Mae pentref prydferth Llansteffan yn swatio rhwng glannau Aber Tywi a bryniau tonnog Sir Gaerfyrddin. ae gan y prif draeth dywod euraidd, sy'n feddal i eistedd arno ond sy'n ddigon cadarn i adeiladu cestyll tywod gwerth chweil.
Mae gan y prif draeth dywod euraidd, sy'n feddal i eistedd arno ond sy'n ddigon cadarn i adeiladu cestyll tywod gwerth chweil. Os ewch chi o gwmpas i gildraeth diarffordd Bae Scott, byddwch yn mynd heibio i byllau glan môr sy'n llawn bywyd môr. Saif castell Normanaidd o'r 12fed ganrif ar y bryn, a oedd yn rheoli hen groesfan bwysig ar yr afon. Daeth y gwasanaeth fferi olaf rhwng Llansteffan a Glanyfferi i ben yn yr 1940au, ond yn 2018, roedd gwasanaeth fferi newydd Glansteffan wedi adfer y groesfan 1,000 oed.
Castell gogoneddus
Rhan o apêl Llansteffan yw'r castell o'r 12fed ganrif, sy'n sefyll yn drawiadol ar benrhyn amlwg yn edrych dros wastadeddau tywod Aber Tywi a Bae Caerfyrddin. Roedd y castell yn rheoli'r groesfan bwysig rhwng Llansteffan a Glanyfferi ac mewn gwirionedd roedd yn meddiannu safle a amddiffynnwyd ers y cyfnod cynhanesyddol.
Nid yw'n syndod bod y Normaniaid wedi sylwi ar arwyddocâd amddiffynnol y safle yn ddiweddarach ac wedi'i chwalu'n fuan ar ôl 1100. Adeiladon nhw'r waliau cerrig garw y gallwch chi eu gweld hyd heddiw. Dros y canrifoedd nesaf, bu arglwyddi Lloegr a rheolwyr Cymru yn ymladd dros y castell. Cafodd y castell ei gipio gan luoedd Cymru yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr, cyn cael ei ailgipio gan y Saeson a'i roi i'r Goron. Ar ddiwedd y 15fed ganrif, rhoddodd y Brenin Harri VII y castell i'w ewythr, Jasper Tudor, Iarll Penfro.
Er mai dim ond adfeilion y castell sydd yno heddiw, mae'n dal i fod yn drawiadol – yn enwedig pan fyddwch yn nesáu at ei borth deudwr, a adeiladwyd tua 1280.
Pentref bywiog
Mae gan Lansteffan yr holl elfennau ar gyfer y pentref glan môr perffaith. Mae'r Green yno, sef darn o gomin cymen ar hyd y draethlin lle mae teithwyr yn dod oddi ar y fferi. Mae dwy dafarn yno: tafarn draddodiadol y Castell Inn, sy'n gweini bwyd tafarn blasus a chwrw lleol, ac yna drws nesaf, The Inn at the Sticks, sef tafarn gastro gydag ystafelloedd. Mae eglwys bentref yno ac, fel llawer o drefi a phentrefi yng Nghymru, mae capel traddodiadol y Bedyddwyr yno. Yn ogystal mae siop bentref a swyddfa bost yno, ystafell de (sydd hefyd yn siop ar lan y môr) ac wrth gwrs, siop pysgod a sglodion. Mae hyd yn oed wedi llwyddo i gadw ei giosg ffôn coch eiconig.
Daeth Llansteffan yn gyrchfan wyliau ffasiynol yng nghanol y 19eg ganrif, pan ddechreuodd pobl gyfoethog o'r dref o Oes Fictoria gyrraedd ar Reilffordd y Great Western a oedd newydd agor. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, byddai glowyr o gymoedd de Cymru yn mynd i'r gorllewin gyda'u teuluoedd ar gyfer 'Pythefnos y Glowyr', sef wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst yn draddodiadol. Y dyddiau hyn, Llansteffan yw'r lle perffaith i'r rhai sydd am gael seibiant hamddenol mewn man lle nad yw mor gyfarwydd i dwristiaid.
Y Cysylltiad â Dylan Thomas
Roedd gan Florence, mam Dylan Thomas, deulu'n byw yn y cymunedau gwledig o gwmpas Llansteffan. Treuliodd Dylan sawl gwyliau braf ar fferm ei fodryb, Fernhill, pan oedd yn fachgen ifanc yn troedio ar hyd yr arfordir. Mae ei gerdd Fern Hill yn datgelu'r rhyddid a'r diniweidrwydd gwerthfawr hwn o'i ieuenctid. Mae'r Edwinsford Arms, tafarn a fu unwaith yn torri syched yr yfwyr yn Llansteffan, yn ymddangos yn ei stori A Visit to Grandpa's. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, byddai Thomas yn rhwyfo ar draws Aber Afon Taf i gwrdd â'i dad am beint yno.
Maer ffug
Un o draddodiadau'r pentref sydd wedi ailddechrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw ethol Maer Ffug Llansteffan. Credir y gallai'r arferiad fod wedi dechrau yn y 19eg ganrif fel math o brotest gan y gweithwyr amaethyddol lleol yn erbyn y rhai a oedd wrth y llyw, sef yr arglwyddi, y dugiaid a'r gwleidyddion. Byddai arweinydd yn cael ei ddewis, fel arfer rhywun oedd ag enw da am fod yn llawn hwyl, ac yna byddai'n cael ei wisgo ac yn gorymdeithio o amgylch y pentref ar drol neu gambo i ddifyrru pawb.
Yn ddiweddar, ethol y maer ffug yw'r digwyddiad cyntaf yng Ngŵyl Llansteffan, sydd fel arfer yn digwydd yn y pentref ddechrau mis Awst. Mae ymgeiswyr yn gwneud tipyn o ymdrech i baratoi eu hymgyrchoedd, ac mae rhai hyd yn oed yn cynhyrchu fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyflwyno eu haddewidion mawr ar gyfer eu maniffesto.
Argymhellion
Y peth mae'n rhaid ei wneud: Ewch am dro i fyny'r bryn i Gastell Llansteffan o'r 12fed ganrif.
Y lle delfrydol i dynnu llun: Yr olygfa o'r arfordir a'r castell o fferi Glansteffan.
Y stori syfrdanol: Cysylltiadau teuluol Dylan Thomas â'r pentref.
Man i gael tamaid blasus: I gael profiad glan môr go iawn, ewch yn syth o'r traeth i gael pysgod a sglodion ffres o Florries.
Y trysor cudd: Cerddwch hanner milltir o amgylch y pentir i gildraeth tawel Bae Scott. Dyma le perffaith i gael picnic rhamantus.