Taith Gerdded Bannau Sir Gâr - Taith gerdded fer
Mae'n rhaid mai hon yw un o deithiau cerdded mwyaf dramatig y Deyrnas Unedig, wrth edrych dros lyn rhewlifol Llyn y Fan Fach ar ochr orllewinol Bannau Brycheiniog.
Cronlyn yw Llyn y Fan Fach ar ffin orllewinol y Mynydd Du, yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe'i disgrifir yn aml yn un o'r golygfeydd mwyaf hudol a thrawiadol yng Nghymru. I gyrraedd y llyn, mae angen i chi fod yn barod am ychydig o ddringfa yn ymyl afon, lle ffurfia'r dŵr raeadrau bychain. Gyda'r bryniau a'r defaid di-hid i chi'n gwmni, fe welwch chi'r llyn ar ôl croesi'r gefnen olaf. Mae'n olygfa sy'n ysbrydoli, a cheir golygfeydd godidog o'r Bannau o bob tu. Eich dewis chi yw beth i wneud yno – cael eich cinio, ymdrochi, neu fwynhau'r heddwch. Fel sy'n wir yn achos y rhan fwyaf o lynnoedd hudolus, mae iddo chwedl yn perthyn.
Morwyn y Llyn...
Chwedl llên gwerin sy’n gysylltiedig â Llyn y Fan Fach yw ‘Morwyn Llyn y Fan Fach’.
Yn y chwedl mae ffermwr ifanc o’r 13eg ganrif yn llygadu’r ferch brydferthaf iddo ei gweld erioed yn dod o’r llyn. Roedd hi’n dywysoges o deyrnas y tylwyth teg. Bu’n canlyn gyda thywysoges y tylwyth teg drwy bobi bara iddi ac ar ôl ei drydydd ymgais, bu iddi gytuno i’w briodi ar yr amod, pe bai e’n ei bwrw hi dair gwaith, y byddai hi’n ei adael.
Cytunodd y ffermwr yn syth oherwydd roedd hi mor brydferth ac roeddent yn hapus am flynyddoedd gan fagu teulu ar ei fferm ger Myddfai, gyda’i gwaddol hud o anifeiliaid fferm. Gydag amser digwyddodd yr anochel ac fe fwriodd y ffermwr ei wraig. Diflannodd hi yn ôl i’r llyngan fynd â’r anifeiliaid gyda hi, a gadael y ffermwr gyda’r meibion.
Ar ôl i’r meibion dyfu, daethant yn adnabyddus fel “Meddygon Myddfai” a buont yn feddygon yn Llys Brenin Lloegr.
Ar y daith i Lyn y Fan Fach ac oddi yno, beth am aros i wylio’r brithyllod sy’n neidio yn y Gored/Deorfa.
Pam Cerdded?
Ar y daith hon byddwch yn troedio peth o fynydd-dir mwyaf trawiadol ac anghysbell Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gorwedd Llyn y Fan Fach o dan grib ysblennydd Bannau Sir Gâr. Mae'n olygfa heb ei hail, ac mae gweddillion gorffennol rhewlifol y dirwedd yn amlwg i bob cyfeiriad. Mae'r llyn yn hafan go iawn i fywyd gwyllt. Cadwch lygad am y pysgod wrth iddynt ddod i wyneb y dŵr, a fyny fry rydych yn debygol o weld barcutiaid, bodaod, brain tyddyn a chudyllod coch. Wrth gerdded tuag at Lyn y Fan Fach, arhoswch am funud i weld y brithyll yn neidio yn y gored / deorfa. Y chwedl sy'n gysylltiedig â Llyn y Fan Fach yw ‘Morwyn y Llyn’.
Pa mor Hir/Faint o Amser?
Mae'r daith fer hyd at Lyn y Fan Fach ac yn ôl yn 4.2 cilometr (2.6 milltir), gan ddringo 225 metr (738 troedfedd). Caniatewch 2 awr.
Mae'r daith fynyddig hirfaith yn 15 cilometr (9.3 milltir), gan ddringo 712 metr (2,335 troedfedd). Caniatewch 5 i 6 awr.
Pa mor Anodd?
Mae'r daith fer yn codi'n raddol i Lyn y Fan Fach ar drac graean, ac yn yr haf ni ddylai fod angen dillad nac esgidiau arbennig.
Ond mae'r daith hir ar y mynydd yn serth ac yn anodd mewn mannau, a cheir darnau digon creigiog, felly ni ddylid mynd ati ar chwarae bach. Wedi cyrraedd y mynydd, rydych ymhell o unrhyw gysgod a chymorth. Mae dillad ac esgidiau addas i gerdded ar dir mynyddig yn hanfodol, hyd yn oed yn yr haf. Bydd angen cadw llygad barcud ar blant.
Lluniaeth - Llangadog a Llandeilo yw'r trefi agosaf lle mae siopau, tafarndai a chaffis. Fe'ch cynghorir i fynd â bwyd a diod gyda chi ar y daith.
Parcio - ✔
Dalier sylw: Mae'n bwysig mai dim ond maes parcio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (a ddangosir ar y map) y mae gyrwyr yn ei ddefnyddio - Peidiwch â pharcio yn y lonydd gwledig cul neu'r mannau pasio.


1. Mae hanes diddorol i'r ardal. Gerllaw gwelir olion meini hirion hynafol, bryngaerau Oes Haearn, gwersylloedd Rhufeinig a chestyll canoloesol.
2.Mae'r nant fyrlymog yn denu'r Fronfraith Fach, y Siglen Fraith, a'r Siglen Felen. Yn ymyl y trac mae fferm frithyll, ac oddi yma ymlaen daw peiran rhewlifol trawiadol Bannau Sir Gâr i'r golwg, ac ymhen ychydig hyfrydwch Llyn y Fan Fach.
3.Pan fo'r tywydd yn braf, nid oes unman gwell i fwynhau picnic wrth edmygu'r olygfa, a dyma fan cychwyn un o deithiau mynydd gorau Cymru o bosibl.
4.Mae helaethdra'r glaswelltir ucheldirol, y grug a glaswellt y gweunydd yn denu nifer fawr o adar. Mae llawer ohonynt yma drwy gydol y flwyddyn fel Pibydd y Waun a'r Ehedydd, tra bo eraill fel y Gynffonwen i'w gweld yn yr haf yn unig. Golygfa gyfarwydd yw'r Barcud Coch a'r Boda.
5.Mae'r tarenni sy'n wynebu'r gogledd, sydd allan o gyrraedd y defaid mynydd, yn gartref i blanhigion prin ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf.
6.Gellir defnyddio'r llwybr garw serth i dorri'r llwybr yn ei hanner ond mae angen cymryd gofal wrth ddod i lawr y llwybr hwn ac argymhellir mai dim ond cerddwyr profiadol sy'n ystyried gwneud hyn.
7.Mae cysgodfan gerrig i gelu rhag y gwyntoedd oer ger y piler triongli ar Fan Frycheiniog (y pwynt uchaf ar y daith gerdded sef 802 metr/2631 troedfedd).
8.Y disgyniad creigiog serth i Lyn y Fan Fawr.
9. Fe aiff llwybr cul ond amlwg islaw'r copaon â chi'r holl ffordd yn ôl i Lyn y Fan Fach a'r trac i'r maes parcio.

