English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Dyffryn Tywi | Côd Ymddygiad

Er eich diogelwch chi

Peidiwch â mynd at lan yr afon - rhaid i bob defnyddiwr gadw draw o'r dŵr bob amser.

Parchwch dir amaeth - peidiwch â thresmasu ar gaeau, difrodi ffensys, nac ymyrryd â chnydau neu dda byw.

Byddwch yn ymwybodol o lifogydd - gwiriwch rybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru cyn mynd ar y llwybr.

Diogelwch ar y Ffyrdd - nodwch fod rhannau o’r llwybr yn croesi neu’n rhedeg ar hyd ffyrdd cyhoeddus presennol - sicrhewch fod plant dan oruchwyliaeth wrth groesi.

Er mwynhad pawb

Cadwch gŵn ar dennyn bob amser - mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Rhaid i'r tennyn fod yn llai na 2m o hyd.

Gwaredwch sbwriel yn briodol a pheidiwch â gadael unrhyw ôl. Darperir biniau ger bob pwynt mynediad.

I gymryd gofal wrth rannu'r llwybr

Defnyddiwch y gloch neu’ch llais i rybuddio cyn pasio - peidiwch byth â dychryn pobl.

Cadwch i'r chwith lle bynnag y bo modd a pharchwch ddefnyddwyr eraill.

Beiciwch ar gyflymder sy’n ddiogel i amodau’r llwybr a'r nifer sy'n ei ddefnyddio.

I helpu i ofalu am Ddyffryn Tywi

Gwarchodwch yr amgylchedd - dylech aros ar y llwybr, osgoi niweidio planhigion, a pheidio â tharfu ar fywyd gwyllt nac adar sy'n nythu.

Rhowch wybod am beryglon neu ddifrod i Gyngor Sir Caerfyrddin.