Mae Sir Gâr yn hawlio'i lle fel 'cyrchfan fwyaf clyd Cymru' y gaeaf hwn, lle mae hud y gaeaf i'w weld ym mhob rhan o'r sir.
O fythynnod cefn gwlad clyd, i ystafelloedd te cynnes, mae Sir Gâr yn fan perffaith i gael Cwtsh, gair sydd wedi'i wreiddio yn niwylliant Cymru.
Dewch i ymweld â ni a chrwydro rhai o ardaloedd mwyaf clyd Sir Gâr yn ystod y gaeaf.
Mae ein canllaw Cwtsho lan yn Sir Gâr yn rhoi syniadau ar gyfer sut i drefnu gwyliau perffaith dros y gaeaf lle cewch brofiadau i lonni'r galon, mwynhau golygfeydd trawiadol ac anturiaethau yn yr awyr agored, ac i ddilyn, bwyd blasus wrth dân agored.
Felly gwisgwch eich dillad cynnes y gaeaf hwn a mwynhau cwtsh.
Pryd o fwyd
Beth am gwtsh i'ch bol? Y lle perffaith am wyliau i'r rheiny sy'n dwlu ar fwyd yw Inn at the Sticks yn Llansteffan, Bwyty Lleol Gorau Cymru 2024 y Good Food Guide. Ymunwch â Jamie y Pobydd i roi cynnig ar bobi Bara Pot Clai, sef techneg glasurol sy'n cael ei defnyddio unwaith eto i bobi bara sydd â chrwst nodweddiadol drwy ddefnyddio potiau clai. Yna ewch i Landeilo, lle mae Flows on Market St, becws artisan Pitchfork & Provision, Lolfa Llandeilo a Wright's gerllaw yn Llanarthne. Awydd diod dwym? Dewch yn feistr coffi ar gwrs academi Coaltown yn Rhydaman
Trît
Mae blancedi gwlân Cymreig clyd bob amser yn barod am gwtsh – ewch i Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, sef hen felin wedi'i hadfer, lle gallwch ddilyn y broses o wneud gwlân o'r ddafad i'r defnydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai. Darganfyddwch sut maen nhw'n cael eu gwneud, a rhowch gartref i flanced o'r siop. Yn well fyth, deffrowch eich creadigrwydd ar wyliau Cwtsh Creadigol, a dysgwch sgil newydd. Mae'r opsiynau yn cynnwys cwrs crochenwaith yn Siramik, ger Alltwalis, neu ddysgu gwehyddu mat gwŷdd pegiau gyda Small Holding Secrets
Arhoswch yn Bryn Eglur, sydd wedi'i adfer yn ofalus gan y perchennog a'r crefftwr, Dorian Bowen. Dyma un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi o ystafelloedd traddodiadol Cymreig. Mae gan y bwthyn pert a chlyd hen bethau gwledig Cymreig ac mae'n lle perffaith i dreulio amser ar eich pen eich hun yng nghefn gwlad heb deledu na Wi-fi, gan ychwanegu at y naws o fod oddi ar y grid. Yn wir, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i dreulio'u hamser yn swatio wrth y tân coed, gan ymgolli mewn llyfr da a lle nad yw wedi newid ers canrifoedd.
Cadw'n gynnes y gaeaf hwn
Beth am brofi bwrlwm ein bro unwaith eto ar wyliau bach cwtshlyd, gan fwynhau awyr agored gwych Sir Gâr? Neidiwch ar eich beic a chael gwefr wrth grwydro ar hyd ein hewlydd. Mae gan y sir ddewis enfawr o lwybrau ar gyfer pob gallu, yn ogystal â rhai opsiynau heb geir, fel Parc Arfordirol y Mileniwm a Llwybr newydd Dyffryn Tywi, sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd, ac mae mapiau hawdd i'w defnyddio ar gael i'w lawrlwytho yma. Arhoswch yn Far Afield, llecyn gwyliau mewn fan geffylau a baddondy cudd ar hyd trac preifat sydd â golygfeydd ysgubol o'r afon a'i gae ei hun i grwydro ynddo. Mae modd archebu defodau ymdrochi yn y gaeaf yn y bath nicel awyr agored gyda halwynau mwynol ac arogldarthau a'ch trac sain eich hun, neu dewiswch sawna coed ac yna mentro i ddŵr rhewllyd.
Ymweld gyda grŵp? Mae gan Fferm Tanylan y cyfan: pyllau i gynnau tân, ffyrnau i grasu pizza ar goed tân, pwll nofio a sawna ar y safle. Mae mewn lle perffaith ar gyfer teithiau cerdded arfordirol ar Lwybr Arfordir Cymru, anturiaethau mewn cestyll, neu bryd o fwyd cofiadwy yn Y Barbican ym Mharc y Bocs.
Gwylio bywyd gwyllt
Ewch i wylio bywyd gwyllt rhyfeddol. O Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain gallwch fynd ar Daith Gerdded Coetir Breifat gyda thylluan neu hebog neu hedfan tri aderyn ysglyfaethus mwyaf y DU. Arhoswch yng Ngwesty Gwledig Tŷ Mawr ym Mrechfa, neu ewch am dro i’r Orsaf Fwydo Barcudiaid Coch, Llanddeusant, i weld adar hardd ac arddangosfeydd hedfan anhygoel.
Anturiaethau anifeiliaid anwes
Ewch â'ch ci gyda chi ar eich gwyliau ac osgoi talu am gynelau. Mae ystafelloedd yn Caban ger traeth ysblennydd Pentywyn, sy'n saith milltir o hyd, yn costio llai na £100 y noson. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg eich drws hefyd. Tra bod eich ci yn cysgu, ewch i’r Amgueddfa Cyflymder newydd. Ar ôl diwrnod o archwilio, deg munud i lawr y ffordd mae Tŷ Glo yn Nhalacharn, lle gall eich ci ymuno â chi am swper.
Dysgu wrth gerdded
Ewch allan i gael cwtsh gan dirweddau trawiadol - yr arfordir, coedwigoedd, bryniau a chefn gwlad - a chyfuno ymarfer corff â maeth i'r meddwl ar Gwtsh Treftadaeth. Er enghraifft, gallwch ddysgu am Feddygon Myddfai a Morwyn y Llyn. Cerddwch i Lyn y Fan Fach y daeth y Forwyn allan ohono. Gallwch brynu balmau a bomiau bath lleddfol ag arogl Cennin Pedr yn Myddfai Trading yn Llanymddyfri. Ewch draw i Langadog am bryd o fwyd calonog yn Y Castell ac arhoswch ar gyrion Gwarchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog, lle mae Erwain Escapes yn cyfuno syllu ar y sêr, dec preifat a bath awyr agored gyda chrefftwaith Cymreig, tanau sy'n clecian a thafarn bentref fywiog gerllaw yng Nghwm-du.
Gwirodydd gwych
Beth am gael diod mewn tafarn glyd gan flasu diodydd megis Whisgi Penderyn, seidr Coles Carmarthen Gold neu gwrw crefft Amman Eagle. Arhoswch yng Ngwesty Browns Hotel, hoff le Dylan Thomas i gael ambell i ddiod, browns.wales yn Nhalacharn sydd hefyd â bwyty newydd i'r teulu sef Tŷ Glo. Neu ewch i'r bar gwin a tapas sydd newydd ei agor The Globe. Fel arall, ewch i Dylan Coastal Resort i fwynhau twba twym, sba a golygfeydd ysblennydd.
Gwylio'r sêr
Ewch i aros mewn ardal anghysbell y gaeaf hwn. Arhoswch ym mwthyn moethus dwy ystafell wely Cambrian Escapes, Glan-yr-afon, ger Llanymddyfri, a syllu ar y sêr o dwba twym. Neu dewiswch Blas Glangwili, gwesty gwely a brecwast bwtîc 5 seren gyda Chaban Pren Gwylio’r Sêr. Archebwch ymlaen llaw ar gyfer pryd o fwyd wedi'i goginio ar dân mewn Noson Asado yn y Plough Felingwm. Ymunwch â Thaith Gerdded Lleuad Lawn wrth i chi gael eich tywys o amgylch bryngaer o'r Oes Haearn, ac yna aros yn Hafan neu Derwen, cabanau anghysbell ar fferm laeth ar gyrion parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cwtsh Gwlanog
Dewch i ddysgu am wlân Cymreig cynnes a chwtshlyd ar benwythnos arbennig. Archebwch weithdy Gwehyddu a Cherdded undydd gyda Lisa o Quiet Walks, byddwch yn greadigol a dysgwch sut i blethu cnu crai yn fat defnyddiol. Ffansi ffeltio? Mae'r artist tecstilau, Jane Evans, yn cynnig Gweithdai Ffeltio Gwlyb diwrnod llawn ger Llanymddyfri. Gallwch ddysgu sgil newydd, ymlacio gyda ffrindiau, a mynd adref gyda darn hardd o waith rydych chi wedi'i greu. Mae mwy o ddigwyddiadau nyddu gwlân, lliwio planhigion, gwehyddu a phrofiadau gwau â llaw ar gael mewn gwahanol leoliadau gyda Nellie ac Eve. Ymhlith y llefydd gwych i ddod o hyd i wlân Cymreig a chynnyrch gwlân Cymreig y mae Bumblebees of Llandovery, The Welsh Wool Shop, Castellnewydd Emlyn, a gallwch brynu blancedi Cymreig moethus yn Dinefwr Blankets yn Llandeilo. Arhoswch yn Black Mountain Escapes, Llangadog – dau le gwyliau cyfnod sydd â hen gelfi. Dewiswch rhwng Gablebach sy'n cynnwys bath awyr agored neu'r Old Laundry sy'n cynnig twba twym.