English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Casgliad Gwyliau Chwilfrydig yr Hydref yn Sir Gâr

Gan fod ymwelwyr yn chwilio am brofiadau mwy ystyrlon ac arafach, yn ogystal â diddordeb cynyddol mewn gwyliau byr sy'n seiliedig ar hobi, rydyn ni wedi llunio casgliad newydd o Wyliau Chwilfrydig yn Sir Gâr er mwyn i chi gael hydref perffaith.

Mae pob awgrym yn eich helpu i ddarganfod Sir Gâr drwy brofiadau sy'n cynnig mwy na newid cynefin, maen nhw'n rhoi rhywbeth i chi ei fwynhau, ei archwilio, ei ddysgu neu ymgolli ynddo.

Pobyddion Chwilfrydig

Dysgwch sut i bobi torth draddodiadol Gymreig gyda Jamie the Baker  yn ei stiwdio bobi ym mhentref arfordirol Llansteffan. Gallwch aros 200m i ffwrdd yn Inn at the Sticks, sy'n nefoedd i fwydgarwyr, a chyfuno gwneud bara â theithiau cerdded hydrefol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Gallwch gadw'n glyd wrth y tân gyda phlatiau blasus i'w rhannu, sy'n defnyddio cynnyrch Cymreig, yn y dafarn gourmet hon gydag ystafelloedd.

Mae ystafell ddwbl yn dechrau o £140 yn seiliedig ar ddau yn rhannu ac mae'n cynnwys brecwast Cymreig. Cyrsiau pobi o £59 y pen.

Cerddwyr Chwilfrydig

Arhoswch yn The Bear yn Llanymddyfri am benwythnos cerdded wrth y porth i Fannau Brycheiniog. Yng nghanol y dref mae'r dafarn hon, sy'n 600 mlwydd oed, yn cynnig prydau cartref poblogaidd ac ystafelloedd (dwbl o £95 y noson) uwchben y dafarn, yn ogystal â fflatiau mwy o amgylch y gornel.

Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch allan i’r llwybrau i fwynhau lliwiau godidog yr hydref, neu ymunwch â chwrs darllen mapiau gyda Hawk Adventures dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol. Mae hyn yn sicr o hogi eich sgiliau mordwyo gan ddefnyddio map a chwmpawd yn unig. Mae defnyddio'r ymennydd yn brofiad sy'n rhoi boddhad mawr! Cyrsiau diwrnod llawn ar gael o £85 y pen.

Ffermwyr Chwilfrydig

Archebwch wyliau amaethyddol gwych ar David’s Organic Farm, gan ddysgu gyrru tractor a mwynhau profiadau o'r fferm i'r fforc yn ystod y gwyliau byr. Treuliwch awr y tu ôl i'r llyw, gyda thywysydd arbenigol, yn archwilio traciau a darganfod gwefr bywyd ar y tir. Yna gwisgwch eich esgidiau glaw i fynd am dro hydrefol drwy 50 erw o goetir hynafol y fferm a 2.5 milltir ar hyd Afon Taf. Gallwch archebu un o'r pum bwthyn.

Gwingarwyr Chwilfrydig

Arhoswch yn Holiday Nests, sef fferm alpacaod heddychlon gydag ysgubor gerrig i ddau a thai coed newydd sy'n cael eu lansio ym mis Hydref. Gyrrwch i'r gogledd ac ymweld â Gwinllan a Gwindy Hebron am daith, tapas a phrofiad blasu gyda'r perchnogion, Jemma a Paul, sy'n gwneud gwin gan ddefnyddio dulliau gwinwyddaeth adfywiol. Deg munud i'r cyfeiriad arall mae Bwyty Gwinllan Jabajak, lle gallwch gael pryd o fwyd allan neu brofiad blasu gwin drws seler.

Mae gwyliau penwythnos am ddwy noson yn yr Ysgubor Gerrig yn costio £570, yn seiliedig ar ddau yn rhannu ar sail hunanarlwyo. Mae profiad blasu a tapas 2.5 awr yn Hebron yn costio £40 y pen.

Archwilwyr Aur Du Chwilfrydig

Coffi yw’r ‘aur du’ newydd yn nhref lofaol Rhydaman yn Sir Gâr. Pan gaeodd y pwll glo olaf yn 2003, collodd y dref ei ffordd o fyw. Aeth Coaltown ati i ailgynnau’r balchder drwy ganolbwyntio ar goffi – ac erbyn hyn mae peiriannau yn mwmian eto, nid yn y pyllau glo, ond yn eu Rhostfa.

Heddiw gall ymwelwyr dreulio bore yn perffeithio eu sgiliau barista cartref mewn gweithdy (£95 y pen) yn y rhostfa, cyn archwilio cylch cerdded newydd sbon - Llwybr 1, sef taith gerdded 6 milltir sy’n archwilio treftadaeth pyllau glo’r Betws, gan fynd heibio i hen safleoedd Glo Prydain. Gallwch aros yng Ngwesty Gwely a Brecwast Ffermdy Pontyclerc y tu allan i Rydaman, lle mae ystafelloedd dwbl yn dechrau o £125 yn seiliedig ar ddau yn rhannu am wely a brecwast.

Trinwyr Gwlân Chwilfrydig

Dewiswch o blith cyfres o weithdai gwlân, sesiynau blasu a sgyrsiau yr hydref hwn yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Dysgwch am liwio naturiol gyda phlanhigion pob dydd, neu rhowch gynnig ar wehyddu ar wŷdd pegiau neu wneud pwmpen wlân hydrefol. Mae rhai sesiynau yn rhad ac am ddim, ac mae tâl bach am eraill, a gellir eu harchebu yma.

Wedi'i lleoli yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, mae mynediad i'r amgueddfa am ddim ac mae caffi yno hefyd. I lawr y ffordd yng Nghastellnewydd Emlyn, cewch brofiad newydd yn y Siop Gwlân Cymreig a siop goffi, lolfa wau a siop wlân Unwind sydd drws nesaf. Fel arall, am ddiwrnod llawn o ffeltio gwlyb, ymunwch â Jane yn Fabulous Feltings. Cewch ddiwrnod hwyliog o grefftio gyda'r holl ddeunyddiau a chinio blasus wedi'u cynnwys am £95 y pen.

Arhoswch yn un o Fythynnod Gwyliau Dolgoch Mill, sef tri eiddo sydd â lle i rhwng pedwar a chwech o bobl ac o fewn pellter cerdded i'r amgueddfa. Mae gan bob bwthyn ddodrefn cyfforddus ac enwau sydd wedi'u hysbrydoli gan y diwydiant gwlân, fel Spinners, Weavers a Waterwheel. Mae gwyliau yn dechrau o £419 am wythnos i hyd at bedwar o bobl. 

Gwylwyr Adar Chwilfrydig

Dewch i Sir Gâr i fwynhau taith gerdded yn y coetir, drwy warchodfa lle mae coed gwern a derw a heibio i afonydd sy'n llifo'n gyflym i Afon Tywi, yng Ngwenffrwd-Dinas, ychydig i'r gogledd o Lanymddyfri. Wedi'i rheoli gan yr RSPB, mae’r warchodfa yn gartref i bob math o adar, gan gynnwys Barcudiaid Coch, Gwybedogion Brith, Tingochiaid, Pibyddion y Dorlan, Bronfreithod Bach a Siglennod Llwyd. Yna, er mwyn gwylio adar yr arfordir, ewch i'r llwybrau pren a'r cuddfannau yng Nghanolfan y Gwlyptir Llanelli, gan fod yr hydref yn amser perffaith i weld adar dŵr mudol ac adar sy'n gaeafu. Hefyd, yr hydref hwn, cynhelir Gweithdai Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt gyda'r arbenigwr, Paul Way, yng Nghanolfan y Gwlyptir Llanelli (3 Hydref a 7 Hydref, £75 y pen).

Arhoswch yn Tŷ Mawr, sef tŷ gwledig hanesyddol o'r 17eg ganrif ar gyrion Fforest Brechfa, lle mae ystafelloedd dwbl yn dechrau o £125 y noson am wely a brecwast. 

Beicwyr Chwilfrydig

Mae Y Seren yn westy gwledig bwtîc newydd chwaethus sydd wedi'i leoli o fewn pum erw o goetir a dôl y tu allan i Gaerfyrddin ac o fewn ychydig filltiroedd i ddechrau llwybr newydd Dyffryn Tywi. Gyda mynediad hawdd i'r llwybr di-draffig 13 milltir, dyma le perffaith ar gyfer gwyliau'r hydref. Mae'r llwybr, sy'n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo, yn mynd drwy Ddyffryn Tywi, gan ddilyn yr hen reilffordd, gyda golygfeydd o goedwigoedd a chestyll a thyrau ar fryniau.

Gallwch gael bwyd a diod ar hyd y ffordd yn Wright’s Food, neu yn Pitchfork and Provision yn Llandeilo, lle cewch ddanteithion lleol. Ystafelloedd dwbl yn y Seren o £125 y noson am wely a brecwast.

Bwydgarwyr Chwilfrydig

Mae Y Castell ym mhentref Llangadog newydd ennill 2 Roséd yr AA am Ragoriaeth Coginio. Mae'r dafarn goets smart hon gydag ystafelloedd, sydd newydd ei hadnewyddu, yn cael ei rhedeg gan bâr angerddol ac mae’n sicr o fodloni pob bwydgarwr. Mae'r fwydlen yn cynnwys prydau tafarn clasurol blasus, byrbrydau ysgafn, neu gallwch gael profiad gourmet gyda'r cynhwysion hydrefol gorau o'r tiroedd cyfoethog o amgylch Dyffryn Tywi. Os hoffech gael penwythnos heb gar, mae'r dafarn o fewn tafliad carreg i orsaf drenau Llangadog sydd ar linell Calon Cymru.

Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i fanteisio ar gwrs yn Coed Talylan, sef menter wych sy'n canolbwyntio ar feithrin cynaliadwyedd, adfywio a chymuned. Mae’r gweithdai diddorol yn cynnwys tyfu ac eplesu madarch - sy'n cyd-fynd yn berffaith â phenwythnos bwydgarwyr – ynghyd â gwaith coed, adeiladu naturiol, cerfio pren, adeiladu tai coed a gwaith coed i ferched. Mae hefyd yn gartref i'r Reffwngiwm 30 erw, sef gwarchodfa natur ffwngaidd sy'n canolbwyntio ar adfer coetir yn gynefin iach ac amrywiol, sy'n golygu bod yr hydref yn amser arbennig o hudolus i ddod yma.

Ystafelloedd dwbl o £120 yn seiliedig ar ddau yn rhannu am wely a brecwast yn y Castell. Cyrsiau yn Coed Talylan o £120 y pen.

Naturiaethwyr Chwilfrydig

Arhoswch yn Bythynnod Cambrian wrth y porth i Fynyddoedd Cambria. Mae'r bythynnod hyn wedi ennill gwobrau am ganolbwyntio ar gynaliadwyedd ac maent mewn ysgubor Fictoraidd sydd wedi'i hadfer yn ofalus mewn ardal Awyr Dywyll, dim ond 12 milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin. Bydd y sawl sy'n gwylio'r sêr yn ymgartrefu'n gyflym ac yn archwilio awyr y nos o batio preifat sy'n edrych dros y dyffryn, gyda phyllau tân i'ch cynhesu ar nosweithiau oer. Mae'r bythynnod i gyd yn croesawu cŵn ac mae ganddynt fynediad at deithiau cerdded gogoneddus.

Archwiliwch yr ardal gyda Cath o Natur Ni, sy'n cynnig profiadau chwilota a choginio i westeion ar y safle. Mae hi wedi casglu gwerth cenedlaethau o wybodaeth am natur. Mae'r cynefinoedd amrywiol a'r fioamrywiaeth gyfoethog yn Berllan yn rhoi cyfle i ddarganfod bwyd dolydd, gwrychoedd, glannau afon a choetiroedd hynafol, i gyd o fewn pellter cerdded hawdd i'ch bwthyn!

Gwyliau tair noson yn dechrau o £280 i ddau, a phrofiadau chwilota preifat yn dechrau o £85 y pen yn seiliedig ar grŵp o bedwar.