English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Ceramig a Gwydr

Gwnaed yn Sir Gâr

Jonathan Cox

Yn ôl i fyd natur

Gallech ddweud bod Jonathan Cox yn byw'r freuddwyd ym Mheniel. Dyma lle penderfynodd y garddwr sydd bellach yn geramegydd fwrw ei wreiddiau, yng nghanol y nawdegau, a chyflawni ei uchelgais o gael stiwdio yn y cartref yn agos i'r ysbrydoliaeth ar gyfer cymaint o'i waith. Ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Yn Sir Gaerfyrddin, mae wedi canfod cyswllt agosach â byd natur a diddordeb newydd mewn siapiau cyfoes ar gyfer ei waith. Yn siop y stiwdio byddwch yn dod o hyd i bowlenni a fasau clasurol ar ddyluniadau sy'n cyfleu'r dirwedd leol: penlas yr yd, mwyaren, briallu a'r fioled. A ffurfiau siâp silindr o'r enw ysgall a llysiau'r gingroen, mynawyd y bugail a blodyn ymenyn. Gardd llawn rhyfeddodau. 

Gelli Gergwm, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7AQ
www.jonathancoxceramics.co.uk 
Rhif ffôn: 01267 231747

•  Mae Jonathan yn defnyddio technegau odyn hynafol sy'n dyddio filoedd o flynyddoedd yn ôl.
•  Mae Jonathan yn addurno gan ddefnyddio peintiau gloywedd wedi'u gwneud o gopr ac arian yn gymysg â chlai 

Crochenwaith Pen-bre

Posibiliadau mewn crochenwaith

Ym mhentref glan môr pert Pen-bre byddwch yn dod o hyd i Grochenwaith Pen-bre. Yn 2006, pan oedd yn feistr ar ei grefft, penderfynodd Graham Newing mai'r gorllewin oedd orau a symudodd ei fusnes crochenwaith sefydledig o Wiltshire i Gymru. Camwch i mewn i'r stiwdio a byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth wych o lestri a darnau o grochenwaith caled a phorslen wedi'u taflu ar yr olwyn. Lliwgar, Ewropeaidd, cain a soffistigedig yw'r geiriau allweddol. Neu, Crochenwaith Pen-bre. Siapiau organig, wedi'u haddurno'n unigol gan sgraffito. Mewn geiriau eraill, Graham Newing. Meddyliwch am bosibiliadau di-ben-draw mewn crochenwaith. Nid yw'n syndod bod pobl yn teithio o bell i'r crochendy ym Mhen-bre i bori, i brynu, ac i ddysgu gan Feistr wrth ei waith. 

23 Sgwâr Randall, Pen-bre, SA16 0UB
www.pembreypottery.co.uk 
Rhif ffôn: 01554 834041

•  Taflwch lestr neu lluniwch rywbeth cerfluniol - ceir dosbarthiadau nos wythnosol ar adegau penodol, sesiynau un-i-un neu sesiynau grŵp
•  Beth am gyfuno cwrs crochenwaith ag aros dros nos yn y bwthyn clyd sydd ar gael i'w rentu y drws nesaf i'r stiwdio

 

 

 


Siramik

Trowch eich llaw at grochenwaith

Ydych chi erioed wedi bod awydd llunio llestr allan o glai ond heb erioed gael y cyfle neu'r hyder i wneud hynny? Dyma eich cyfle chi. Mewn stiwdio sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol, ar fferm rhwng Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, mae Siramik yn cynnig hyfforddiant arbenigol a phrofiad ymarferol wrth olwyn y crochenydd, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu. Byddwch yn cael eich tywys trwy'r broses gyfan mewn lleoliad llawn hwyl - paratoi'r clai, barnu ei gyfansoddiad, siapio eich dwylo a'ch cyhyrau i ganoli'r clai ar yr olwyn a chael y wefr o gynhyrchu eich llestr cyntaf un! Lluniwch lestr a gwnewch benwythnos ohoni. Arhoswch dros nos a chymdeithasu yn y sgubor gerrig wedi'i haddasu sydd drws nesaf i'r stiwdio. 

Lanclynadda, Alltwalis, Caerfyrddin, SA32 7DY
www.siramik.co.uk 
Rhif ffôn: 01559 384292


•  Mae'r stiwdio a'r cyfleusterau gwely a brecwast wedi ennill Gwobr y Ddraig Werdd am ddefnyddio ynni cynaliadwy ac am drin yr amgylchedd mewn modd cyfrifol 
•  Brecwastau blasus wedi'u gwneud o gynnyrch lleol Sir Gâr
•  Partïon crochenwaith i blant yn Siramik neu trwy Siramik ‘on the move’

Gwydr Moriath

Ysbrydoliaeth o'r gorwel

Ymgollwch yn y dirwedd y tu allan i'r stiwdio fechan hon ger Llandysul. Edrychwch ar y caeau, y coedwigoedd, yr afonydd a'r mynyddoedd a'r awyr lydan. Anadlwch i mewn yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r tirluniau gwydr o baneli a gemwaith yn Gwydr Moriath. Yma mae Moira yn defnyddio ei hegni creadigol a gwres yr odyn i drin gwydr mewn amrywiaeth o ffurfiau – dalenni, powdr, ffrit, enamel – gan beri iddo fynd trwy gyfres o brosesau tanio i greu ffenestri ar fydoedd. Gwyliwch hi'n rhoi lliwiau, paent a phatrymau mewn haenau i greu pob darn, o gadwyni a chlustdlysau, dysglau a phowlenni i baneli crwm sy'n sefyll ar eu traed eu hunain, dalwyr haul a gwneuthurwyr enfys – gyda phob un o'r gweithiau celf a wneir â llaw yn ddarn unigryw. 

 Nant, Cwmpengraig, Dre-fach, Felindre, Llandysul, SA44 5HY
www.moriathglass.co.uk 
Rhif ffôn: 01559 371585

•  Mae'r stiwdio hefyd yn arddangos gwaith gan Aled Jenkins – llechi Cymreig wedi'u hadfer yn glociau, fasys a chadwyni, sydd â gwerth cyffyrddol rhyfeddol a hanes gwych
•  Croesewir comisiynau – efallai gorwel neu olygfa hoff o Sir Gaerfyrddin i'w drysori am byth

 

Cariad Glass

Gwnaed â chariad yng Nghymru

Mae Cariad yn air pwysig i'r Cymry. Yn Gwydr Cariad yn nhref farchnad Llandysul yng nghalon Dyffryn Teifi, mae pob darn unigryw o wydr lliw a gaiff ei greu yn llafur cariad. Estynnir croeso mawr i ymwelwyr ddod i wylio (a holi) crefftwyr traddodiadol sy'n defnyddio offer a thechnegau a ddefnyddid gan artistiaid gwydr lliw ers canrifoedd. Porwch am roddion unigryw hardd, perffaith ar gyfer penblwyddi, priodasau a'r Nadolig. Croesewir comisiynau ffenestri lliw mwy o faint hefyd – mae paneli a darnau arbenigol Gwydr Cariad a gaiff eu peintio â llaw a'u tanio mewn odyn i'w gweld yn harddu tai, eglwysi, capeli, busnesau a hyd yn oed melin wynt, ar hyd a lled y DU a thu hwnt. Dewch â harddwch gwydr lliw i mewn i'ch cartref. 

Uned 1 Unedau Teifi, Heol Newydd, Llandysul, SA44 4QJ
www.cariadglass.co.uk 
Rhif ffôn: 01559 362972

•  Gall myfyrwyr o bob oed fwynhau dysgu celfyddyd gwydr lliw gyda'r crefftwyr arbenigol Chris a Justine Dodd
•  Maent yn arbenigo mewn adnewyddu ac atgyweirio gwydr lliw

Crochenwaith Geler

Mewn dwylo diogel

Mae Crochenwaith Geler yn fenter newydd gyffrous sy'n dechrau yng ngwanwyn 2019 gan y ceramegydd o Sir Gaerfyrddin, Chris Latter. Byddwch yn gweld Chris (sy'n enwog am ei hugain mlynedd yng Nghrochendy Gwili, Pontarsais) yn ei gweithdy a'i horiel, sy'n bwrpasol ac yn hygyrch, ger Llandysul lle mae hi'n creu amrywiaeth o gerameg hardd wedi'u gwneud a'u peintio â llaw. Er bod yr enw yn newydd a bod yna ddyluniadau ffres, byddwch hefyd yn gallu prynu dyluniadau presennol oddi wrth ystod Gwili, yn unig wahaniaeth yw y bydd y llythrennau Geler arnynt yn hytrach na Gwili. Beth bynnag a ddewiswch, byddwch yn gweld cariad Chris tuag at amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin, mewn dyluniadau hardd gydag enwau megis Y Môr, Cariad a hyd yn oed N'ad fi'n angof.

Llangeler, Llandysul
Rhif ffôn: 01267 253449

•  Crëwch eich llestr eich hun. Mae gwersi llawn hwyl ac ymarferol ar gael, boed yn wersi un-i-un neu ar gyfer grwpiau, a hynny o lefel dechreuwyr i lefel uwch

Stiwdio Crochenwaith a Chelf Llandeilo

Gweithiwch â phaent a chwaraewch â chlai

Caiff ymwelwyr a phobl leol eu denu i Stiwdio Crochenwaith a Chelf Llandeilo. Mae'n lle gwych sy'n llawn crochenwaith, peintiadau a cherameg, wedi'u gwneud â llafur cariad gan yr artist Jacki Yorke, a oedd unwaith yn Lundeinwraig ond sydd bellach yn un o'r bobl leol. Gallwch bori trwy ei chrochenwaith - o flychau arian a matiau diod i fachau cotiau siâp draig a dreigiau hedegog - a ysbrydolir gan natur, anifeiliaid a'i gardd ei hun yn Sir Gâr. Nid yw'n fawr o syndod bod yna ystod o beintiadau o'r enw ‘Paradise on Your Doorstep’. Gallwch ryddhau eich cyneddfau mewnol yma hefyd. Gweithiwch â phaent. Peintiwch â chlai. Darluniwch. Addurnwch. P'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n Rembrandt, bydd yr artist/cerflunwraig/tiwtor yma'n ennyn yr elfen greadigol ynoch. 

Stiwdio Crochenwaith a Chelf Llandeilo, Heol Llandeilo, Llandybie, Rhydaman, SA18 2 LQ
www.jacki.yorkes.co.uk 
Rhif ffôn: 01269 851993

•  Dosbarthiadau crochenwaith yn ystod y dydd a chyda'r hwyr
•  Clwb peintio
•  Darlunio bywyd gwyllt a botaneg

Gwydr Simon Howard

Celf mewn gwydr

Mae Simon Howard, meistr gwydr lliw, yn cyfuno dros 25 mlynedd o brofiad ag angerdd am grefftwaith a dylunio. Dechreuodd ei daith yn Swydd Gaerhirfryn, lle bu’n hyfforddi ochr yn ochr â’i deulu cyn lansio ei stiwdio ei hun yn 2001. Bellach wedi’i leoli yn Llandeilo, mae Simon yn dod â chyfuniad unigryw o dechnegau traddodiadol a dawn gyfoes i bob darn, boed ar gyfer cartrefi preifat, eglwysi, neu ofodau masnachol. Mae gwaith Simon yn cael ei gydnabod am ei harddwch, crefftwaith, a sylw i fanylion. Fel y gwelwyd ar Charlotte Church’s Dream Build gan Discovery+ a Kirstie’s Handmade Christmas ar Channel 4, mae ei stiwdio yn creu gwydr lliw pwrpasol, goleuadau plwm ac atgyweiriadau, gan drawsnewid gofodau gyda chelf fythol gwydr.

8 Stryd y Brenin, Llandeilo, SA19 6BA
glassstudio@me.com  
Rhif ffôn: 07734689736 

•  Cyrsiau dydd gwydr lliw i ddechreuwyr
•  Ar gael ar gyfer comisiynau yn lleol ac yn genedlaethol

James a Tilla Waters

O odynau Sir Gaerfyrddin i’ch cartref 

Wedi’i leoli yng nghefn gwlad prydferth Sir Gaerfyrddin, sefydlwyd James and Tilla Pottery gan ddau o raddedigion celfyddyd gain angerddol sy’n rhannu cariad at greu crochenwaith troell ymarferol. Dechreuodd eu taith ar ddiwedd y 1990au fel prentisiaid i’r crochenydd enwog Rupert Spira, cyn sefydlu eu gweithdy yng nghanol gorllewin Cymru, lle maent yn dal i grefftio cerameg hardd heddiw. Gyda’i gilydd, mae James yn canolbwyntio ar droelli’r potiau, tra bod Tilla yn dod â nhw’n fyw gyda chynlluniau cywrain ac addurniadau gofalus. Mae pob darn wedi’i saernïo â pharch dwfn at ymarferoldeb – gwrthrychau a wnaed â gofal sydd i fod i gael eu defnyddio a’u hanwylo. Wedi’i gydnabod â gwobrau cenedlaethol ac wedi’i gynnwys yng nghasgliad parhaol Amgueddfa’r V&A, mae gwaith cerameg James a Tilla yn adlewyrchu eu hymrwymiad i grefftwaith a chelfyddyd.

Fferm Bryndyfan, Llansadwrn, Llanwrda, SA19 8NL
https://www.jamesandtillawaters.co.uk/keep-in-touch/  
Rhif ffôn: 01550 777215

•  Potiau crochenwaith troell, yn cael eu tanio’n rydwythol gan ddefnyddio dulliau traddodiadol
•  Cymrodyr Cymdeithas y Crochenwyr Crefft
•  Yn cadw stoc mewn siop yn Llundain, eu hystafell arddangos eu hunain, ac yn y Fenni
•  Siop ar-lein fawr yn cynnig eu hystod lawn o waith cerameg

Mill Rundle Pottery

Potiau perffaith 

Yn swatio ym mhrydferthwch llonydd Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, mae cwmni Mill Rundle Pottery wedi’i leoli mewn adeilad carreg a fu unwaith yn lladd-dy, wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad godidog a thafliad carreg o Amgueddfa Wlân Cymru. Dechreuodd taith Simon Rundle i waith cerameg yn yr ysgol, wedi’i annog i archwilio crochenwaith ochr yn ochr â’i Safon Uwch mewn celf. Mae dros 40 mlynedd o angerdd a sgìl wedi arwain at stiwdio eang sy’n cynhyrchu darnau crochenwaith trawiadol wedi’u hysbrydoli gan arlliwiau naturiol cefn gwlad Gorllewin Cymru, o fygiau coffi i ddysglau caserol, pob un wedi’i saernïo’n ofalus â lliwiau priddlyd sy’n gweddu i unrhyw gartref neu fwrdd. Ewch i’r stiwdio neu archebwch ar-lein i gael ychwanegiad unigryw i’ch cartref.

Dolwerdd, Dre-fach Felindre, SA44 5UG
https://millrundle.co.uk/  
Rhif ffôn: 07733155925

•  Gellir dod o hyd i waith Simon mewn nifer o fwytai sydd â seren Michelin, lle mae ei greadigaethau yn ategu bwyd o safon fyd-eang
•  Mae eitemau yn ddiogel i’w defnyddio mewn popty, microdon, a pheiriant golchi llestri
•  Yn cynnig sesiynau blasu crochenwaith i unigolion a grwpiau

Gwaith Cerameg Carole Spackman

Natur mewn clai

Mae crochenwaith Carole Spackman wedi’i ysbrydoli gan fywyd yn nhirwedd syfrdanol, heb ei gyffwrdd, Bannau Brycheiniog. Ers symud i Landdeusant ym 1982, mae hi wedi creu gwaith sy’n plethu ei chariad at fywyd gwyllt, golygfeydd lleol, a dros 60 mlynedd o arsylwi byd natur. Mae ei llestri bwrdd, wedi’u haddurno â phatrymau blodau gwyllt, ac mae cerfluniau anifeiliaid cywrain yn dal hanfod Bannau Brycheiniog, o weadau’r mynyddoedd i adar y dyffryn. Mae pob darn, boed yn gerfluniol neu’n ymarferol, yn cario ysbryd y tir. Mae crochenwaith Carole wedi’i arddangos yn orielau Glynn Vivian a Selfridges, ac mae ei gweithdai yn cynnig cyfle i chi greu rhywbeth gwirioneddol bersonol. 

Crincae, Llanddeusant, Llangadog, SA19 9UP
https://carolespackmanceramics.co.uk/  
carolepottery@gmail.com 
Rhif ffôn: 01550 74061

•  Gweithdai ar gael i ddechreuwyr a chrochenwyr profiadol
•  Fe’i gwelir mewn orielau mawreddog fel amgueddfeydd Glynn Vivian, Casnewydd, Trefynwy ac Aberhonddu

 

Parc Pottery

Creadigaethau clai 

Yn gweithio fel ffotograffydd priodasau yn ystod y dydd a chrochenydd gyda’r nos, dechreuodd taith Will i grochenwaith oherwydd bod ganddo gariad at grochenwaith a ffurfiwyd â llaw ac awydd i greu darnau ymarferol, hardd ar gyfer ei gegin ei hun. Mae’r hyn a ddechreuodd gyda throell crochenydd gartref wedi datblygu’n Parc Pottery, lle mae pob darn yn cael ei wneud yn feddylgar mewn sypiau bach. Wedi’i ysbrydoli gan gefn gwlad llonydd de Cymru, mae gwaith Will yn gynnes, yn chwareus, ac ymhell o fod wedi’i fasgynhyrchu. Mae gan ei grochenwaith troell gymeriad unigryw, gyda phob darn yn adlewyrchu ei ymroddiad i ansawdd ac unigoliaeth.

Rhydaman
https://parcpottery.com/  
parcpottery@gmail.com 

•  Yn arbenigo mewn mygiau, bowlenni, a nwyddau cartref wedi’u gwneud â llaw
•  Stiwdio grochenwaith wedi’i gwneud â llaw wedi’i lleoli mewn stiwdio ardd bwrpasol yn Rhydaman
•  Dosbarthiadau crochenwaith – p’un a ydych chi’n ddechreuwr pur sydd eisiau rhoi cynnig ar grochenwaith neu’n unigolyn â phrofiad blaenorol sy’n edrych i wella’ch sgiliau troell crochenydd, mae’r dosbarthiadau cartrefol ac ymlaciol hyn yn cwmpasu ychydig o bopeth