Mae'r ddwy daith gylchol tua 5 Km (3.1 milltir) o hyd. Mae cyfuno'r ddwy daith gerdded yn ei gwneud tua 7.5 Km (4.7 milltir) o hyd.
Mae'r dirwedd yn darparu teithiau cerdded amrywiol iawn, ar hyd afon Morlais, i mewn i goetiroedd ac ar draws caeau agored. Mae gan bob un ei chymeriad arbennig ei hun.
Mae Llangennech yn cynnig rhywbeth i bawb. Yn ogystal â'r ddau lwybr, mae yna hefyd lawer o lwybrau caniataol i'w harchwilio yng nghoedwig Troserch.
Mae tirwedd donnog yr ardal wedi'i rhannu o'r gogledd i'r de gan Afon Morlais.
Mae arwyddion o waith mwyngloddio'r gorffennol i'w gweld yn yr ardal o hyd, ond mae'r tomenni gwastraff wedi glasu ers hynny ac nid oes fawr ddim olion o'i threftadaeth ddiwydiannol. Mae cilffyrdd, lonydd gwyrdd a llwybrau troed bellach yn ymestyn i'r dolydd, y porfeydd a'r coetir, gan wahodd cerddwyr i fwynhau'r ardal amaethyddol hardd hon ar gyrion Sir Gaerfyrddin.
Mae Taith Gerdded Sant Illtyd, a Llwybr Rheilffordd Calon Cymru yn dilyn rhannau o deithiau cerdded Llangennech.
Pam Cerdded?
Mae'r dirwedd yn darparu teithiau cerdded amrywiol iawn, ar hyd afon Morlais, i mewn i goetiroedd ac ar draws caeau agored. Mae gan bob un ei chymeriad arbennig ei hun.
Pa mor Hir?
Mae'r ddwy daith gylchol tua 5 Km (3.1M) o hyd. Mae cyfuno'r ddwy daith gerdded yn ei gwneud tua 7.5 Km (4.7M) o hyd.
Pa mor Anodd?
Mae llawer o'r llwybr cerdded dros dir gweddol wastad ond mae rhai rhannau byr mwy serth, a gall rhai llwybrau fod yn fwdlyd mewn mannau ar ôl glaw.
Trafnidiaeth gyhoeddus – Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Hendy sydd tua 2km i'r de o'r teithiau cerdded. Mae cysylltiadau bws da hefyd o Lanelli i Langennech.
Lluniaeth – Siopau ac amwynderau eraill yn nhref Llangennech
Man cychwyn/parcio – Mae digon o le i barcio ar hyd ochr y ffordd, ond mae maes parcio dynodedig wrth y fynedfa fwyaf gogleddol i goed Troserch.
Mannau o Ddiddordeb
1. Sefydlwyd Cymdeithas Coedwig Troserch i brynu'r coetir hynafol hwn yn 2006 a'i hamcanion penodol oedd "diogelu'r llwybrau, annog bywyd gwyllt, cyflwyno rhywogaethau brodorol o goed a phlanhigion gan wneud y goedwig yn lle pleserus i ymweld ag ef”. Mae'r coetir yn gymysgedd o goed llydanddail a chonwydd gyda fflora tir gwahanol iawn.
2. Mae'r coed bytholwyrdd yn y rhan hon o'r goedwig yn darparu llawer o gysgod drwy gydol y flwyddyn gan ffafrio planhigion sy'n goddef mannau llaith, cysgodol, megis Rhedyn, Mwsoglau a Ffyngau. Mae Marchredyn Gwryw cennog yn gyffredin ac yn hawdd eu hadnabod yn sgil y cennau brown niferus sydd ar hyd y coesyn.
3. Mae coetiroedd llydanddail yn gadael golau drwy'r canopi cyn i'r dail dyfu'n ôl yn y gwanwyn a'r haf gan ganiatáu i blanhigion sy'n blodeuo'n gynnar megis Clychau'r gog, Blodau'r Gwynt a Llygad Ebrill flodeuo.
4. Mae siafftiau bach ac awgrymiadau o gloddio glo yn yr ardal ar hyd a lled y rhan hon o'r goedwig, sef rhan o hen lofa Goitre-wen.
5. Gellir gweld adfeilion Melin Flawd Troserch a'i chafnau wrth ymyl y llwybr. Dyma un o nifer o felinau blawd a gwlân a oedd ar un adeg yn gwasanaethu'r ardal.
6. Roedd yr ardal hon, sydd bellach yn ffermdir, yn rhan o Barc Llangennech ar un adeg. Mae waliau cerrig nadd a choedlan yn awgrym o'r hen ddyddiau.
7. Gellir dod o hyd i Eirinen Wyllt (math o eirin), ynghyd â mwyar duon ar y rhan hon o'r llwybr. Gellir mwynhau'r ffrwythau pan fyddwch allan yn cerdded ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref.

