond ychydig rannau byrion sydd ar dir cymharol serth.

Pa mor hir? 5km (3 milltir)

Pa mor anodd? Nid yw’r daith yn arbennig o anodd. Mae’r llwybr unionsyth hwn yn mynd drwy wlad fryniog yn bennaf, dim ond ychydig rannau byrion sydd ar dir cymharol serth.

Man cychwyn – Castellnewydd Emlyn

Parcio – ✔

Trefnidiaeth Gyhoeddus - ✔ Mae’n hawdd cyrraedd Castellnewydd Emlyn a Chenarth ar y bws o Gaerfyrddin.

Lluniaeth – ✔ Mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur sydd â llawer o fannau diddorol, siopau, caffis, tafarndai a llety.

Mannau o Ddiddordeb

1. Mae Afon Teifi yn bwysig iawn o ran cadwraeth natur, ac yn rhinwedd hynny mae’r afon wedi ei dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Wrth iddi ymdroelli o’i tharddle i’r môr mae cymeriad yr afon yn newid, gan ffurfio nifer o wahanol gynefinoedd sydd yn cynnal amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid, y mae nifer ohonynt yn brin ac mewn perygl. Ledled Afon Teifi a’i hisafonydd mae dyfrgwn yn gyffredin lle mae digonedd o lystyfiant ar hyd y glannau. Mae’r corsleoedd a’r corsydd sydd yn gysylltiedig â’r afon yn gynefinoedd pwysig I adar megis giachod, gylfinirod, pibyddion coesgoch a theloriaid Cetti. Mae pysgod prin megis yr herlyn a lamprai’r afon yn magu yn nyfroedd croyw yr afon, ac mae llamhidyddion a dolffiniaid trwyn-potel wedi eu cofnodi yn aber yr afon.

2. Cyfeiriodd Gerallt Gymro at bont dros Afon Teifi yng Nghenarth yn 1188, ond yn 1787 y codwyd y bont bresennol. Y penseiri oedd William Edwards a’i fab David, a fu’n gyfrifol am gynllunio nifer o bontydd ynghanol y ddeunawfed ganrif gan gynnwys y bont enwog ym Mhontypridd. Mae’r tyllau crynionyn y pentanau, er mwyn lleihau pwysau’r bont, yn nodweddu eu Gwaith.

3. Y tu cefn i’r Hen Efail, sydd bellach yn ganolfan dreftadaeth a siop roddion, saif olion gwrthglawdd castell. Prin yw’r wybodaeth sydd gennym am y castell ond yn ôl pob tebyg fe’I codwyd yn y ddeuddegfed ganrif i amddiffyn man hwylus I groesi’r afon. Yr unig beth a erys ohono yw mwnt helaeth o bridd, lle arferai’r twˆ r pren fod.

4. Codwyd eglwys bresennol Llawddog Sant yn 1872, a hynny am fod yr adeilad blaenorol yn mynd rhwng y cŵn a’r brain; yn wir erbyn hynny roedd yn rhaid i’r gwasanaethau gael eu cynnal yn yr ysgoldy. Mae’r bedyddfaen amrwd ei wneuthuriad yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif neu’n gynharach. Bu’n cael ei ddefnyddio yn Sir Aberteifi fel cafn I fwydo moch nes i ficer Cenarth ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddod o hyd iddo. Yn y fynwent saif maen o’r chweched ganrif sydd yn coffau Curcagnus, a oedd yn fab i Andagelli. Symudwyd y maen i’r fynwent o dir Plasty Gellidywyll yn 1896 i’w ddiogelu.

5. Mae tri adeilad yng nghyffiniau Cenarth a fu’n ficerdy ar ryw adeg neu’i gilydd. Codwyd y ficerdy hwn ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei godi yn lle ficerdy cynharach, sydd yn dal i sefyll gyferbyn â thafarn y Three Horseshoes, lle mae bwa’r coetsiws i’w weld o hyd. Saif y ficerdy diweddaraf uwchlaw’r fynwent.

6. Mae’r llwybr yn croesi’r A484. Codwyd y ffordd hon gan Gwmni Tyrpeg Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn ar ôl 1802. Roedd y ffordd yn mynd o Gastell Newydd Emlyn i Genarth lle’r oedd yn cwrdd â’r ffordd dyrpeg o Genarth i Aberteifi.


7. Fferm yw Gelligatti ym mhentrefan Gelligatti, sef un o bedwar pentrefan ym mhlwyf Cenarth. Yn 1670 archwiliwyd y ffermdy at ddibenion treth a gwelwyd bod yno bedair aelwyd; felly roedd yn un o dai pwysicaf y fro. Codwyd y ffermdy presennol a’r tai maes trawiadol tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

8. Mae Adpar yn y golwg ar yr ochr draw i Afon Teifi. Yn yr oesoedd canol bwrdeistref ym meddiant Esgob Tyddewi oedd Adpar. Prin yw olion y pentref canoloesol, dim ond mwnt yr hen gastell a erys uwchlaw’r bont rhwng Castell Newydd Emlyn ac Adpar.

9.Yn fynych mae Gwyddau Canada i’w gweld yn pori ar y dolydd gyferbyn â’r castell. Liw dydd yn ystod yr haf mae gwenoliaid a gwenoliaid y glennydd yn brysur yn hela pryfed dros yr afon. Liw nos tro’r ystlumod yw hi i hel eu tamaid.