Tua 10 milltir i'r de o Gaerfyrddin, wrth aber Afon Tywi, roedd Glanyfferi yn hanesyddol yn bentref pysgota a oedd yn brif gyrchfan y diwydiant hel cocos ym Mae Caerfyrddin. Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, roedd hefyd yn groesfan ganoloesol, a oedd yn cysylltu Cydweli â Llansteffan. Yn 2018, roedd Glansteffan, y gwasanaeth fferi newydd, wedi adfer y groesfan 1,000 mlwydd oed ar ôl bwlch o 70 mlynedd.
Yn rhyfedd o beth mae gan y pentref ei orsaf reilffordd ei hun er mai dim ond poblogaeth o 850 sydd ganddo. Mae hyn, yn rhannol, yn etifeddiaeth o weledigaeth Brunel y byddai teithwyr yn gallu teithio gan ddefnyddio un tocyn o Lundain Paddington i Efrog Newydd, gan stopio unwaith yn unig i newid o drên i agerlong yn yr orsaf yn Neyland, yn y sir gyfagos, Sir Benfro. Ond y dyddiau hyn, nid ydych yn debygol o weld pobl yn cario cistiau o'r trenau. Maent yn fwy tebygol o gario dillad glan y môr.
Traffig yn croesi’r Tywi
Credir bod croesfan fferi Glanyfferi – Llansteffan yn dyddio'n ôl i 1170 ac roedd yn gyswllt pwysig ar gyfer cludo nwyddau ar draws yr aber a chario pererinion oedd yn mynd i Dyddewi. Daeth y gwasanaeth i ben yn 1948, ond ailddechreuodd yn 2018. Wrth gwrs, mae angen cwch o'r 21ain ganrif ar wasanaeth fferi o'r 21ain ganrif a chan fod y gwasanaeth yn dibynnu ar y llanw, defnyddir Glansteffan, sef fferi tir a môr a gynlluniwyd yn benodol i ymdopi â'r llanw a thrai, ac mae ganddi olwynion a yrrir yn hydrolig ac y gellir eu tynnu'n ôl.
Yn gyffredinol, mae'r gwasanaethau fferi rhwng Glanyfferi a Llansteffan yn gweithredu ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd, hynny yw ar y diwrnodau y mae’r gwasanaeth yn weithredol. Yn ystod y cyfnod hwn gellir mynd ar deithiau 45 munud, y gellir eu harchebu ymlaen llaw, ar yr aber.
Tamaid i'w fwyta
Pryd o Fwyd... yn union fel y mae'r enw'n ei awgrymu. Mae'r lle'n paratoi bwydydd blasus i'w bwyta, p'un a ydych yn chwilio am ginio 4 cwrs yn y bwyty neu fyrbryd cyflym amser cinio yn y caffi drws nesaf. Mae'r caffi hefyd yn cynnig gwasanaeth Swyddfa Bost, ar ôl i bostfeistres y pentref ymddeol!
Bwyd y môr
Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant wedi dod i ben yng Nglanyfferi, mae rhai pobl yn dal i hel cocos a physgota gan ddefnyddio rhwydi 'sân' traddodiadol. Mae'r cyfuniad o draethau helaeth, bas a digonedd o fwyd y môr ym Mae Caerfyrddin yn gyfle delfrydol i chwilota am eich cinio eich hun. Gair o rybudd: pan fyddwch yn mynd i chwilota, ewch gydag arbenigwr lleol bob amser. Bydd yr arbenigwr yn deall natur y llanw ac yn gwybod beth sy'n ddiogel i'w fwyta a beth nad yw'n ddiogel i'w fwyta.
Achubwyr bywyd
Gosodwyd bad achub yng Nglanyfferi am y tro cyntaf yn 1835, ac mae sawl hanes am bobl ddewr sydd wedi dangos arwriaeth fawr yn ystod achubiadau dros y blynyddoedd. Mae dal modd gweld llongddrylliad Craigwhinnie yn ystod llanw isel yn aber Afon Gwendraeth. Aeth bad achub Glanyfferi allan at y llong ddwywaith pan aeth i'r tir yn 1899, gan achub 18 o bobl.
Dros 185 mlynedd yn ddiweddarach, mae bad achub y glannau Glanyfferi yn dal i fod ar gael 24/7 i ymateb i alwadau 999 a galwadau cyfyngder ar y radio. Fel y rhan fwyaf o wasanaethau bad achub, gwirfoddolwyr lleol yw'r holl staff ac fel gwasanaeth annibynnol, caiff ei ariannu gan roddion gan fusnesau a'r gymuned.
Os yw drysau'r orsaf ar agor, beth am alw i ddweud helô, a rhoi cyfraniad i'r gwasanaeth arfordirol hanfodol hwn. Gellir gweld y criw yn aml yn ymarfer ar y dŵr ar nos Fercher a phrynhawn dydd Sul.
Hen feistri
Trefnwch ymweliad â Tim Bowen Antiques a bydd yr amrywiaeth o ddodrefn, celf werin a phaentiadau o Gymru a arddangosir yn rhoi cipolwg diddorol i chi ar fywyd, hanes a diwylliant Cymru. Dechreuodd diddordeb Tim mewn dodrefn gwledig o Gymru pan welodd gadair bren o Gymru'n cael ei gwerthu yn yr ystafell arwerthu lle roedd yn gweithio. Ar ôl dod o hyd i'w gamp, bu'n rheolwr oriel yn County Antiques yng Nghydweli am flynyddoedd lawer, cyn iddo ef a'i wraig, Betsan, agor eu horiel eu hunain o'r diwedd yn 2005.
Pentref coll
I'r de o Lanyfferi mae pentref canoloesol Llanismel, a dim ond yr eglwys sy'n dal i fod yno. Credir bod gweddill y pentref wedi'i golli oherwydd y llanw a’r tywod yn symud. Cafodd adfeilion rhai o'r tai eu darganfod a'u hymchwilio gan archaeolegwyr yn 2010; a daeth rhagor i'r amlwg ar ôl storm yn 2017. Weithiau gellir eu gweld yn ystod llanw isel.
Argymhellion
Y peth mae'n rhaid ei wneud: Mynd ar daith ar y Glansteffan i 3 cornel Aber Tywi yn ystod machlud haul neu doriad gwawr.
Y lle delfrydol i dynnu llun: Y cerflun o froc môr o bysgotwr a'i helfa, o'r enw Cyfeillgarwch, gyferbyn â The Ferry Cabin.
Y stori syfrdanol: Sut y gwnaeth David Jones, neu 'Dai Pilot', sef un o griw'r bad achub, yn 71 oed, achub 17 aelod o griw llong SV Paul o'r Almaen.
Y daith gerdded orau: Taith gerdded gylchol Glanyfferi/Iscoed, lle gellir gweld bywyd gwyllt y corstir a meini hirion o'r Oes Efydd.
Man i gael tamaid blasus: The Ferry Cabin sydd newydd ei ailagor, sy'n gweini sglodion a physgod sydd ymysg y gorau yng Nghymru yn ôl adolygwyr ar Trip Advisor.