Yr haf yw'r amser perffaith i fynd â'r teulu allan a darganfod yr hyn sydd gan Sir Gâr i'w gynnig. O weithgareddau awyr agored i atyniadau dan do, mae digon o bethau i blesio pawb o bob oed. Beth am fynd ar daith ar Reilffordd Gwili, ymweld ag Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli, treulio amser ar y traeth ym Mhentywyn, neu grwydro Mwyngloddiau Aur Rhufeinig Dolaucothi. Gyda pharciau, llwybrau, cestyll, a mwy, mae gan Sir Gaerfyrddin rywbeth i bob teulu ei fwynhau yn ystod y gwyliau.
Canolfan Gwlyptir Llanelli – Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir
I'r rheiny sy'n dwlu ar natur a bywyd gwyllt, mae Canolfan Gwlyptir Llanelli – Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir yn lleoliad ysbrydoledig a heddychlon. Wedi'i lleoli ar lan ogleddol Cilfach Tywyn, mae'r ganolfan yn cwmpasu dros 450 erw o lynnoedd, corsleoedd, pyllau a choetiroedd. Mae'n hafan i fywyd gwyllt, yn enwedig adar mudol, ac yn gartref i rywogaethau fel dyfrgwn, llygod dŵr, a gwas y neidr. Gall teuluoedd fynd ar hyd llwybrau cymen, gwylio adar o guddfannau, a chymryd rhan mewn teithiau cerdded tywys rheolaidd a gweithgareddau tymhorol. Bydd plant wrth eu bodd yn gweld rhywogaethau lliwgar yn agos - gan gynnwys haid o fflamingos Caribïaidd - a dysgu mwy am wlyptiroedd a chadwraeth mewn amgylchedd ymarferol, sy'n addas i deuluoedd.


Rheilffordd Gwili
Yn Rheilffordd Gwili, bydd cyfle i chi gamu'n ôl mewn amser a phrofi oes aur yr injan stêm. Mae'r rheilffordd dreftadaeth hon yn mynd trwy ddyffryn hyfryd Gwili, a oedd unwaith yn rhan o'r brif lein rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Yno gallwch weld cerbydau wedi'u hadfer, hen adeiladau gorsafoedd, ac mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr yn dod â hanes yn fyw mewn ffordd sy'n ddiddorol ac yn addysgiadol. Mae'r trên yn pasio trwy dir fferm a choetiroedd hardd, a bydd cyfle i chi gael picnic wrth yr afon, mwynhau taith gerdded trwy goetir, neu fynd ar daith ar y rheilffordd fach. Mae'n brofiad delfrydol i deuluoedd sy'n hoff o gymryd pethau gan bwyll a mwynau sŵn hen ffordd o deithio.
Marchogaeth Marros
Am brofiad awyr agored mwy egnïol, mae Canolfan Farchogaeth Marros yn cynnig cyfle i chi farchogaeth mewn harddwch cefn gwlad yn agos i Bentywyn. Mae'r ganolfan deuluol hon yn croesawu marchogwyr o bob gallu, o ddechreuwyr pur i'r rhai sydd â mwy o brofiad. Wedi'i lleoli ar 140 erw ger y ffin â Sir Gâr a Sir Benfro, mae'r ganolfan ym Marros yn cynnig cyfleoedd marchogaeth diogel oddi ar y ffordd trwy goetir hynafol. I'r rheiny sy'n fwy profiadol, bydd modd mynd ar hyd Morfa Bychan a Thraeth Pentywyn. Mae'n gyfle gwych i deuluoedd roi cynnig ar rywbeth newydd gyda'i gilydd, dan olygfeydd naturiol hardd a chael cymorth gan hyfforddwyr gwybodus.


Traethau
Gydag wyth milltir o dywod euraidd, golygfeydd hyfryd o'r aber, a glannau diogel i deuluoedd, mae arfordir Sir Gâr yn un o drysorau cudd Cymru. P'un a ydych chi am adeiladu cestyll tywod gyda'r plant, cerdded y ci ar hyd glannau tawel, neu roi cynnig ar weithgareddau arfordirol fel padlfyrddio, mae traeth addas ar gyfer pob math o achlysur. O draeth euraidd enfawr Cefn Sidan â'i statws Baner Las a'i gyfleusterau sy'n addas i deuluoedd, i'r harbwr hanesyddol ym Mhorth Tywyn heb anghofio trysorau Morfa Bychan neu Drwyn Telpyn, mae'r amrywiaeth yn ddiddiwedd. Mae Traeth Pentywyn, sy'n saith milltir o hyd, yn enwog fel man recordiadau cyflymder y byd, ac mae bellach yn ganolbwynt ar gyfer chwaraeon antur a theithiau cerdded ar hyd yr arfordir. Mae gan Lansteffan a Glanyfferi swyn pentrefi glan môr traddodiadol, gyda phyllau creigiau, cestyll, a hyd yn oed croesfan fferi afon hyfryd. Hefyd, mae gan Draeth Llanelli a Pharc Arfordirol y Mileniwm lwybrau hygyrch a mannau agored eang sy'n ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, neu ymlacio wrth y môr.
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi
Wedi'u lleoli yng nghanol llethrau Mynyddoedd Cambria, mae Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yn rhoi cipolwg diddorol ar un o nodweddion mwyaf anarferol hanes Cymru. Dyma'r unig fwyngloddiau aur Rhufeinig sydd ar gof ym Mhrydain, ac mae gweithgarwch mwyngloddio yn dyddio'n ôl dros 2,000 o flynyddoedd. Gall ymwelwyr grwydro'r dirwedd a ffurfiwyd unwaith gan beirianwyr Rhufeinig, yn ogystal â gweddillion mwyngloddio mwy modern o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Caeodd y mwyngloddiau ym 1938, ond mae'r stori'n dal i gael ei hadrodd heddiw. Mae teithiau tywys yn mynd â chi i'r twneli i ddysgu sut y cafodd aur ei gloddio mewn gwahanol gyfnodau, ac yn Ystâd Dolaucothi gerllaw, gallwch gerdded ar hyd dros 25 km o lwybrau sy'n gyfoethog o fywyd gwyllt. Gall teuluoedd hyd yn oed roi cynnig ar chwilio am aur ar y safle - gweithgaredd ymarferol sy'n llawn hwyl.


Plas Dinefwr
Yng nghanol Ystâd Dinefwr, mae Plas Dinefwr yn cwmpasu canrifoedd o hanes a threftadaeth Cymru. Ar un adeg, roedd y plas yn gartref i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, tywysog teyrnas Deheubarth, ac mae'r adeilad rhestredig Gradd II* hwn yn datgelu haenau o fywyd teuluol drwy'r canrifoedd. Y tu mewn, gallwch weld ystafelloedd sy'n adlewyrchu'r newid mewn arddulliau pensaernïol ac arferion cymdeithasol ochr yn ochr ag arddangosfeydd a gosodiadau celf sy'n seiliedig ar orffennol cyfoethog yr ystâd. Mae'r ardd Fictoraidd wedi'i hadfer yn ofalus ac mae'n lle heddychlon i fyfyrio, gyda golygfeydd o'r parcdir cyfagos o dŷ haf arbennig. Cadwch lygad am y ceirw, sydd i'w gweld yn aml yn crwydro ar dir yr ystâd.
Fferi Glansteffan
I gael profiad unigryw ar hyd yr arfordir, gall teuluoedd fynd ar daith ar Fferi Glansteffan, sy'n croesi Afon Tywi rhwng Glanyfferi a Llansteffan. Mae'r fferi hon - a gynlluniwyd yn arbennig i ymdopi â llanw newidiol yr aber - yn fodd o deithio a mwynhau fel ei gilydd. Fe'i henwyd hyd yn oed yn un o'r croesfannau fferi mwyaf ysblennydd y byd gan The Independent. Mae criw lleol cyfeillgar yn rhoi sylwebaeth addysgiadol ar hyd y ffordd, gan rannu straeon am hanes morwrol, bywyd gwyllt a chymunedau arfordirol yr ardal. Mae'r daith yn cynnig golygfeydd hyfryd o'r aber ac mae'n ffordd ddifyr i deuluoedd weld harddwch arfordir Sir Gâr o'r dŵr.


Parc Gwledig Pen-bre
Yn ymestyn dros 500 erw, Parc Gwledig Pen-bre yw un o'r prif atyniadau i deuluoedd yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir a chefn gwlad. Yn edrych dros Benrhyn Gŵyr a Bae Caerfyrddin, mae'r parc yn gartref i draeth arobryn Cefn Sidan, traeth euraidd wyth milltir o hyd sydd â statws y Faner Las. Mae'r parc hefyd yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau sy'n addas i deuluoedd, gan gynnwys llethr sgïo sych, rhedfa dobogan, maes chwarae antur, rheilffordd fach, a gwallgolff. Mae llwybrau natur yn mynd trwy goetiroedd y parc, ac mae modd i deuluoedd logi beiciau i gael crwydro ymhellach. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon awyr agored, treulio diwrnod ar y traeth, neu fwynhau amser gyda'ch gilydd mewn lleoliad hardd, mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Gyda sawl caffi a man gwersylla teuluol ar y safle, mae'n ganolfan ddelfrydol ar gyfer arhosiad hirach neu ddiwrnod cyfan mas.
Rheilffordd Dyffryn Teifi
Wedi'i lleoli yng nghanol cefn gwlad Gorllewin Cymru ger Castellnewydd Emlyn, mae Rheilffordd Dyffryn Teifi yn dod â hanes yn fyw mewn lleoliad hwyliog a hamddenol. Yn wreiddiol yn lein gangen o'r Great Western Railway, mae bellach yn rheilffordd gul sy'n cynnig teithiau hyfryd y tu ôl i hen locomotifau diesel o'r 1950au fel "John Henry" a "Sammy." Mae'r rheilffordd yn boblogaidd iawn ymhlith teuluoedd, gan gynnig mwy na dim ond taith ar y trên. Gall plant fynd ar daith ar y "Toot Toot Tallulah," ac mae modd cael lluniaeth yn y caffi croesawgar sydd â seddi dan do ac awyr agored. Gydag ardaloedd chwarae, gwallgolff, a Choitio, mae'r rheilffordd yn lle hyfryd i dreulio ychydig oriau hamddenol.


Overhang
I deuluoedd sy'n hoffi antur, mae Canolfan Ddringo Overhang ger Caerfyrddin yn brofiad dringo deinamig dan do mewn eglwys hardd sydd wedi'i haddasu. P'un a ydych chi'n rhoi cynnig ar ddringo am y tro cyntaf neu'n hen law arni, mae'r ganolfan yn addas i bob gallu a grŵp oedran. Gyda llwybrau dringo a rhaff 12 metr, dau glogfaen pwrpasol, a hyfforddwyr cyfeillgar wrth law i arwain a chefnogi, mae'n gyfle gwych i blant a rhieni herio eu hunain mewn amgylchedd diogel, hwyliog. Mae lleoliad Eglwys Dewi Sant yn ychwanegu cefndir atmosfferig a chofiadwy i'r profiad.
Xcel Bowl
Mae adloniant dan do arbennig i'w gael yn Xcel Bowl, Caerfyrddin. Dyma leoliad bywiog, sy'n addas i'r teulu cyfan. Gyda lonydd bowlio modern, gemau arcêd, ac ardal chwarae meddal i blant iau, mae Xcel Bowl yn cynnig rhywbeth i bawb o dan yr un to. Mae'n ddelfrydol ar gyfer diwrnodau glawog, partïon pen-blwydd, neu brynhawn o hwyl hamddenol yn unig. Mae staff cyfeillgar, bwydlen sy'n addas i deuluoedd, ac awyrgylch hwyliog yn golygu ei fod yn lle croesawgar i ymwelwyr o bob oedran, p'un a ydych chi'n bowlio deg neu'n gadael i'r rhai bach losgi rhywfaint o egni yn yr ardal chwarae meddal.


Canolfannau Hamdden
Mae Canolfannau Hamdden Actif Sir Gâr yn cynnig mynediad hawdd i deuluoedd i amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd ledled y sir. O nofio a chwarae meddal ar gyfer aelodau ieuengaf y teulu i ddosbarthiadau ffitrwydd, clybiau chwaraeon, a chyrtiau dan do i bobl ifanc ac oedolion, mae'r canolfannau hyn yn fannau croesawgar sy'n hyrwyddo ffyrdd iach, egnïol o fyw. Mae pob cyfleuster yn cynnig offer glân a modern ac mae gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn gweithio yno sy'n cefnogi pobl o bob oedran a gallu. P'un a ydych chi'n chwilio am sesiwn nofio hwyliog i'r teulu neu weithgaredd wythnosol newydd i'w fwynhau gyda'ch gilydd, mae Canolfannau Hamdden Actif yn adnodd gwych i gadw'n egnïol a mwynhau bywyd teuluol.
Cestyll
Prin yw'r ardaloedd sy'n gallu cystadlu â Sir Gâr o ran cestyll — ac mae pob un yn adrodd pennod wahanol am stori Cymru. Saif Castell Dryslwyn uwchben Dyffryn Tywi, symbol pwerus o dywysogion Deheubarth. Mae Castell Carreg Cennen, sydd ar ben clogwyn 325 troedfedd, yn llawn hanes, ac mae modd cerdded yn ddwfn i mewn i'r graig i ogof naturiol. Mae Castell Dinefwr, sydd hefyd â chysylltiad â thywysogion Deheubarth, yn gorwedd o fewn 800 erw o barcdir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Castell Cydweli yn un o'r cestyll canoloesol mwyaf cyflawn yn y DU - mae ei waliau cerrig a'i dyrau enfawr yn dal i fod yn drawiadol heddiw. Mae Castell Talacharn, a gafodd ei drawsnewid yn blasty Tuduraidd, yn cynnig cymysgedd o amddiffynfeydd Normanaidd a cheinder y Dadeni. Ar yr arfordir, mae Castell Llansteffan yn edrych dros aber Tywi o safle pentir hynafol o'r Oes Haearn. Ymhellach i'r gorllewin, mae adfeilion Castell Castellnewydd Emlyn yn ein hatgoffa am y brwydrau rhwng arglwyddi'r Normaniaid a'r tywysogion Cymreig, ac mae Castell Caerfyrddin, a oedd unwaith yn gadarnle Normanaidd pwysig, yn dal i'n hatgoffa am bwysigrwydd strategol yr ardal dros y canrifoedd.


Canolfannau Chwarae Dan Do
Pan fydd y tywydd yn troi neu pan fyddwch chi'n chwilio am rywle i'r plant losgi calorïau, mae ardaloedd chwarae dan do Sir Gâr yn cynnig amgylcheddau diogel i blant ifanc fwynhau, chwarae a dysgu. Mae Tiny Tots Town yn Llanelli yn gyfle i blant gamu i fyd bach o chwarae dychmygus. Gyda mannau thematig fel archfarchnadoedd, caffis, clinigau, a safleoedd adeiladu, gall plant fwynhau gemau sy'n helpu i ddatblygu hyder, cyfathrebu a sgiliau datrys problemau. Ar gyfer chwarae mwy egnïol, mae Sgiliau Soft Play yn darparu meysydd chwarae dan do bywiog lle gall babanod, plant bach a phlant ifanc ddringo, cropian, bownsio, a llithro mewn amgylchedd diogel, dan oruchwyliaeth.
Hafod Trails
I deuluoedd sy'n hoffi rhywfaint o antur a threulio amser yn yr awyr agored, mae Hafod Trails, sydd ar gyrion Coedwig Brechfa, yn cynnig profiad beicio mynydd pwrpasol sy'n addas i bawb. Gyda phum llwybr gradd yn amrywio o ddechreuwr i arbenigwr, mae'n lle cyfleus a chyffrous i gyflwyno beicio ar lwybrau i blant neu i herio beicwyr mwy profiadol. Mae'r llwybrau yn cael eu gwasanaethu gan system codi effeithlon sy'n golygu mwy o amser ar y beic a llai o ddringo - yn ddelfrydol ar gyfer y grwpiau o deuluoedd. Mae'r lleoliad naturiol a'r amrywiaeth o dir yn golygu bod Hafod yn ddewis perffaith i deuluoedd egnïol sy'n awyddus i fynd allan gyda'i gilydd.


Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
I'r rheiny ohonoch chi sy'n dwlu ar fywyd gwyllt, ewch am dro i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dyma'r unig ganolfan yn y DU sy'n benodol ar gyfer adar ysglyfaethus brodorol Prydain yn unig ac mae arddangosfeydd hedfan dyddiol i'w gweld. O gudyllod yn hofran i farcutiaid coch yn bwydo yng nghanol yr awyr, mae'r arddangosiadau hyn yn addysgiadol ac yn syfrdanol. Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan mewn profiadau ymarferol, gan gynnwys y cyfle i hedfan tylluanod, hebogiaid, neu hyd yn oed yr eryrod môr aur a gwyn godidog. Gyda staff gwybodus a rhaglenni arbennig, mae'r ganolfan yn ffordd bwerus i blant ddysgu am gadwraeth a'r byd naturiol.