Brechfa
Ddechrau’r Oesoedd Canol, roedd yr ardaloedd i’r gogledd o afon Cothi yn llawn coedwigoedd a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer tanwydd, deunyddiau adeiladu, hela, ac yn ffynhonnell mêl a chnau.
Roedd y coedwigoedd hyn yn rhwystr aruthrol i farchogion arfog marchogol y brenhinoedd Normanaidd ac arglwyddi’r Gororau a fu’n ceisio gorchfygu Cymru o’r 11eg ganrif ymlaen. Ar ôl i Edward I orchfygu Cymru yn 1283, daeth Glyncothi yn Goedwig Frenhinol.
Y pentref yw man geni Thomas Evans, sy’n cael ei adnabod fel ‘Thomas Glyn Cothi’ (1764–1833), sef gweinidog dylanwadol yn yr Eglwys Undodaidd a gafodd ei garcharu am ei farn radicalaidd a oedd yn cefnogi’r Chwyldro Ffrengig a dileu’r fasnach gaethweision.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ffatri yn y pentref yn defnyddio pren lleol i gynhyrchu nafftha a ddefnyddiwyd i wneud ffrwydron.
Sefydlodd y Weinyddiaeth Lafur ddau wersyll yn y 1930au, yn Nhreglog (i’r gogledd-ddwyrain o Abergorlech) ac ychydig i’r de o bentref Brechfa. Defnyddiwyd y rhain rhwng mis Mawrth a mis Hydref i roi llety i weithwyr di-waith o Gymoedd De Cymru yn ystod y Dirwasgiad er mwyn iddynt adeiladu ffyrdd yn y goedwig. Hefyd, roeddent yn gartref i blant a oedd wedi ffoi o Wlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cawsant eu defnyddio i roi llety i Bwyliaid. Mae un o ffyrdd y goedwig yn cael ei hadnabod fel Heol Burma, a chafodd ei hadeiladu â llaw yn ystod y rhyfel.
Pam Cerdded?
Mae'r daith yn dechrau ym Mrechfa, sef pentref bach dymunol yng nghanol Sir Gaerfyrddin. Dyma ichi ardal wledig dawel o'r sir ac iddi ddyffrynnoedd serth a choediog. Dilyna'r daith lonydd tawel cefn gwlad a hen gilffyrdd i goedwig dderi hynafol a dolydd sy'n gyforiog o flodau. Mae rhan hyfryd o'r daith yn dilyn afon Cothi, un o afonydd harddaf De Cymru.
Pa mor Hir?
Mae'r daith gylchol hir ar y map tua 6.5 cilometr o hyd (4 milltir) gan ddringo 230 metr. (Caniatewch dair awr a hanner).
Mae'r daith gylchol fer tua 2.6 cilometr (1.5 milltir) dros dir cymharol wastad (caniatewch awr a hanner).
Pa mor Anodd?
Mae rhai darnau serth ar y llwybr hir ac mae'r ddwy daith yn dilyn traciau garw ac yn croesi caeau a allai fod yn wlyb dan droed hyd yn oed yn yr haf. Sylwer: Ym Mrechfa mae'r llwybr yn croesi rhyd, sydd yn aml yn rhy ddwfn i gerddwyr. Mae yna lwybr caniataol arall sy'n defnyddio'r trac wrth ochr y capel, a ddangosir ar y map.
Man Cychwyn - Canol y pentref
Maes Parcio - Ardal Bicnic
Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔
Lluniaeth - ✔
Fideo o taith gerdded Brechfa

Afon Cothi
Mannau o ddiddordeb
1. Roedd plwyf Brechfa yn faenor mynachaidd ganoloesol a oedd yn perthyn i Abaty Talyllychau. Cyfeirir ato fel 'Bracma' mewn dogfennau o'r unfed ganrif ar ddeg/deuddegfed ganrif yn 'Llyfr Llandaf'.
2. Daw enw tafarn y 'Forest Arms' o'r hen blasty cyfagos o'r enw 'Fforest'.
3. Adeiladwyd Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn 1790 ar ffurf syml a dirodres. Daeth Gweinidog Soar, Cil-y-cwm, i bregethu yma gyntaf a sefydlu'r achos tua 1770.
4. Mae'r cloddiau uchel wedi'u gorchuddio â Blodau'r Gwynt a Llygaid Ebrill yn y Gwanwyn, a Thafod yr Hydd Rhedyn a Chwerwlys yr Eithin yn hwyrach yn y flwyddyn.
5. Adeiladwyd Plasty Fforest, ar ochr arall y dyffryn (gogleddol), yn 1724 gan y teulu Rudd o Aberglasne. Mae'r grisiau Jacobeaidd a'r ffenestri Tuduraidd cynharach yno hyd heddiw. O'r fan hon mae modd gweld ei lôn sydd â choed ar y naill ochr a'r llall iddi.
6. Adfail yr Hafod. Yn 1844 roedd yr Hafod yn cynnwys safle'r tŷ ac ychydig o gaeau'n unig. Y ffordd orau o ddisgrifio'r tŷ ei hun yw fel 'tŷ hir' ac mae'r enw Hafod yn awgrymu tarddiad llawer hŷn. Mae'n golygu porfeydd yr haf a gallai fynd yn ôl i gyfnod pan oedd Banc-y-Daren ei hun yn ucheldir agored - tir pori garw ar gyfer defaid a gwartheg. Mae'n bosibl mai'r Hafod oedd cartref bugail neu fugail gwartheg yn ystod yr haf.
7. Cilffordd, sy'n rhoi syniad o'r hyn yr arferai llawer o ffyrdd fod cyn arferion arwynebu modern. Ar yr argraffiad cyntaf o Fap Arolwg Ordnans 1831, dangosir hon fel ffordd drwodd.
8. Mae'r daith gerdded wrth ymyl afon Cothi yn mynd drwy goetir brodorol o goed Derw, Ynn a Chyll. Mae hwn yn lle braf i ymlacio a gweld adar coetir ac adar afonol fel Dringwyr Bach, Cnocellod y Coed, Hwyadwyddau a Hwyaid Gwylltion.
9. Ardal o laswelltir gwlyb gyda nifer o blanhigion y gors fel Erwain, Llafn y Bladur, Tegeirian Brych a Llysiau'r Angel.
10. Mae ardal bicnic a maes parcio Ffynnon Byrgwm, sydd 2.5 cilometr (1.5 milltir) yn unig i'r dwyrain o Frechfa, yn fynedfa i ardal o goetir eang sy'n agored i'r cyhoedd ar gyfer cerdded, marchogaeth a beicio mynydd. Mae'r coetir yn gyfuniad diddorol o goed conwydd a choed brodorol pren caled. Cadwch lygad am Wiwerod Coch a llawer o wahanol adar gan gynnwys y Dryw Eurben, Telor y Cnau, y Barcud Coch a'r Croesbig.

Forest Arms

Llwybr ar hyd yr Afon Cothi

Blodyn y gwynt