English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Artistiaid ac Orielau

Dewch i weld Artistiaid ac Orielau ardderchog yn Sir Gâr

Helen Elliot Art

Archwilio'r dychymyg

Ewch ar daith i dref farchnad Castellnewydd Emlyn a byddwch yn darganfod artist a gydnabyddir yn rhyngwladol, Helen Elliot, enillydd Gwobr 'Gwnaed yn Sir Gâr' Cymdeithas Twristiaeth Sir Gâr. Os ewch i'w Tollgate Studio gallwch fynd ar eich taith greadigol eich hun. Archwiliwch eich dychymyg chi a dychymyg artist a gymerodd ei llwybr unigryw ei hun i fyd rhyfeddol celf naïf. Nid eich artist arferol yw Helen. Byddwch yn barod i weld gweithiau gwreiddiol a phrintiau sy'n dangos arbrofi. Mae'r defnydd dewr o liw yn cyfleu ymateb corfforol i'r dirwedd a gwir deimlad tuag ati – caiff popeth ei beintio o'r galon. Dewch i gwrdd â Helen. Dewch i'w hadnabod hi a'i gwaith. Bydd hyn yn gadael argraff barhaol o Sir Gaerfyrddin.

Tollgate Studio, Heol Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn SA38 9DA
www.helenelliott.net
Ff: 01239 711735

• Mae Helen yn cynnig nosweithiau 'peintiwch gyda mi' – dwy awr o gyfarwyddiadau hawdd eu dilyn fel y gallwch greu peintiad hardd i fynd ag ef adref gyda chi
• Dywedodd 'academydd artistig' wrth Helen unwaith nad oedd ganddi'r potensial i fod yn artist…

Oriel Greenspace

Gwyrdd yn ei hanfod

Oriel fawr gyda byd natur yn greiddiol iddi yw Greenspace, yn union fel yr awgryma'r enw. Er ei bod wedi'i lleoli yng nghanol tref Caerfyrddin, mae ei gweledigaeth yn ddi-ben-draw. Yma cewch weld dathliad o fyd natur yng nghelfyddyd gain, sidan a cherameg y curadur, yr artist Dorothy Morris, ac ymrwymiad i warchod y blaned, bywyd a llesiant. Cymerwch hoe. Cymerwch amser i feddwl. Ymlaciwch, arafwch a mwynhewch yr hyn sydd o'ch amgylch. Eisteddwch. Syllwch. Yfwch de a choffi wrth i chi wylio'r artist wrth ei gwaith, wrth iddi gyfuno dylanwadau ei chartref ar ymyl y dŵr yng Nglanyfferi â'i brwdfrydedd mawr dros faterion amgylcheddol a chymdeithasol.

21 Heol Las, Caerfyrddin SA31 3LE
www.dorothymorris.co.uk
Ff: 01267 267652

• Ceir siop elusen fach ond effeithiol yng nghefn yr oriel - mae pob ceiniog a godir yn mynd tuag at ‘Invisible Hands Support UK’ sydd yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi ym Malawi ac India
• Caiff gweithdai cymunedol a dosbarthiadau preifat mewn celf, tecstilau a cherameg eu rhedeg gan Dorothy yng Nghalon y Fferi, Glanyfferi DorothyMorris@hotmail.com

Oriel Mimosa

Cwbl Gymreig

Mae Oriel Mimosa wedi’i neilltuo i weithiau celf gwreiddiol a phrintiau argraffiad cyfyngedig gan artistiaid Cymreig ac o Gymru. Beth bynnag fo’ch chwaeth a’ch cyllideb, fe gewch weithiau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan harddwch Cymru. Yma cewch ailddarganfod enwau amlwg ac uchel eu brif o gelfyddyd Gymreig megis Graham Sutherland, Augustus John, Kyffin Williams, John Knapp Fisher, Valerie Ganz a Donna Grey. Ochr yn ochr â hyn cewch ddarganfod artistiaid Cymreig lleol addawol y mae Mimosa yn ymrwymedig i’w cefnogi a’u hyrwyddo. Cewch ymweld ag adran ailwerthu weithredol Mimosa sy’n arddangos celfyddyd dra neilltuol. Neu fe gewch ymuno â’u digwyddiadau ‘cwrdd â’r artist’ neu foreau coffi rheolaidd.

68 Stryd Rhosmaen Llandeilo SA19 6EN
www.orielmimosa.com
www.facebook.com/pg/OrielMimosa/about/

• Mae’r oriel wedi’i henwi ar ôl llong y Mimosa a hwyliodd o Lerpwl i Batagonia ym 1865 gan gario ymfudwyr o Gymru a oedd yn ymrwymedig i warchod traddodiadau Cymreig a’r iaith Gymraeg a oedd dan fygythiad gartref
• Mae Oriel Mimosa yn gartref i’r unig baentiad gwreiddiol o long y ‘Mimosa’ sydd mewn bodolaeth – printiau argraffiad cyfyngedig ar gael
• Dim lle parcio ceir wedi’i neilltuo; fodd bynnag mae gan Landeilo fannau parcio ceir am brisiau rhesymol iawn yng nghanol y dref
• Addas i gadeiriau olwyn

 

 

Oriel Origin

Talent leol, wedi’i saernïo ag angerdd

Yn swatio yn nhref hanesyddol Caerfyrddin, mae Oriel Origin yn arddangos talent artistiaid a gwneuthurwyr lleol o Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Ceredigion a Sir Benfro. Yn gwmni cydweithredol a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl, mae’r oriel yn ganolbwynt ar gyfer crefftwaith o ansawdd uchel, gan gynnig popeth o grochenwaith, gwydr a gemwaith i decstilau, gwaith metel a gwaith celf gwreiddiol. Mae’r gofod agored a llawn goleuni ar Heol y Brenin yn cynnwys man arddangos i fyny’r grisiau a thair ffenestr fawr, sy’n caniatáu i’r creadigaethau bywiog gael eu gwerthfawrogi gan drigolion y dref sy’n cerdded heibio. P’un a ydych yn chwilio am ddarn unigol i’w drysori neu’n dymuno profi creadigrwydd yr ardal, mae Oriel Origin yn lle perffaith i ddarganfod rhywbeth arbennig.

23 Heol y Brenin (hen siop Harding’s), Caerfyrddin, SA31 1BS
https://origincarmarthen.com/  
info@origincarmarthen.co.uk
Rhif ffôn: 01267 234500

•  Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr – mae’r oriel yn cael ei stiwardio gan artistiaid sy’n aelodau, gan gynnig y cyfle i ryngweithio â’r rhai sydd wedi creu’r darnau
•  Mae’r oriel yn cynnwys gwaith gan dros 25 o wneuthurwyr lleol

Oriel King Street

Yn arddangos y gorau o orllewin Cymru

Mae Oriel King Street, gofod celf bywiog a chyfoes yng nghanol tref hanesyddol Caerfyrddin, wedi bod ar flaen y gad yn y byd celf lleol ers 2006. Mae’r oriel hon, a arweinir gan artistiaid, yn cynnig detholiad dynamig o gelfyddyd gain a chymhwysol, gan gynnwys paentiadau, cerameg, cerflunwaith, ffotograffiaeth, gwneud printiau, a gemwaith. Mae’r brif oriel yn cynnwys rhaglen gylchdroi o weithiau gan dros 25 o artistiaid sy’n aelodau, gan sicrhau profiad newydd gyda phob ymweliad. I’r rhai sy’n ceisio profiad mwy cartrefol, mae’r Ystafell Sbotolau yn cynnig arddangosfeydd bach, tra bod Ystafell Chate yn cynnal artistiaid sy’n ymweld, gweithdai a sgyrsiau. P’un a ydych yn chwilio am anrheg unigryw neu’n edrych i fuddsoddi mewn celf, mae Oriel King Street yn cynnig rhywbeth at bob chwaeth a chyllideb.

33 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BS
https://www.kingstreetgallery.co.uk/cy  
gallery@kingstreetgallery.co.uk
Rhif ffôn: 01267 220121

•  Mae’n cynnwys gwaith gan dros 25 o artistiaid sy’n aelodau
•  Mae cynllun benthyca Own Art yn cynnig ffordd ddi-log hawdd o ledaenu taliadau am eitemau rhwng £100 a £2,500 dros gyfnod o ddeg mis
•  Gweithdai artistiaid a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn

Y Tŷ Celf, Llanelli

Celf wrth galon y gymuned

Wedi’i sefydlu yn 2017, mae’r Tŷ Celf yn gwmni buddiannau cymunedol bywiog sydd wedi’i leoli yng nghanol Llanelli. Fel canolbwynt creadigol, mae’n cefnogi 12 artist llawrydd sy’n dod â lliw, creadigrwydd ac arbenigedd i’r gymuned leol. Mae’r oriel yn arddangos celf fforddiadwy a gyfrannwyd gan ei haelodau ac yn cynnal arddangosfeydd misol sy’n dathlu themâu amrywiol megis Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chodi ymwybyddiaeth o ddementia. Mae’r Tŷ Celf hefyd yn cynnig gweithdai ar y llawr cyntaf, gan ddarparu gofod diogel a chroesawgar i unigolion a grwpiau i archwilio eu doniau artistig. Trwy ei waith gydag ysgolion, colegau a sefydliadau lleol, mae’r Tŷ Celf yn meithrin creadigrwydd a llesiant, gan wneud celf yn hygyrch i bawb.

1 Stryd Ioan, Llanelli, SA15 1UH
https://www.ytycelf-thearthouse.com/  
info.ytycelf@gmail.com 
Rhif ffôn: 07824 885845 (yr oriel) / 07854 003327 (gweithdai)

•  Arddangosfeydd a digwyddiadau rheolaidd yn cefnogi artistiaid ac achosion cymdeithasol
•  Cefnogi artistiaid newydd a sefydledig trwy raglenni a ariennir gan grantiau a chyfleoedd i arddangos eu gwaith
•  Prosiect Herio – rhaglen deg wythnos o hyd o weithdai creadigol, wedi’u cynllunio i ddatblygu hunanhyder mewn rhifedd yn ogystal â sgiliau creadigol

 

Ann Goodfellow – Oriel Ivy House

Darganfyddwch gelfyddyd yfory, heddiw

Wedi’i lleoli yn nhref hardd Llandeilo, mae Oriel Ivy House yn cynnig profiad celf gyfoes wedi’i osod yn erbyn cefndir syfrdanol Bannau Brycheiniog. Wedi’i sefydlu yn 2021 gan yr artist cerameg enwog Ann Goodfellow, mae’r oriel yn cynnwys casgliad wedi’i guradu’n ofalus o baentiadau modern, cerameg ffigurol, cerflunwaith, a chrochenwaith stiwdio. Mae Oriel Ivy House yn arddangos gwaith artistiaid sefydledig ochr yn ochr â gwaith talentau newydd, gan greu gofod croesawgar i’r rhai sy’n hoff o gelf o bob chwaeth a chyllideb. Gyda’i harddangosfa gyfoes syml a’i hawyrgylch hamddenol, mae’n lle perffaith i archwilio a phrynu gweithiau celf unigryw.

Oriel Ivy House, 7b Stryd y Brenin, Llandeilo, SA19 6BA
https://www.ivyhousegallery.com/  
anngoodfellowartist@gmail.com 
Rhif ffôn: 01558 543083

•  Oriel a gymeradwywyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n cynnig y Cynllun Casglu, sef cynllun credyd di-log
•  Gwasanaeth curadu cartref sy’n cynnig dosbarthu gweithiau celf, cyngor ynghylch ble i’w gosod, ac opsiynau treialu o fewn radiws o 40 milltir i’r oriel
•  Arddangosfa barhaol o waith artistiaid yr oriel ochr yn ochr â rhaglen dreigl o arddangosfeydd bach ac arddangosfeydd “artist mewn ffocws”

Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau Pwerdy

Grym creadigrwydd a chymuned

Yn swatio ym mhentref prydferth Pont-tyweli, mae’r Pwerdy yn ganolfan gelfyddydol a chymunedol fywiog sy’n croesawu pawb i gwrdd, dysgu a chreu. Wedi’i adeiladu’n wreiddiol yn y 1920au i gynhyrchu trydan ar gyfer Llandysul a Phont-tyweli, mae’r adeilad wedi’i adnewyddu â chariad gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr dros y degawd diwethaf. Heddiw, mae’n ofod dynamig ar gyfer arddangosfeydd celf, digwyddiadau cerddoriaeth, gweithdai, a chynulliadau cymdeithasol. P’un a ydych yn mynd i arddangosfa sy’n ymwneud â hanes lleol, yn archwilio’ch creadigrwydd mewn dosbarth celf, neu’n mwynhau noson gerddoriaeth gymunedol, mae’r Pwerdy wrth galon diwylliant lleol a chynwysoldeb, gan gynnig rhywbeth at ddant pawb.

Stryd y Capel, Pont-tyweli, Llandysul, SA44 4AH
https://www.pwerdypowerhouse.co.uk/hafan-home?language=Cymraeg  
post@pwerdypowerhouse.co.uk 
Rhif ffôn: 01559 384849

•  Yn orsaf bŵer gynt, mae’r adeilad bellach yn ganolfan celfyddydau a dysgu cymunedol
•  Yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o arddangosfeydd celf i weithdai, digwyddiadau cerddoriaeth, a hurio preifat