English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Er bod y glaw yn disgyn, nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi ohirio eich cynlluniau! Pan fydd awyr Sir Gâr yn troi'n llwyd, mae'n esgus perffaith i gael hwyl dan do. O ddatrys codau mewn ystafelloedd dianc dirgel i ddringo'n uchel ar waliau dan do, ymweld â hen dai crand neu ymlacio drwy fwynhau coffi a gemau bwrdd - mae llwyth o bethau i'w gwneud dan do. Felly, gwisgwch eich dillad glaw ac ewch i ddarganfod yr hyn sydd gan Sir Gâr i'w gynnig ar ddiwrnod gwlyb. 

Canolfan Ddringo Overhang– Caerfyrddin

Ar ddiwrnod gwlyb, beth am fynd ar antur yng Nghanolfan Ddringo Overhang, ar gyrion tref Caerfyrddin yn Eglwys Dewi Sant, Heol Picton.

P'un a ydych chi'n ddechreuwr pur neu'n ddringwr profiadol, mae rhywbeth yma ar gyfer pob gallu ac oedran. Gyda waliau dringo a rhaff 12 metr, dau glogfaen pwrpasol, ac awyrgylch croesawgar, dyma'r lle perffaith i fod yn egnïol ac aros yn sych.

Parc Dinefwr a Phlas Dinefwr - Llandeilo

Beth am gamu i'r gorffennol ym Mhlas Dinefwr, plasty mawreddog o'r 17eg ganrif sy'n llawn arddangosfeydd diddorol a chreadigol. Beth am archwilio hanes, mwynhau golygfeydd dros y Parc Ceirw, ac ymweld â man chwarae Iard Dderw - y cyfan o dan do. Os yw'r glaw yn clirio, ewch am dro i weld adfeilion Castell Dinefwr, a oedd unwaith yn gartref i'r Arglwydd Rhys. 

Amgueddfa Wlân Cymru - Dre-fach Felindre

Wedi'i lleoli ym mhentref Dre-fach Felindre mae un o drysorau diwylliannol gorau Cymru - Amgueddfa Wlân Cymru. Camwch yn ôl mewn amser a darganfod sut y gwnaeth gwlân lywio economi, cymunedau a diwylliant Cymru wledig. Gallwch wylio arddangosiadau gwehyddu byw, gweld gwŷdd hanesyddol ar waith, a dilyn y daith "o gnu i ffabrig" - y cyfan o dan yr un to. Cadwch lygad am weithdai creadigol a digwyddiadau tymhorol lle gallwch roi cynnig ar wehyddu, ffeltio, a sgiliau traddodiadol eraill - dyma ffordd berffaith o ddysgu rhywbeth newydd dan do. 

Ysgol Goginio y Sied – Caerfyrddin

Dewch i roi eich sgiliau coginio ar waith yn Ysgol Goginio y Sied, Caerfyrddin. Beth am ymuno â dosbarthiadau coginio ymarferol a dysgu paratoi prydau blasus mewn amgylchedd cynnes, croesawgar. Mae'n ffordd hyfryd o dreulio diwrnod glawog dan do. 

Plas Llanelly – Llanelli

Camwch yn ôl mewn amser ym Mhlas Llanelly, plas Sioraidd trawiadol yn Llanelli. Beth am grwydro'r plas hwn sydd wedi'i adfer yn hardd a dysgu am hanes y plas a'i drigolion blaenorol.

Dewch i ymuno â thywyswyr brwdfrydig a darganfod hanes diddorol teulu Stepney a'u disgynyddion. Mae sgandal, cynllwynio, a sibrydion yn bodoli o fewn y muriau hanesyddol hyn. 

Mansion of Mystery – Sanclêr

Gwisgwch eich het dditectif ac ewch i brofi cyffro ystafell ddianc yn y Mansion of Mystery, mewn capel wedi'i adnewyddu'n hyfryd yn Sanclêr. P'un a ydych chi'n datrys codau neu'n chwilio am gliwiau, dyma'r ffordd berffaith o herio'ch ymennydd a mwynhau cwmni ffrindiau neu deulu - y cyfan o olwg y glaw! 

Amgueddfa Cyflymder - Pentywyn 

Ewch ar daith i Amgueddfa Cyflymder ym Mhenwyn, lle gallwch ddysgu am hanes cyffrous recordiau cyflymder y byd. Dewch i ddysgu am geir rasio eiconig, gan gynnwys yr enwog Babs, a dod i wybod am y bobl a wthiodd y terfynau hyn ar Draeth Pentywyn. Gydag arddangosfeydd uwch-dechnoleg a straeon dramatig, mae'n berffaith i bob oedran - ac yn ddelfrydol ar ddiwrnod gwlyb ger yr arfordir! 

Tiny Tots Town – Llanelli

Gadewch i'r dychymyg fynd ar ras yn Tiny Tots Town, canolfan chwarae rôl ryngweithiol Llanelli sydd wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer plant bach. O archfarchnadoedd bach a chlinigau milfeddygol i barthau adeiladu a chaffis, gall plant gamu i fyd delfrydol. Mae'r cyfan yn ddiogel a dan do - dyma'r amser chwarae perffaith i'r rhai bach ar ddiwrnod glawog. 

Go Sport Wales – Caerfyrddin

Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn saethwr Olympaidd? Yn Go Sport Wales, gallwch roi cynnig ar saethu reiffl aer a phistol aer mewn maes dan do sydd â'r holl offer, o safon Olympaidd. Gydag arweiniad arbenigol a'r holl offer yn cael eu darparu, mae'n weithgaredd cyffrous, diogel a hwyliog i oedolion a phobl ifanc hŷn. Mae'n berffaith ar gyfer grwpiau, dechreuwyr, neu unrhyw un sydd â’i fryd ar fwrw’r targed!  

Theatrau Sir Gâr – Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman

Dewch i fwynhau sîn gelfyddydol fywiog y sir yn Theatrau Sir Gâr. O berfformiadau byw i ddangosiadau ffilm, mae bob amser rhywbeth ar gael i'ch diddanu dan do.

Donuts & Dragons – Carmarthen

Gemau bwrdd + donyts = y cyfuniad perffaith ar ddiwrnod glawog. Ewch i Donuts & Dragons, caffi gêm fwrdd clyd sydd â dros 150 o gemau i ddewis o'u plith. P'un a ydych chi'n feistr arni neu'n chwaraewr cardiau achlysurol, mae rhywbeth at ddant pawb - gallwch hefyd fwynhau coffi blasus, byrbrydau lleol, a digwyddiadau hwyliog. 

Parc Howard – Llanelli

Beth am gysgodi yn harddwch Amgueddfa Parc Howard, tŷ urddasol sydd wedi troi'n ganolfan ddiwylliannol yn Llanelli. Dewch i fwrw golwg ar gelf leol, cerameg ac arddangosfeydd diddorol am orffennol Llanelli — y cyfan mewn parcdir wedi'i dirweddu. Glaw neu hindda, mae'n lle heddychlon ac ysbrydoledig ar gyfer taith deuluol neu daith gerdded dawel, llawn hanes ar eich pen eich hun. 

Rheilffordd Gwili – Bronwydd

Ewch ar drên stêm treftadaeth ar Reilffordd Gwili, a theithio trwy gefn gwlad hyfryd Sir Gâr mewn steil. P'un a ydych chi'n frwdfrydig am reilffyrdd neu am wneud atgofion, mae'n ffordd hyfryd a chofiadwy o fwynhau'r golygfeydd heb wlychu!

Llyfrgelloedd – Ar draws y Sir

Ewch am dro i'ch Llyfrgell leol yn Sir Gaerfyrddin a darganfod byd o straeon, creadigrwydd a chymuned. Gyda chorneli darllen clyd, Wi-Fi am ddim, digwyddiadau i blant ac oedolion, ynghyd â llyfrau, llyfrau sain a gwasanaethau digidol, dyma'r lle perffaith i ddysgu, ymlacio ac archwilio - y cyfan o dan yr un to.

Ystafelloedd Dianc Ruby Rhino – Caerfyrddin

Rhowch eich meddwl ar brawf drwy ymweld ag Ystafelloedd Dianc Ruby Rhino, lle mae posau, cliwiau a gwaith tîm yn dod at ei gilydd ar gyfer antur fythgofiadwy dan do.  Dewiswch eich ystafell thematig, casglwch eich tîm, a pharatowch am 60 munud o ddirgelwch sy'n herio'r meddwl. Mae'n wych i deuluoedd, ffrindiau, ac unrhyw un sy'n caru her - glaw neu hindda! 

Canolfannau hamdden – Ar draws y Sir

Mae gan Ganolfannau Hamdden Actif ledled Sir Gaerfyrddin y cyfan, p'un a yw'n nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cicio pêl neu chwarae meddal i'r plant. Gyda staff cyfeillgar, cyfleusterau modern, a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, mae'n hawdd cadw'n egnïol, glaw neu hindda. 

Chwarae Meddal Sgiliau – Caerfyrddin, Llandeilo, Llanelli

Chwilio am antur dan do gyffrous i'r plant? Mae Chwarae Meddal Sgiliau yn cynnig amgylchedd bywiog a diogel, lle gall plant ryddhau eu creadigrwydd a'u hegni. Gydag ardaloedd chwarae wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer babanod a phlant ifanc, mae'n lle gwych ar gyfer diwrnod allan i'r teulu neu i gadw rhai bach yn brysur waeth beth fo'r tywydd.

Canolfan Xcel Bowl - Caerfyrddin

Bowlio, gemau arcêd, bwyd blasus ac ardal chwarae meddal i'r rhai bach! Mae Xcel Bowl yn lle perffaith ar gyfer pob math o hwyl dan do. P'un a ydych chi'n anelu at streiciau ar y lonydd, yn cystadlu mewn heriau arcêd, neu'n gadael i'r plant losgi egni yn yr ardal chwarae meddal, mae gan y ganolfan fywiog hon rywbeth at ddant pawb. Yn ddelfrydol ar gyfer teithiau teuluol, dathliadau grŵp, neu ddiwrnod hwyliog dan do, mae Xcel Bowl yn sicrhau adloniant beth bynnag fo’r tywydd.