English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Carreg Cennen: taith gerdded hir

Carreg Cennen

Erbyn hyn y brain yn unig sy’n ymgartrefu yn hen adfeilion trawiadol Castell Carreg Cennen sy’n sefyll yn urddasol ar glogwyn serth ymhell uwchlaw’r afon. Mae’r olygfa hynod hon yn yn fan cychwyn naturiol ar gyfer y teithiau cerdded a nodir yma.

Roedd y safle hwn wedi bod yn gadernle i’r Cymry ymhell cyn y sylweddolodd yr Arglwyddi Seisnig ei bwysigrwydd strategol a phenderfynu yn y 13eg ganrif i adeiladu castell yma. Adeiladwyd y castell gwreiddiol gan Dywysogion y Deheubarth, y llwyddodd y mwyaf nodedig o’u plith, Arglwydd Rhys ap Gruffudd, i ennill tir yn ôl oddi ar y goresgynwyr normanaidd.. Yn 1462, yn fuan ar ôl Rhyfel y Rhosynnau, dinistrwyd rhannau helaeth o’r castell gan yr tybiwyd ei fod yn ormod o fygythiad i’r frenhiniaeth.

Mae’r graig sy’n furffio sylfaen i’r castell yn ddarn o Carreg Galch Carbonifferaidd yng nghanol Hen Dywodfaen Coch mwy hynafol. Mae’r ardal o gwmpas y castell yn dir amaethyddol a ddefnyddir yn bennaf i fagu defaid a gwartheg. Mae hon yn ardal brydferth o ddyffrynnoedd coediog, caeau bychain a chloddiau. Yn y man fodd bynnag mae’r tir tua’r de orllewin yn cwrdd â’r Mynydd Du lle ceir milltiroedd ar filltiroedd o dir uchel gwyntog heb yr un goeden bron i darfu ar yr olygfa. Defnyddir y tir garw hwn i bori defid mynydd a cheffylau gwyllt.

Mae’r coetir sy’n ymylu â’r castell ar yr ochr ddeheuol yn bwysig o ran cadwraeth natur ac mae wedi’i ddynodi yn Warchodfa natur Leol ac mae’r graig ei hun yn Safle Daearegol o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Er bod adfeilion y castell yn teyrnasu dros yr ardal ac yn hawlio sylw mae digon o bethau eraill i ddenu’r llygaid.
Mae’r teithiau cerdded yn mynd drwy amrywiaeth o gynefinoedd pwysig. Ceir llethrau coediog o dderw ac ynn yn rhedeg lawr i ddyffrynnoedd lle mae nentydd byrlymus yn disgyn i afonydd cyflym eu llif a oruchwylir gan goed a Helyg. Fel y newid y graig danddaearol o Garreg Glach i Dywodfaen felly hefyd y newidia’r math o goed, blodau a llwyni sy’n tyfu ar yw wyneb, ac mae’r pryfed a’r adar yn newid o dymor i dymor. Mae ymwelydd i’r ardal yr un mor debygol o weld y Dryw Eurben ag ydyw o weld yr aderyn sglygaethus mwyaf y Barcud Coch.

   

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded       Plotaroute 

Fideo o daith cerdded Castell Carreg Cennen

Pam Dewis Cerdded?
Mwynhewch un o ddwy daith gerdded gylchol o amgylch y castell ysblennydd hwn yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi'i leoli'n uchel uwchben Afon Cennen ac sydd bron â bod mil o droedfeddi uwchben lefel y môr ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ychydig iawn o gestyll yn Ewrop sy'n gallu ymffrostio ynghylch lleoliad mwy ysblennydd na hyn. Gofalwch eich bod yn rhentu tortsh i fynd i archwilio ogof y castell.

Pa mor bell?
Dwy daith gylchol gydag arwyddion; mae'r daith fer yn 2.7km o hyd (1.6 milltir) ac mae'r daith hir yn 6km o hyd (3.7 milltir).

Pa mor anodd?
Mae'r daith gylchol fer yn codi tua 88 metr (288 troedfedd) ar lwybrau da a lonydd bach y wlad.
Mae'r daith gylchol hir yn codi tua 200 metr (656 troedfedd) ac yn fwy heriol, gan ddilyn traciau garw a lonydd bach y wlad. Mae'r ddwy daith gerdded yn eithaf serth mewn mannau ond maent yn darparu diddordeb parhaus a golygfeydd godidog o'r castell a'r dirwedd gyfagos.

Y Man cychwyn - Caffi/siop y Castell.

Y Maes Parcio - Y maes parcio gyferbyn â Fferm Carreg Cennen

Trafnidiaeth Gyhoeddus - Llandeilo 5km/3 milltir i ffwrdd       Lluniaeth - ✔

Golygfa o Gastell Carreg Cennen

Mannau o ddiddordeb

1. Saif y castell ar frigiad creigiog sy'n allgraig o galchfaen carbonifferaidd yng nghanol yr Hen Dywodfaen Goch sy'n fwy hynafol. Mae tystiolaeth wedi cael ei chanfod sy'n dangos bod aneddiad yn bodoli ar y safle hwn yn y cyfnod cynhanesyddol. Roedd safle'r castell yn gadarnle yng Nghymru ymhell cyn i Arglwyddi Saesneg adeiladu'r castell presennol yn y 13eg ganrif.

2. Mae'r coetir sy'n cynnwys coed ynn a'r ddraenen wen yn bennaf ar y priddoedd tenau dros galchfaen, yn arwain at goetir derw i lawr y llethr ar yr hen dywodfaen goch.

3. Mae mwy o rywogaethau pryfed yn byw ar goed derw nag unrhyw goeden frodorol arall. Yn ogystal â'r pryfed, mae'r mes yn darparu ffynhonnell fwyd werthfawr ar gyfer amrywiaeth o anifeiliaid. Yn aml roedd gan y cominwyr yr hawl i fesobrau a oedd yn eu galluogi i ollwng eu moch yn rhydd yn y coetir derw i chwilio am fes. 

4. Y naill ochr a'r llall i'r llwybr y mae dau adfail a llwybr cerrig rhyngddynt. Mae'r coetir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n lle da i chwilio am adar y goedwig megis ysguthan, delor y cnau, titw tomos las a'r dryw bach.

5. Mae amrywiaeth gyfoethog o flodau a rhedyn yn y perthi o dan y coed cyll, megis tafod yr hydd, gwibredyn, rhosyn coch gwyllt, fioled, bysedd y cŵn a saets gwyllt.

6. Edrychwch am y titw penddu, ji-binc, llinos bengoch a dryw bach y coed yn y blanhigfa fach o goed conwydd ac yn hen linellau'r perthi sy'n llawn tyfiant.

7. Mae hwn yn lle da i graffu ar yr awyr i chwilio am yr aderyn ysglyfaethus mwyaf enwog yng Nghymru, sef y barcud coch. Efallai y byddwch hefyd yn gweld boda. Mae gan y ddau gri uchel sy'n swnio fel mewian ac mae'r adar yn aml yn cael eu clywed cyn iddynt gael eu gweld.

8. Nid yw Beddau'r Derwyddon, fel y mae'r enw'n ei awgrymu, yn feddau i'r derwyddon, ond mewn gwirionedd twmpathau ydynt wedi'u creu gan ddyn sydd â ffosydd bas o'u hamgylch, sef cwningaroedd canoloesol ar gyfer cenhedlu cwningod ar gyfer bwyd.

9. Ar ochr y ffordd sy'n mynd i fyny'r rhiw y mae'r garreg rud galed, a thros y wal y mae'r haenau o galchfaen o gyfnod y Carbonifferaidd.

10. Mae'r tri phant mawr, dwfn yn y tir yn y fan hon wedi'u creu wrth i'r ceudyllau yn y calchfaen o dan y ddaear grebachu.

11. Roedd yr odyn calchfaen mawr adfeiliedig yn cael ei ddefnyddio i ddarparu calch poeth i wneud sment a gwrtaith i'r caeau. Mae'r chwarel ar gyfer y calchfaen yn union y tu ôl i'r odyn.

12. Gyferbyn â'r odyn calchfaen y mae'r ogof a elwir yn Llygad Llwchwr. Dyma darddle Afon Llwchwr sy'n cyrraedd y môr 30 cilomedr i ffwrdd, ac mae'n dod yn un o aberoedd mwyaf a phwysicaf Cymru, gan gefnogi miloedd o adar parhaol a rhai mudol.

13. Gellir gweld heidiau o'r coch dan adain a'r aderyn eira yn y caeau yn yr ardal hon yn y gaeaf.

Castell Carreg Cennen

Hanes Carreg Cennen 

Llygad Llwcwr

Cwmdu

Cwm-du: taith gerdded hir