Mae gan Sir Gâr rai gwarchodfeydd natur hyfryd iawn ac ar yr adeg hon o'r flwyddyn maen nhw'n dod yn fyw unwaith eto, yn llawn o ddail y gwanwyn ac yn frith o glychau'r gog a blodau gwyllt eraill fel garlleg gwyllt a thegeirianau. Mae digonedd o fywyd gwyllt yno sy'n cynnwys pob math o anifeiliaid ac adar, ac mae bob amser yn werth cadw llygad am y barcud coch uwchben gyda'i gynffon fforchog sy'n hawdd ei adnabod.
Ewch i'r gwarchodfeydd i fwynhau'r golygfeydd, y synau a'r arogleuon. Maen nhw'n lleoedd gwych ar gyfer cael antur gyda phlant, teithiau cerdded rhamantus neu deithiau cerdded hamddenol. Bydd hyd yn oed eich ci wrth ei fodd! Gan eich bod yn yr ardal, beth am fwynhau tamaid i'w fwyta? Mae digonedd o fwytai a thafarndai sy'n gweini bwyd lleol gwych i'ch croesawu am bryd o fwyd haeddiannol ar ôl eich taith gerdded.
Gerddi Aberglasne
Mae Gerddi Aberglasne, sy'n dyddio o 1477, yn erddi ysblennydd eu hanes. Gan eu bod yn enwog am eu planhigion prin ac anghyffredin, mae'r gerddi'n gyrchfan i bobl sy'n ymddiddori mewn planhigion.
Yn y gwanwyn mae Gardd y Nant a Choed y Colomendy yn frith o glychau'r gog, craf y geifr, tegeirianau coch y gwanwyn, a blodau'r gwynt.
Ar ôl i chi orffen crwydro, does dim byd yn well nag oedi ar y teras sy'n edrych dros y llyn i fwynhau dysglaid o de a thoc o deisen wrth i sawr clychau'r gog godi ar yr awel o'r coed.
Gwarchodfa Natur Dinas, Rhandir-mwyn ger Llanymddyfri
Ewch am dro hamddenol ar hyd y llwybrau amlwg trwy wlyptiroedd a choetiroedd derw at Afon Tywi chwim ei llif. Ewch o amgylch y mynydd a dringwch i weld Ogof Twm Siôn Cati. Mae'r coetiroedd ymhlith y goreuon yn Sir Gâr o ran gweld clychau'r gog, a hynny o ddiwedd mis Mawrth yn aml tan fis Mai. Mae llawr y coetir yn las i gyd ac mae sawr y blodau'n llenwi'r aer am filltiroedd. Gallwch hefyd weld tegeirianau a mathau eraill o flodau'n tyfu yn y goedwig a'r cyffiniau.
Mae barcutiaid coch yn aml i'w gweld yn cylchu uwchben yn chwilio am ysglyfaeth. Mae gan y daith gerdded hon olygfeydd arbennig o Afon Tywi ac mae modd ei chlywed yn byrlymu drwy'r cwm.
Ar ôl gorffen crwydro, gallwch fynd i Tŷ Te Twm yn Rhandir-mwyn i gael rhai o'r cacennau mwyaf blasus yn yr ardal a phaned o de. Neu ewch i'r Royal Oak, neu i Towy Bridge Inn yn y pentref i gael bwyd rhagorol. Mae gan y warchodfa faes parcio y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), a byrddau gwybodaeth i ymwelwyr. Mae modd rhoi rhodd o £1 ar gyfer parcio yn y blwch gonestrwydd. Cyfeirnod Grid SN787470.
Coed y Castell, Parc a Chastell Dinefwr, ger Llandeilo
Mae'r warchodfa adnabyddus hon, a gafodd sylw unwaith yn y cylchgrawn Red am fod yn un o'r mannau gorau yn y DU, yn cynnwys coed derw a choed eraill hynafol lle gwelir carped rhyfeddol bob gwanwyn o glychau'r gog, sydd yn eu hanterth rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mai.
Ar ôl i chi ryfeddu at y clychau'r gog, ewch am dro i'r castell i weld golygfeydd hyfryd dros Ddyffryn Tywi.
Mae gan Landeilo rai tafarndai a gwestai gwych, sy'n gweini bwyd arbennig. Dyma ffordd wych o orffen diwrnod prysur yn crwydro cefn gwlad.
Mae modd parcio ym maes pario Parc a Chastell Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae gwybodaeth i ymwelwyr a thaflenni cerdded ar gael yn swyddfa'r dderbynfa. Cyfeirnod Grid SN625221.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Pharc a Chastell Dinefwr drwy ffonio 01558 824512.
Gwarchodfa Natur Coedwig Carmel, Llandybïe
Dyma warchodfa natur sydd wedi'i hadeiladu o amgylch chwarel enfawr ger Llandybïe, ac mae'n un o'r mannau gorau i weld clychau'r gog yn Sir Gâr, sydd ar eu gorau rhwng diwedd mis Mawrth a Mai. Hefyd fe welwch y tirlyn, sef math o lyn dros dro, sy'n cynnwys dŵr tanddaearol yn unig - mae'n diflannu yn yr haf!
Ynghyd â chlychau'r gog, byddwch hefyd yn gweld (ac yn arogli!) llwyth o arlleg gwyllt.
Cadwch lygad am y tegeirian llydanwyrdd mwyaf, y meillion hopysaidd a lili'r dyffrynnoedd wrth i chi grwydro.
Mae'r maes parcio agosaf oddi ar yr A476, ger SA14 7TL, neu ger pentref Pentregwenlais ger Llandybïe. Cyfeirnod Grid SN589161.
Coed Castell Moel, ger Caerfyrddin
Ewch am dro i'r goedwig hon sy'n llawn coed derw cymysg, dolydd o flodau gwyllt ac ardaloedd gwlyptir a chrwydrwch ar hyd y llwybrau ag arwyddion drwy'r goedwig.
Trwy gydol y gwanwyn, mae clychau'r gog a blodau gwyllt eraill i'w gweld yn gorchuddio llawr y coetir ac mae golygfeydd godidog i'w gweld tuag at Gaerfyrddin, Dyffryn Tywi, a thuag at Lanyfferi ar draws yr aber.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy'r warchodfa. Cyfeirnod Grid SN391167.
Gallwch ddod o hyd i faes parcio am ddim i ymwelwyr a byrddau gwybodaeth oddi ar y B4312 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan.
Coedwig Crychan, ger Llanymddyfri
Yn swatio rhwng Bannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Cambriaidd yng ngogledd Sir Gâr, mae Coedwig Crychan yn cynnig milltiroedd o lwybrau ag arwyddion ar hyd llwybrau glaswelltog a ffyrdd coedwig.
Rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mai mae llawr y goedwig yn troi'n las ac mae arogl hyfryd miloedd o glychau'r gog prydferth yn llenwi'r aer.
Mae'r bywyd gwyllt yn cynnwys llawer o rywogaethau fel moch daear, cadnoid, ewigod, gweilch Marthin, bodaod, a'r barcud coch gosgeiddig.
Mae gan y goedwig ddigon o le i barcio ceir mewn pedwar safle ac mae'n croesawu cerddwyr, beicwyr a marchogion, ar ei gwahanol lwybrau sy'n addas i deuluoedd. Mae'r warchodfa i'r gogledd-ddwyrain o Lanymddyfri ar yr A483. Cyfeirnod Grid SN848410.
Cwm Rhaeadr, Coedwig Cil-y-cwm, ger Llanymddyfri
Yn y gwanwyn, i'r gogledd o Lanymddyfri yn Nyffryn Tywi, mae gan Goedwig Cwm Rhaeadr wledd wych o glychau'r gog a blodau gwyllt eraill o dan ganopi'r goedwig. Mae'r llwybrau ag arwyddion yn mynd â chi trwy rannau gorau'r goedwig, trwy goed enfawr ac ar hyd llennyrch braf.
Bydd cerddwyr sy'n dilyn Llwybr y Rhaeadrau'n cael cipolwg ar y rhaeadr bob hyn a hyn drwy'r coed ar hyd ochrau'r dyffryn wrth iddyn nhw fynd yn ddyfnach i mewn i'r goedwig. Mae hyd yn oed taith gerdded hygyrch yno sy'n rhoi mynediad i'r goedwig i bob gallu, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae'r goedwig mewn lleoliad cyfleus i ymwelwyr gan fod bwyd gwych yn nhafarn y Neuadd Fawr Arms yng Nghil-y-cwm ac mae nifer o sefydliadau ychydig i'r de i lawr y ffordd yn Llanymddyfri, neu i'r gogledd yn Rhandir-mwyn. Cyfeirnod Grid: SN765422.
Mae gan y goedwig faes parcio a byrddau gwybodaeth wrth fynd drwy bentref Cil-y-cwm.
Coed Tre-gib
Mae Coed Tre-gib, ger Llandeilo, yn un o'r coedydd clychau'r gog mwyaf trawiadol yng Nghymru. Bob gwanwyn mae'r goedwig yn cael ei thrawsnewid yn las llachar gyda chlychau'r gog yn llenwi'r lle.
Yn ogystal â chlychau'r gog mae Coed Tre-gib yn frith o graf y geifr, ac mae tegeirianau coch y gwanwyn hyd yn oed i'w gweld yno. Mae craf y geifr yn ychwanegu blas garlleg at salad, ac mae'r blodau'n flasus mewn unrhyw bryd!
Mae'r goedwig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n cael ei reoli gan Coed Cadw sy'n darparu maes parcio i ymwelwyr, llwybrau ag arwyddion drwy'r goedwig, llwybr cerfluniau a meinciau i chi ymlacio arnyn nhw.
Ymysg y bywyd gwyllt y mae cadnoid, moch daear, cwningod, pathewod prin a hyd yn oed ambell garw. Ymhlith y llu adar y gallwch eu gweld y mae sawl boda a barcud.
Saif tref Llandeilo gerllaw ac mae yno amrywiaeth o fwytai, caffis a siopau ynghyd ag oriel hyfryd.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sydd wedi'i gwasgaru ar draws 500 erw, yn cynnwys golygfeydd godidog ac ystod eang o lwybrau i'w harchwilio. P'un a ydych chi'n mynd am dro bach tawel neu'n chwilio am rywbeth cyffrous i'w wneud gyda'r plant, mae'r gwanwyn yn dod â bywyd newydd i'r tiroedd, ac mae digon i'w weld a'i wneud yno.
Wrth i chi grwydro, fe welwch ddigonedd o glychau'r gog, ynghyd â digon o fflora a ffawna gwanwynol eraill sy'n lliwio'r tir a'u sawr hyfryd yn llenwi'r awyr.
Tra byddwch chi yno, cofiwch alw yn y Tŷ Gwydr Mawr sy'n cynnwys rhai o'r planhigion sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd. Bydd y plant wrth eu bodd â'r llwybr Gryffalo, sy'n mynd â chi'n ddwfn i'r goedwig hudolus. A phan fyddwch chi wedi gorffen, gallwch bori'r siop anrhegion, sy'n gwerthu eitemau unigryw, lleol neu beth am ymlacio a chael paned a rhywbeth i'w fwyta yn y caffi?
Hawlfraint delwedd: Nigel McCall