Wythnos – Taith Ysgafn
Tro hamddenol
Dewiswch o blith ystod o gylchdeithiau sydd oddeutu 30 milltir o hyd, gan roi rhagflas o dirweddau amrywiol Sir Gaerfyrddin yn ystod wythnos gymedrol o grwydro'r ffyrdd. Yn achos y rhan fwyaf ohonynt gallwch ymestyn y daith os oes gennych chi'r awydd i brofi'ch hun - ac mae yna ddigon i'w weld a'i wneud (ac i fwyta ac yfed) ar eich diwrnodau gorffwys. Rydym wedi awgrymu detholiad sy'n arddangos y gorau o'r sir, ynghyd â manylion ymarferol i'ch helpu i gynllunio wythnos o wyliau amrywiol, gan gynnwys dolenni cyswllt i fapiau a siartiau uchder yn ogystal â llety a llefydd posibl i'w gweld.
Hyd: Wythnos
Mannau Cychwyn: Castellnewydd Emlyn, Login, Llandeilo, Llanymddyfri
Archwilio Gorllewin Sir Gaerfyrddin
Mae'r fersiwn fer o'r Llwybr Gorllewin Sir Gaerfyrddin 63 milltir o hyd yn dechrau yn nhref fywiog Sanclêr, lle byddwch yn dod o hyd i ddigon o lefydd i brynu pethau i fynd â nhw gyda chi ar y daith gron 31 milltir. Anelwch i'r gogledd tuag at Gomin Llanwinio – a pharatowch at ddringo: er nad dyma'r daith anoddaf o bell ffordd, byddwch yn esgyn rhyw 850 metr yn ystod y diwrnod. O'ch safle fry ar y comin, bydd eich taith i'r de (ac i lawr rhiw gan mwyaf) i Hendy-gwyn ar Daf yn mynd heibio i le diddorol a hyfryd dros ben: Gwinllan Jabajak, sydd yn lle deniadol i gael diod neu bryd o fwyd. Mae tref Hendy-gwyn ar Daf ei hun yn gartref i Ardd a Chanolfan Ddehongli Hywel Dda sy'n dathlu'r hyn a gyflawnodd y brenin o'r 10fed ganrif. Ewch yn eich blaen i'r de, gan ddringo i bentref Rhos-goch, ac yna ewch i'r gogledd-ddwyrain ar gyfer y daith i lawr rhiw yn ôl i Sanclêr, gan alw yn Y Gât i edmygu'r crefftau lleol a mwynhau cwpanaid o goffi i'ch adfywio.
Cylchdaith Castellnewydd Emlyn
Mae'r fersiwn fyrrach o Daith Afon Teifi (sydd yn daith fwy heriol 56 milltir o hyd) yn antur hygyrch 25 milltir o hyd yng nghefn gwlad gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin. Gan ddechrau o Gastellnewydd Emlyn, sydd yn dref ddeniadol ar lan afon Teifi gyda digon o lefydd am fwyd (ewch i deli Tŷ Croeso i gael danteithion i'ch picnic), byddwch yn gwneud yr unig ddringo go iawn ar ddechrau'r diwrnod wrth fynd ar gymal cyntaf y daith tua'r de. Byddwch yn troi i'r gogledd-orllewin tuag at Boncath ac yna i'r gogledd-ddwyrain yn ôl i Ddyffryn Teifi yng Nghenarth, ble gallwch ymlacio wrth y rhaeadrau - gan efallai fwynhau peth o'r caws lleol y mae'r ardal hon yn enwog amdano. Yna yn ôl ar hyd Afon Teifi i Gastellnewydd Emlyn, gan ddathlu yng Ngwesty’r Emlyn.
Rhiwiau Byrion, Beiciwr Bodlon
Mae'r daith epig 62 milltir o hyd Rhiwiau Hirion, Beiciwr Bodlon ymhlith yr anoddaf yng Nghymru - ond mae ein fersiwn 33.5 milltir yn hepgor y rhiwiau mwyaf heriol gan gadw'r darnau mwyaf prydferth ar hyd dyffrynnoedd Tywi a Chothi. Tref farchnad liwgar Llandeilo ar ochr y bryn yw eich man cychwyn - a dyma hefyd un o'r mannau gorau am fwyd yn y sir: deffrwch trwy gael coffi a brecwast yn The Hangout, llenwch eich basgedi â danteithion picnic o Ginhaus deli, a dilynwch eich seren i'r gogledd-ddwyrain i Fethlehem. Mae yna rywfaint o riw wrth nesu at Langadog, ond dim ond ar ôl Llanymddyfri (mae coffi da i'w gael yn Ystafelloedd Te Penygawse), tref arall sydd â chastell adfeiliedig yn ei gwarchod, y byddwch yn troi i'r gorllewin ac mae'r bryniau'n dechrau o ddifri. Ar ôl Crug-y-bar, mae'r trywydd yn gwyro tua'r de ac yn gadael y rhiwiau mwyaf y tu ôl, gan fynd heibio i adfeilion Abaty Talyllychau ar y ffordd yn ôl i Landeilo.
O amgylch Llanymddyfri
Llanymddyfri yw'r canolbwynt ar gyfer dim llai na 12 o lwybrau wedi'u mapio o amgylch gogledd Sir Gaerfyrddin, yn amrywio o feicio hamddenol am 13km/8 milltir i deithiau tipyn mwy heriol 93km/58 milltir, ond mae tair o'r cylchdeithiau, sydd i gyd ychydig o dan 30 milltir o hyd, yn darparu teithiau beicio cymedrol, diwrnod o hyd, ar gyfer ein hwythnos o wyliau. Yn gyntaf, archwiliwch y Bannau Brycheiniog i'r de-ddwyrain o'r dref, gan feicio heibio i Ganolfan Bwydo Barcutiaid Coch Llanddeusant a thrwy Goedwig Glasfynydd uwchben Cronfa Ddŵr Wysg. Yna ewch o amgylch Mynydd Mallaen, gan fynd heibio i Bumsaint, safle cyfareddol Mwyngloddiau Aur Rhufeinig Dolaucothi. Cwblhewch y daith trwy ddringo trwy dirwedd ddramatig i uwchdiroedd gwyllt - sydd bellach yn eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn - ar Fynydd Epynt i'r dwyrain o'r dref.
Ble i aros
Mae gan feicwyr ddigon o ddewis yn Sir Gaerfyrddin, gydag amrywiaeth o opsiynau llety addas i feicwyr ar draws y Sir, o westai a thafarndai croesawgar mewn trefi marchnad bywiog i fflatiau hunanarlwyo a bythynnod clyd, sydd i gyd â llefydd storio beiciau diogel, rhai yn cynnig cyfleusterau golchi beiciau, ystafelloedd sychu a gwybodaeth am y llwybrau lleol gorau. Chwiliwch yr ystod lawn o lety ar-lein trwy fynd i.
Sut i gyrraedd yma
Mae Llandeilo 19km/12 milltir o ben gorllewinol yr M4 ger Abertawe; mae'r A40 yn cysylltu Llanymddyfri, Llandeilo, Caerfyrddin, Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf. Mae trenau uniongyrchol ar reilffordd Calon Cymru, sy'n cludo beiciau, yn cysylltu Llandeilo â Llanymddyfri (20 munud), Abertawe (1 awr) ac Amwythig (3 awr). Mae Hendy-gwyn ar Daf 2.5 awr o Gaerdydd trwy drên uniongyrchol.
Beth i'w weld a'i wneud
West Route
Gardd a Chanolfan Ddehongli Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf
Dysgwch am yr hyn a gyflawnodd Hywel Dda, brenin y rhan fwyaf o Gymru nôl yn y 10fed ganrif, gan gynnwys ei gyfraith arloesol.
Castell Castellnewydd Emlyn
Adfeilion llawn cymeriad ar dwmpath glaswelltog uwchben dolen yn Afon Teifi.
Dinefwr, Llandeilo (tro oddi ar y llwybr)
Parc ceirw wedi'i dirlunio'n hardd a chastell adfeiliedig o amgylch Plas Dinefwr (Tŷ Newton) sy'n dyddio o'r 17eg ganrif ac sydd â chaffi deniadol, ychydig y tu allan i Landeilo.
Abaty Talyllychau
Adfeilion prydferth Abaty o'r 12fed ganrif a sefydlwyd gan urdd fynachaidd y Premonstratensiaid, neu'r Canoniaid Gwyn.
Carreg Cennen (tro oddi ar y llwybr)
Un o gestyll adfeiliedig mwyaf dramatig Cymru, 6km i'r dwyrain o Ffair-fach.
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/carreg-cennen
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Pumsaint (tro oddi ar y llwybr)
Mwyngloddiau aur cyfareddol yn dyddio o oes y Rhufeiniaid, 4km i'r gogledd o Grug-y-bar.
Gorsaf Fwydo Barcutiaid Coch Llanddeusant (tro oddi ar y llwybr)
Gwyliwch ddwsinau o'r adar ysglyfaethus hardd hyn yn ymgynnull i'r de o Lanymddyfri.