Fel llawer o drefi a phentrefi bach ar hyd arfordir de Cymru, mae gwreiddiau Pen-bre mewn diwydiant trwm. Er bod y pentref yn dyddio o'r Oesoedd Canol, digwyddodd y rhan fwyaf o ddatblygiad Pen-bre yn ystod ffyniant y diwydiant mwyngloddio glo yn y 18fed a'r 19eg ganrif, pan oedd yn borthladd. Hyd at 1965, roedd gwaith arfau rhyfel yn cynhyrchu TNT ac amoniwm nitrad yn niogelwch cymharol Twyni Pen-bre gerllaw.
Dim ond rhai pethau sydd i'n hatgoffa o orffennol diwydiannol y pentref heddiw, cofiwch. Mae Twyni Pen-bre bellach yn gartref i un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, sef Parc Gwledig Pen-bre. Bydd datblygu marina newydd yn cwblhau'r gwaith o drawsnewid yr harbwr o fod yn borthladd diwydiant trwm i fod yn ardal hamdden. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm, sef llwybr cerdded a llwybr beicio 13 milltir ar hyd aber afon Llwchwr, yn mynd o'r Bynea yn y dwyrain trwy Borth Tywyn, cyn dod i ben ym Mhen-bre.
Darllenwch ragor i ddysgu bod mwy i’r ardal na threftadaeth ddiwydiannol.
Parciau a hamdden
Mae Parc Gwledig Pen-bre a thraeth Cefn Sidan wedi'i leoli mewn 500 erw o barcdir gogoneddus, ychydig funudau mewn cerbyd o'r pentref ei hun. Bydd aelodau iau y teulu wrth eu bodd â’r cwrs golff giamocs 18-twll a bydd y maes chwarae antur yn rhoi digon o gyfle iddynt losgi egni dros ben. Bydd pobl ifanc egnïol (ac oedolion, o ran hynny) yn mwynhau tasgu i lawr y rhedfa dobogan hiraf yng Nghymru a sgïo, eirfyrddio a thiwbio ar lethr sych 130 metr. I'r rhai sydd am ymlacio rhywfaint (neu dreulio amser ar wahân i'r teulu!), mae yna nifer o lwybrau coetir heddychlon a llwybrau parcdir ichi eu troedio neu fynd ar feic arnynt.
Tywod yn symud
Ar gyrion deheuol Parc Gwledig Pen-bre mae twyni a thraeth Cefn Sidan, sef traeth hiraf Cymru sy'n 8 milltir o hyd. Mae hefyd wedi ennill mwy o wobrau'r Faner Las nag unrhyw draeth arall yng Nghymru. Ar ddiwrnod clir cewch weld golygfeydd godidog cyn belled i'r gorllewin ag Ynys Bŷr, draw i Ynys Wair, ac yna draw i Benrhyn Gŵyr. Mae’n ffefryn gyda thorheulwyr, nofwyr a cherddwyr fel ei gilydd.
Ond adeg llanw isel datgelir hanes mwy tywyll y rhan hon o'r arfordir, pan ddaw olion nifer o hen longddrylliadau i'r amlwg. Cafodd rhai eu diwedd o achos llanw a glannau bas enwog Môr Hafren, a chafodd eraill eu hudo gan gangiau o ysbeilwyr a oedd wedyn yn lladrata eu cargo gwerthfawr.
Dywedir bod 300 o longddrylliadau yn yr ardal, ac felly ni ddylai fod yn syndod bod stormydd y gaeaf weithiau'n datgelu rhagor o ysbail. Daeth angor 12 troedfedd, un dunnell, y credir ei fod hyd at 170 oed, i'r amlwg yn 2013 a chael ei adfer.
Porth Tywyn
Dafliad carreg i ffwrdd, doedd fawr ddim ym Mhorth Tywyn oni bai am ffermydd hyd nes i'r harbwr gael ei adeiladu yn y 1830au i gludo glo o Gwm Gwendraeth. Yna agorodd gwaith tunplat, copr, arian a phlwm wrth ei ochr. Pan oedd yr hen borthladd ym Mhen-bre wedi llenwi gymaint â llaid hyd nes bod yn rhaid cefnu arno, symudwyd yr holl draffig morol i Borth Tywyn. Mae'r goleudy, sydd wedi'i leoli ar forglawdd gorllewinol yr harbwr allanol, ymhlith yr ychydig bethau sy’n ein hatgoffa bod hwn yn ddoc allforio glo pwysig yn y gorffennol.
Mae Porth Tywyn yn un o'r mannau sy'n dadlau ers tro byd ynghylch ble yn union y glaniodd Amelia Earhart gyntaf ar ôl iddi dorri'r record am hedfan ar draws yr Iwerydd. Y pentref arall sy'n rhan o'r ddadl yw pentref llai y Pwll, sydd ddwy filltir i'r dwyrain. Mae'r ddadl yn deillio o'r ffaith fod yr awyren – awyren fôr o'r enw Friendship – wedi glanio yn aber Afon Llwchwr, oddi ar y Pwll. Fodd bynnag, cafodd yr awyren ei thynnu i Harbwr Porth Tywyn, a dyna lle camodd Earhart a'i chriw ar bridd Prydain am y tro cyntaf. Felly, mae'r ddau le'n hawlio'r glaniad. Ym Mhorth Tywyn, mae'r llwyddiant yn cael ei goffáu yng Ngerddi Amelia Earhart yng nghanol y dref a saif cofeb restredig Gradd II ar ochr yr harbwr. Yn y cyfamser, mae gan y Pwll blac glas swyddogol i nodi'r glaniad yn yr aber.
Mwynhau byd natur
Y daith gerdded 3.5 milltir o harbwr Porth Tywyn i Barc Gwledig Pen-bre yw rhan olaf Llwybr Arfordirol y Mileniwm. Mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n 67 milltir o hyd ac sy'n mynd trwy Sir Gaerfyrddin. Mae Twyni Pen-bre yn system fawr o dwyni tywod sy'n ehangu – sy'n nodwedd brin – lle byddwch yn gweld twyni'n datblygu ar wahanol gamau, gan gynnwys egin-dwyni, twyni mawr melyn lled-sefydlog, a thwyni llwyd sefydlog lle mae glaswelltir twyni. Yn ogystal â llawer o blanhigion prin, mae'r pryfed sy'n dibynnu arnynt hefyd yn unigryw a gallwch ddod o hyd i nifer o rywogaethau o löynnod byw a gwenyn a phicwns sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae'r morfa heli'n llawn lliw yn yr haf – mae lafant y morgreigiau'n llenwi'r morfa â blodau porffor ym mis Awst ac, ychydig yn hwyrach, mae sampier y geifr a seren y morfa'n blodeuo, sy'n golygu bod y lle'n drwch o felyn.
Gair o rybudd
Ychydig y tu allan i'r pentref, Cylch Rasio Pen-bre yw cartref chwaraeon moduro Cymru, a gallwch fynd ar y trac trwy archebu un o'r tri phrofiad gyrru y maent yn eu cynnig yno. Mae'r lap 1.46 milltir wedi cael ei yrru gan y goreuon; mae timau Fformiwla Un, gan gynnwys Arrows, BAR, Benetton, Jordan, McLaren a Williams i gyd wedi gyrru yma. Cafodd y record am y lap gorau – er mai record answyddogol yw hon – ei gosod gan Ayrton Senna. Mae llawer o rasys yn cael eu cynnal ar y trac trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys rasio tryciau, ceir a beiciau a gall gwylwyr weld tipyn go lew o’r trac o bron bob un o'r mannau gwylio.
Argymhellion
Y peth mae'n rhaid ei wneud: Cael profiad o rasio ar drac rasio Pen-bre.
Y lle delfrydol i dynnu llun: Dihunwch cyn y wawr i dynnu llun o belydrau cyntaf yr haul yn treiddio ar draws y twyni a'r traeth yng Nghefn Sidan.
Y stori syfrdanol: Ewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Pen-bre a darganfyddwch sut yr arferai'r gweithwyr yn yr hen ffatri arfau beryglu eu bywydau bob dydd.
Man i gael tamaid blasus: Te prynhawn yn ystafell de’r Harbour Light ym Mhorth Tywyn. Mae'r lle nid yn unig yn croesawu cŵn, mae hefyd yn cynnig 'cwrw i gŵn' o gasgen (peidiwch â phoeni, dŵr yw e mewn gwirionedd!).
Y trysor cudd: Eglwys Sant Illtyd, lle mae llawer o'r morwyr a'r teithwyr a fu farw yn y llongau a ddrylliwyd ar y banciau tywod oddi ar Gefn Sidan wedi cael eu claddu.