English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae traffordd yr M4 yn troi yn ffordd yr A48 tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Cross Hands. Mae nifer o deithwyr ar yr A48 yn anelu ymhellach i'r gorllewin i Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru y tu hwnt. Fodd bynnag, mae Cross Hands a'r clwstwr o gymunedau o amgylch yn fan gwych i aros ar y ffordd. Yn aml iawn mae ymwelwyr yn anwybyddu'r rhan hon o Sir Gaerfyrddin, ond mae'n werth treulio ychydig oriau yma.

Saif Cross Hands yng ngogledd Cwm Gwendraeth. Mewn gwirionedd nid un Cwm Gwendraeth sydd ond dau - Cwm Gwendraeth Fach a Chwm Gwendraeth Fawr. Mae Afon Gwendraeth Fawr - sef fyrraf o'r ddwy afon yn ddryslyd ddigon - yn tarddu o gyfres o darddelli i'r gogledd o Cross Hands.

Mae'r gwneuthurwr ffilmiau lleol, Rebecca Hayes, yn adnabod y rhan hon o Sir Gaerfyrddin yn dda a gofynnwyd iddi beth fydd ymwelwyr yn ei ddarganfod yn y rhan hon o'r Sir. Dyma'r hyn a ddywedodd hi wrthon ni.

Mae Rebecca yn wyneb cyfarwydd yn y rhan hon o Gymru. Roedd hi'n ddarlledwraig ac yn gyflwynydd ar BBC Cymru ac mae hi bellach yn rhedeg cwmni cynhyrchu ffilmiau llwyddiannus yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed Rebecca wrthym fod Cross Hands yn ôl y sôn wedi cael ei enwi gan mai dyma lle'r oedd carcharorion yn cael eu cyfnewid ar y ffordd i'w carcharu yn Abertawe a Chaerfyrddin. Tyfodd y pentref o amgylch hen lofa Cross Hands, a agorodd yn 1869. Dywed hyn wrthym ein bod mewn ardal lofaol, gan fod Cwm Gwendraeth Fawr ar ymyl orllewinol maes glo enwog De Cymru.

Tro yn y Parc

Mae'n anodd dychmygu gorffennol diwydiannol yr ardal pan fyddwch yn ymweld â Pharc Gwledig Llyn Llech Owain. Mae'r Parc ychydig oddi ar yr A48 ger pentref Gors-las. Yma, mewn 180 erw o harddwch naturiol, byddwch yn darganfod rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau i gerddwyr a beicwyr. Canolbwynt y parc yw'r llyn hardd - Llyn Llech Owain. Credir mai Owain Lawgoch, hurfilwr o Gymro a ymladdodd gyda'r Ffrancwyr yn y rhyfel 100 mlynedd, oedd yr Owain hwn.

Mae'r llyn a'r mawnogydd o'i amgylch yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n gynefin prin ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Mae cynefinoedd eraill y parc yn cynnwys cymysgedd o goetir conwydd a choed llydanddail a rhostir. Mae'r amrywiaeth hon yn golygu bod y Parc yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt gan gynnwys Sgrech y Coed, y Cudyll Coch, y Boda, Madfallod a Neidr y Gwair.

Mae parc arall yn yr ardal yn dathlu hanes mwyngloddio glo. Dywed Rebecca wrthym fod y cerflun ar ffurf lamp glöwr enfawr sy'n nodi'r fynedfa i Barc Coetir y Mynydd Mawr yn y Tymbl gerllaw yn fan gwych i aros a chymryd llun.

Mae'r Parc wedi'i ddatblygu dros ardal o hen byllau glo ac mae'n cynnig cyfres o deithiau cerdded i ymwelwyr trwy goetir llydanddail a glaswelltir sydd bellach yn gartref i fywyd gwyllt lleol. Cadwch lygad am Las y Dorlan a Chnocell y Coed ac efallai y cewch gip ar y dyfrgi (neu'r dwrgi) swil hefyd. Mae'r Parc yn darparu llwybrau troed, cyfleusterau picnic, mannau gwybodaeth a thrac ar gyfer beicwyr mynydd a marchogwyr.

Cael Hoe

Ar ôl treulio ychydig oriau yn y parciau, byddwch yn siŵr o fod yn barod am rywbeth i'w fwyta. Yn Nhŷ Coffi a Cwtch Y Coed gallwch fwynhau Coffi Coaltown, sy'n dwyn enw priodol gan ei fod yn cael ei rostio yn Rhydaman gyfagos. Gallwn argymell blend Rhif 3 sef Black Gold, sy'n talu teyrnged i'r glowyr a beryglodd eu bywydau yn cloddio am yr aur du neu lo wrth gwrs. I'r rhai sy'n hoffi te beth am roi cynnig ar Gaffi Henleys, hefyd yn y Tymbl. Dyma le gwych i gael te prynhawn mewn lleoliad croesawgar iawn.

Mae gril a bwyty'r Coal House yn Cross Hands hefyd yn cyfeirio at y dreftadaeth lofaol leol. Yno ceir bwyd a chwrw lleol. Mae Rebecca'n awgrymu'r Cregyn Gleision wedi'u stemio ond mae'n anodd gwrthod y stêcs nodedig.

Os ydych chi'n hoffi eich atgofion wedi'u gwneud â llaw, mae Rebecca'n awgrymu'r Welsh Slate and Gifts Boutique a welwch chi ar Heol Caerfyrddin yn Cross Hands. Mae'r holl anrhegion llechi wedi'u gwneud o lechen Gymreig go iawn o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru. Ffrâm llun wedi'i wneud yn bwrpasol o lechen yw'r union beth i gadw atgofion o'ch ymweliad â Sir Gaerfyrddin.

Blas ar Gymru

Mae Sir Gaerfyrddin yn wlad amaethyddol ac mae'r teulu Watkins wedi bod yn ffermio'r tir hwn ers y 1950au. Yn 2008 gwnaethant agor Siop Fferm a Gril Cwmcerrig yn Gors-las. Mae'r siop sydd bellach wedi ennill gwobrau yn llawn o fwyd a diod a ddaw o ffynonellau lleol. Mae eu hamperi bwyd a diod yn rhywbeth arbennig. O siytni i siocled a gwin i bice ar y maen, mae'r hamperi'n llawn o gynnyrch Cymru.

Pictiwr Perffaith

Efallai mai'r adeilad mwyaf trawiadol a nodedig yn Cross Hands yw'r sinema leol. Cafodd yr adeilad Art Deco hwn ei adeiladu fel Neuadd Gyhoeddus Cross Hands yn 1932 ac roedd ar un adeg yn ganolfan ddiwylliannol i'r glowyr lleol. Talai'r glowyr am gynnal a chadw'r adeilad drwy gyfrannu 1c o'u cyflogau wythnosol. Ar ôl i'r adeilad ddadfeilio cafodd ei ailagor yn 1996. Heddiw mae'r adeilad yn ganolfan bwysig i'r pentref unwaith eto ac mae gwirfoddolwyr o'r gymuned yn helpu i'w gadw ar agor. Ar ddiwrnod glawog mae'r adeilad llawn naws hwn yn lle delfrydol i weld y ffilmiau cyfredol.

Mae'r gwneuthurwr ffilmiau lleol, Rebecca Hayes, yn adnabod y rhan hon o Sir Gaerfyrddin yn dda a gofynnwyd iddi beth fydd ymwelwyr yn ei ddarganfod yn y rhan hon o'r Sir. Dyma'r hyn a ddywedodd hi wrthon ni.

Mae Rebecca yn wyneb cyfarwydd yn y rhan hon o Gymru. Roedd hi'n ddarlledwraig ac yn gyflwynydd ar BBC Cymru ac mae hi bellach yn rhedeg cwmni cynhyrchu ffilmiau llwyddiannus yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed Rebecca wrthym fod Cross Hands yn ôl y sôn wedi cael ei enwi gan mai dyma lle'r oedd carcharorion yn cael eu cyfnewid ar y ffordd i'w carcharu yn Abertawe a Chaerfyrddin. Tyfodd y pentref o amgylch hen lofa Cross Hands, a agorodd yn 1869.

Awgrymiadau Rebecca
Y Tro Cerdded Gorau – Y llwybr ar lan y llyn ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain.

Beth all ymwelwyr ddim peidio â'i wneud – Mynd â rhodd unigryw wedi'i gwneud o lechen adref gyda nhw.

Man i oedi a chymryd llun – Y Lamp Glöwr Enfawr ym Mharc Coetir y Mynydd Mawr

Y Trysor Cudd – Sinema Art Deco Cross Hands.

Ei Ffefryn Personol – Hamper o Siop Fferm Cwmcerrig.

Man i gael tamaid blasus – Henleys yn Tymbl.

Cross Hands

Pethau i'w gwneud