English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Dewch i archwilio teithiau creadigol gan wneuthurwyr lleol

MT Jewellery Ltd

Yr em yn y goron 

Os hoffech ymuno ag eiconau Cymreig megis Catherine Zeta-Jones, Michael Sheen a Bryn Terfel a chael eich darn arbennig eich hun o emwaith cyfoes, wedi'i wneud gan ddylunydd gemwaith sydd wedi ennill gwobrau, yna mae rhaid i chi ymweld â Llandeilo. Yng Ngwesty'r Castell byddwch yn dod o hyd i drysor o Gymru. Mae Mari Thomas wedi'i chynnwys yn y cyfeirlyfr mawreddog o ddylunwyr gemwaith blaenllaw ac mae hi wedi creu coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Beth am sbwylio'ch hun i un o ddyluniadau Mari, sy'n dwyn ysbrydoliaeth o ddiwylliant Cymru a nodweddion y dirwedd. Ewch â darn adref gyda chi o'r ystod sy'n seiliedig ar y gair 'cariad' neu 'cofio' i'ch atgoffa am Sir Gaerfyrddin.

MT Jewellery Ltd
Gwesty'r Castell, 113 Stryd Rhosmaen, Llandeilo SA19 6EN
www.marithomas.com
Ffôn: 01558 660001

• Gwasanaeth comisiynu unigol yn ôl y gofynion a'r gyllideb
• Mae'r oriel yn cynnwys casgliad gemwaith Mari Thomas ynghyd ag arddangosfa o dros 30 o ddylunwyr o Gymru ac yn rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau.
• Mwynhewch wylio Mari a'r gwneuthurwyr gemwaith eraill yn saernïo eu casgliadau yn y gweithdy gemwaith.

Gemwaith Quicksilver

Y lliw arian

Efallai mai Dylan Thomas yw mab enwocaf Talacharn, ond rhaid bod y gof arian Alby Barratt yn ail agos yn hyn o beth. Dro ar ôl tro mae ffyddloniaid lleol ac ymwelwyr rhyngwladol yn dychwelyd at Emwaith Quicksilver lle mae Alby wedi bod yn dylunio ac yn saernïo gemwaith unigryw ers bron 30 mlynedd. Dywedir bod arian yn perthyn i'r lleuad ac i lanw a thrai, felly hwyrach mai Talacharn a ddenodd Alby i Gymru, a dyma'r ysbrydoliaeth ar gyfer y modrwyau, y breichledau a'r cadwyni cain a hardd a wneir o arian â llaw. Dewiswch o blith detholiad mawr o gerrig hanner gwerthfawr a phenderfynwch sut yr hoffech iddynt gael eu gosod i greu eich darn unigryw.

Gemwaith Quicksilver
Kingston House, Stryd y Brenin, Talacharn SA33 4QE
www.quicksilverjewellery.co.uk
Ffôn: 01992 427700

• Ar un adeg roedd Dre-fach yn cael ei galw yn 'Huddersfield Cymru’
• Gall teuluoedd gael hwyl wrth ddilyn y llwybr a gynlluniwyd yn arbennig, 'Llwybr y Gynffon Wlanog'

National Wool Museum

Stori gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach, Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul SA44 5UP
www://amgueddfa.cymru/gwlan/
Ffôn: 0300 111 2333

Efallai y bydd yn eich synnu i wybod mai gwlân oedd y diwydiant pwysicaf a mwyaf eang yng Nghymru ar un adeg. Yn Amgueddfa Wlân Cymru ym mhentref pert Dre-fach yn Nyffryn Teifi (a oedd unwaith yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlân ffyniannus) gallwch dreulio amser, trwy gydol y flwyddyn, yn dod i wybod y stori gyfareddol honno. Melin y Cambria oedd yr Amgueddfa ar un adeg, a oedd yn gwneud crysau a siolau, blancedi, carthenni a hosanau a oedd yn cael eu gwerthu ar draws y byd. Dysgwch sut y caiff cnu'r ddafad ei droi'n ddefnydd. Gallwch weld tecstilau cyfoes yn cael eu cynhyrchu a Chasgliad Tecstilau Fflat Cenedlaethol Cymru. Dyma gyfle na allwch ei golli. Diwrnod mas gwych i'r teulu cyfan.

• Ar un adeg roedd Dre-fach yn cael ei galw yn 'Huddersfield Cymru’
• Gall teuluoedd gael hwyl wrth ddilyn y llwybr a gynlluniwyd yn arbennig, 'Llwybr y Gynffon Wlanog'

Phoenix Forge

Crefft hynafol, dylunio modern

Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Phoenix Forge wedi bod yn troi syniadau’n realiti trwy grefft fythol gwaith gof. Gan arbenigo mewn darnau a wnaed at chwaeth cwsmer ar gyfer cartrefi a gerddi, maent yn gwneud haearn yn fyw, gan gyfuno technegau hynafol â dylunio cyfoes. Dan arweiniad William Holland, gof gyda chefndir ym maes pensaernïaeth, mae pob darn yn greadigaeth unigryw sy’n cyflawni ei diben ac yn gweddu i’w chyd-destun. Mae arbenigedd Phoenix Forge yn ymestyn y tu hwnt i brosiectau personol; maent wedi cael y fraint o weithio ar rai o weithiau haearn mwyaf mawreddog y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tirnodau eiconig fel Eglwys Gadeiriol Henffordd, Castell Sain Dunwyd, a Chastell Coch. Mae eu gwaith hefyd wedi addurno eiddo a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, a nifer o gleientiaid preifat. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth unigryw a phersonol, Phoenix Forge yw lle y mae’ch syniadau’n dod yn realiti.

Fferm Mile End, Trefechan, Caerfyrddin, SA31 3QL
https://www.phoenixforge.co.uk/  
Info@phoenixforge.co.uk 
Rhif ffôn: 01267 234603

•  Yn cynnig dosbarthiadau gwaith gof ar gyfer dechreuwyr a dysgwyr uwch
•  Yn cyfuno technegau traddodiadol gyda dyluniad modern er mwyn ffurfio creadigaethau unigryw
•  Portffolio trawiadol sy’n cynnwys giatiau a pholion llenni, gwaith unigryw ar gyfer waliau, a chyfres o gerfluniau bwystfilod chwedlonol

Onnen Studios

Creadigaethau Cennen

Yn swatio yng nghanol Sir Gaerfyrddin, mae Onnen Studios wedi’i hysbrydoli gan amgylchoedd syfrdanol Trap, Llandeilo, gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog a chastell hanesyddol Carreg Cennen. Wedi’i sefydlu gan ddeuawd sy’n angerddol am waith metel a dylunio, mae Onnen Studios yn creu darnau unigryw o gelf metel ar gyfer cartrefi, gerddi a busnesau. Mae’r hyn a ddechreuodd fel menter leol wedi ehangu’n gyflym, gydag Onnen Studios bellach yn cludo ei ddarnau metel crefftus ledled y byd. Ymwelwch â’u siop Etsy, sy’n tyfu, neu cysylltwch â nhw’n uniongyrchol trwy neges destun neu WhatsApp ar gyfer ymholiadau. Mae Onnen Studios hefyd yn croesawu ymweliadau grŵp â’u stiwdio gartref i gael profiad mwy personol.

Fferm Onnen Fawr, Llandeilo, SA19 6TH
https://www.etsy.com/shop/onnenstudios/?etsrc=sdt  
Rhif ffôn: 07791 445996

•  Stiwdio gartref ar agor ar gyfer ymweliadau grŵp o chwech i 25 o ymwelwyr – anfonwch neges i gadw lle
•  Yn arbenigo mewn cerfluniau metel unigryw, wedi’u gwneud â llaw, sy’n dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru
•  Ymhlith y gwerthwyr gorau mae gwaith celf metel o fenywod yn gwisgo gwisg draddodiadol Cymru, Blodwen a Myfanwy, yn ogystal â Dai y Ddraig