O olygfeydd panoramig o'r aber i derasau gardd heddychlon a mynyddoedd mawrion dramatig, mae Sir Gâr yn gartref i rai o fannau bwyta mwyaf prydferth Cymru. P'un a ydych chi'n awyddus i fwynhau brecwast bach hamddenol ar lan y môr, cinio rhamantus gyda golygfeydd gwledig, neu noson fywiog o goctels a cherddoriaeth, mae bwrdd perffaith yn aros amdanoch chi.
Milk Wood Bar & Kitchen - Talacharn
Gyda thri theras yn cynnig golygfeydd ysblennydd dros Aber Afon Taf, Milk Wood Bar & Kitchen yw'r lle delfrydol ichi fwynhau prynhawniau heulog a nosweithiau bywiog. Gallwch ddewis gwledda ar frechdanau ffres, saladau blasus, a danteithion melys yn ystod y dydd, yna gallwch fwynhau prydau fel pizzas tân coed wrth iddi nosi. Mae'r gegin cynllun agored, yr addurn chwaethus, y gwinoedd cain, a'r coctels clasurol yn creu'r cefndir perffaith ar gyfer bwyd bythgofiadwy a digonedd o hwyl.


St Elli’s Bay – Llanelli
Ar dywod euraidd Traeth Llanelli, mae St Elli’s Bay yn fan lle gallwch fwynhau bwyd bendigedig a golygfeydd ysblennydd o'r môr. Yn edrych dros Aber heddychlon Afon Llwchwr a bryniau tonnog Penrhyn Gŵyr, mae'r lleoliad hardd hwn yn cynnig dau ddewis i'ch temtio o dan yr un to – bistro hamddenol ar y llawr gwaelod a brasserie chwaethus lan lofft. P'un a ydych chi eisiau cinio bach hamddenol neu noson allan arbennig, gallwch ddewis yn ôl eich hwyl ar y pryd. A heb anghofio am y danteithion diweddaraf i dynnu dŵr o'ch dannedd sef gelato ffres, hufennog wedi'i wneud bob dydd ar y safle, gan gyfuno traddodiad Eidalaidd gyda chynhwysion Cymreig. Y gorau o wledda arfordirol.
Bistro ar y Bae - Pentywyn
Ar Draeth Pentywyn, mae Bistro ar y Bae yn cyfuno bwyd blasus gyda golygfeydd gwych dros y môr. O frecwast i brydau gyda'r nos, tapas, a choctels, mae yna bob amser rhywbeth i'w fwynhau. Bydd cerddoriaeth fyw rheolaidd a nosweithiau cabaret yn creu awyrgylch bywiog, gan ei wneud yn lle perffaith i ymlacio a mwynhau naws yr arfordir.


Hollol Gymraeg – Nantycaws
Yng nghanol Nantycaws, mae Hollol Gymraeg yn fwyty modern gyda golygfeydd godidog o'r Mynydd Du. Yma, cewch fwyd cartref Cymreig go iawn gyda gwahaniaeth, coffi artisan, a detholiad o wirodydd, cwrw a gwinoedd wedi'u dewis yn ofalus. O brydau ysgafn i ginio swmpus, ynghyd â bwydlen flasus gyda'r nos ar benwythnosau, mae rhywbeth ar gyfer pawb. Felly ymlaciwch, a dewch i fwynhau'r golygfeydd mynyddig ysblennydd.
Y Plough – Rhos-maen
Wedi'i leoli yn Nyffryn Tywi hardd ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae The Plough yn cynnig profiad bwyta anhygoel wedi'i amgylchynu gan olygfeydd godidog o gefn gwlad. Yn adnabyddus ledled y wlad am ei ymroddiad i'r cynhwysion lleol gorau, mae'r fwydlen yn cydbwyso clasuron cartrefol gyda phrydau arloesol, i gyd wedi'u paru'n berffaith gyda seler win helaeth a dewis o goffis i orffen.


Fredricks yng Nghlwb Golff Machynys
Wedi'i leoli ar lawr cyntaf Clwb Golff Machynys, mae Fredricks yn cynnig golygfeydd panoramig godidog o gwrs golff Nicklaus, Bae Caerfyrddin, ac arfordir Gŵyr y tu hwnt. P'un a ydych chi'n mwynhau diod ar y dec haul neu'n bwyta y tu mewn wrth ymyl y tân, mae'r brasserie yn cyfuno blasau Cymreig a Môr y Canoldir mewn ffyrdd ysbrydoledig. Pan fo'r tywydd yn braf, mae'n werth mwynhau tamaid i'w fwyta ar y balconi tu fas - y lle perffaith i eistedd ac ymlacio a mwynhau'r cyfan sydd gan y lle i'w gynnig.
Ystafelloedd Te Aberglasne
Mwynhewch eich pryd o fwyd gyda golygfeydd godidog sy'n edrych dros Ardd y Pwll heddychlon yn Aberglasne. Mae'r Ystafelloedd Te cartrefol yn cynnig teras heulog sy'n berffaith ar gyfer ciniawau hamddenol neu de prynhawn clasurol, lle mae cacennau a phasteiod cartref yn cyd-fynd yn hyfryd â chefndir yr ardd heddychlon. P'un a ydych tu mewn neu tu fas, mae hwn yn lle delfrydol i ymhyfrydu yn nhawelwch natur wrth fwynhau danteithion ffres, wedi'u paratoi'n lleol.


Dexter's - Caerfyrddin
Wedi'i leoli yn edrych dros aber afon Tywi yng Nghaerfyrddin, mae Dexter's Steakhouse and Grill yn gweini'r toriadau gorau o gig ochr yn ochr ag opsiynau llysieuol, fegan a di-glwten blasus. P'un a yw'n well gennych fod yn glyd a chynnes dan do neu fwynhau awyr iach a bwyta yn yr awyr agored, byddwch yn sicr o gael pryd blasus o fwyd yn cynnwys cig eidion Gwartheg Duon Cymreig, Dexter a Henffordd. Mae prydau clasurol a phrydau arbennig y cogydd yn sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb yn y lleoliad trawiadol hwn ar lan yr afon.
Mansion House – Llansteffan
Cewch wledda mewn ystafell Sioraidd fawreddog sy'n edrych dros y gerddi toreithiog ac aber arbennig Afon Tywi yn Mansion House Llansteffan. Mae bwydlen Moryd yn dathlu cynhwysion lleol fel bwyd môr o Aberdaugleddau, cig oen a chig eidion o Gymru gan gigyddion teuluol, wyau ffres o ffermydd cyfagos, a chwrw sy'n cael eu bragu yma yn Sir Gaerfyrddin.
