Llwybr Glan yr Afon Dyffryn Aman
Llwybr Glan yr Afon Dyffryn Aman (Llwybr Sustrans 437) (tua 22 km/14 milltir yno ac yn ôl)
Llwybr hyfryd di-draffig, bron 7 milltir o hyd (bob ffordd), sy’n ymlwybro ar hyd y dyffryn gan ddilyn cwrs Afon Aman.
Dewch i grwydro hen ddyffryn glofaol yng nghysgod Bannau Brycheiniog ar lwybr beicio hyfryd. Mae’r llwybr yn ymdroelli am 7 milltir o dref Rhydaman, sy’n prysur cael ei hadfywio, i bentref llawn cymeriad Brynaman islaw’r Mynydd Du.
Cadwch lygad am foncathod a barcutiaid yn hedfan oddi fry, aroglwch y garlleg a’r blodau gwyllt yn y gwanwyn, ac ymlaciwch i sŵn afon Aman wrth iddi lifo yn ymyl y llwybr. Mae’r llwybr di-draffig hwn yn boblogaidd yn y prynhawniau gyda theuluoedd, gan fod llefydd chwarae ar hyd y ffordd a lluniaeth ar y naill ben a’r llall.
Dechrau: Tir Clwb Rygbi Pantyffynnon ger Rhydaman
Cyfanswm Hyd: Mae Pantyffynnon i Frynaman yn 11 cilomedr neu 7 milltir bob ffordd
Lefel Anhawster: Heb ei raddio ond byddai'n wyrdd (hawdd)
Amcangyfrif o'r Amser: 1.5 awr bob ffordd.
Cyrraedd yno: Gwasanaeth Bws L3 a L4 a X13 yn mynd rhwng Llanelli a Rhydaman, X13 rhwng Abertawe a Rhydaman, 129 rhwng Caerfyrddin a Rhydaman. Mae Rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg o Abertawe drwy Lanelli i Rydaman, ac mae gorsaf ym Mhantyffynnon yn ogystal. Mae llefydd parcio ar gael ar hyd y llwybr ym Mhantyffynnon, Rhydaman, Glanaman, y Garnant a Chlwb Rygbi Brynaman.
Cyfleusterau: Mae llefydd bwyta yn Rhydaman (caffis, siopau bara, tafarndai a siopau sglodion), Sgwâr Glanaman (caffi, siop a siop sglodion), y Garnant (yn y Raven Inn) ac ym Mrynaman (siopau, tafarndai a siopau sglodion). Ceir toiledau cyhoeddus yn Rhydaman a Glanaman.
Pantyffynnon i Betws
Mae'r llwybr di-draffig hyfryd hwn yn ymestyn am bron 8 milltir o Bantyffynnon i Frynaman ar hyd Afon Aman, ac mae golygfeydd gwych tuag at y Mynydd Du a Mynydd y Betws. Mae'r llwybr yn cynnwys coetir, ffermdir, pyllau afon a choredau ac mae digonedd o fywyd gwyllt ar bob rhan o'r daith. Mae llawer o adar i'w gweld, gan gynnwys bwncathod ac o bryd i'w gilydd barcutiaid coch, bywyd gwyllt a da byw.
Ceir golygfa drawiadol o'r afon o bont grog sigledig, sy'n ddigon i gyffroi unrhyw un, ac mae glannau'r afon yn gyforiog o flodau gwyllt, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.
Mae'r llwybr yn ddelfrydol i deuluoedd yn benodol, ond hefyd i'r rhai y mae'n well ganddynt daith fwy hamddenol, oherwydd heblaw am ddisgynfa ger Pontaman mae'r llwybr yn dilyn glan yr afon ac yn wastad.
Mae'r llwybr yn dechrau ym mhentref Pantyffynnon, sydd ond hanner milltir i'r de-orllewin o dref Rhydaman. Dilynwch y llwybr a chwrs Afon Aman a byddwch yn beicio heibio canol tref Rhydaman cyn dod i bentref y Betws a'i barc hyfryd a'i amwynderau.


Pontaman i Garnant
Wrth gyrraedd Pontaman, mae'r llwybr yn mynd i mewn i goedwig fry uwchlaw gwely'r afon ac yn dilyn top y llethr heibio i gaeau am ½ milltir. Wedyn mae'n disgyn i lefel yr afon ac ar hyd y llethr serth sy'n ffurfio glan yr afon hyd nes cyrraedd y gwlyptiroedd wrth ymyl yr afon.
Gan basio drwy'r rhain mae'n mynd ymlaen am ½ milltir i'r caeau wrth ochr yr afon a'r bont grog sigledig lle aiff llwybr cyhoeddus dros yr afon. Mae'n werth stopio a chamu oddi ar y beic i'r bont i edrych ar yr afon er mwyn gwerthfawrogi ei grym a'i gogoniant. Efallai y gwelwch bysgod neu fronfreithod bach yn mwynhau yn y dŵr bas neu hyd yn oed ambell Grëyr Glas yn pysgota neu'n hedfan rhwng y canghennau. Mae bwncathod yn olygfa gyffredin a gwelir gwartheg neu gobiau Cymreig yn pori'n dawel gerllaw. Mae'r afon yn byrlymu a gall godi'n sydyn yn dilyn glaw, felly mae angen cymryd cryn ofal wrth grwydro ei glannau.
Fe aiff y llwybr yn ei flaen ar hyd y caeau hyd at ymyl yr afon am filltir heibio i gored a thros bont nant i gaeau chwarae Penpound, sydd â lle chwarae i blant. Wedyn mae'n croesi'r afon i'r lan ddeheuol ac i ran Glanaman, gan fynd ar hyd y lan i'r parc yn y Garnant lle mae maes chwarae antur a chylchred beicio i blant.


Garnant i Brynaman
Cadwch at y llwybr hyd at hen dref ddiwydiannol Brynaman, a chefndir garw y Mynydd Du. Yma fe ddewch chi o hyd i Barc Natur Ynys Dawela ym mharthau uchaf Dyffryn Aman. Roedd hi'n fferm weithredol ar un adeg, ond bellach mae wedi'i datblygu at ddibenion hamdden ac addysg. Mae ei chlytwaith o ddolydd, coed, a gwlyptiroedd, y mae cyfres o lwybrau yn eu cysylltu, bellach ar agor i bawb eu mwynhau. Mae'r dolydd ar eu prydferthaf ddiwedd yr haf pryd y mae'r rhan fwyaf o'r blodau yn eu gogoniant. Mae gan y parc amrywiaeth o gynefinoedd pwysig sy'n cefnogi amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid.
Gallwch barhau ar hyd y llwybr am 4km arall os dymunwch, hyd nes cyrraedd pentref Cwmllynfell, sydd yn sir Castell-nedd Port Talbot.

