English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Arfordirol Bae Caerfyrddin

Mae'r llwybr yn cynnwys rhan o Barc Arfordirol y Mileniwm a phentref Glanyfferi cyn bod dringfeydd serth i gyfeiriad y tir. Mae golygfeydd gwych ar hyd y daith gyfan.

Uchafbwyntiau

Llwybr Arfordirol y Mileniwm – dyma un o berlau'r byd beicio yn Sir Gaerfyrddin. Llwybr gwych, pedair milltir o hyd, di-draffig sydd â golygfeydd godidog dros y môr.

Cydweli i Lanyfferi – darn pert sy'n cynnwys ffyrdd tawel a golygfeydd godidog.

Crwbin – Dringfa galetaf y daith. Ychydig dros 2km gyda graddiant o 10% ar gyfartaledd, a 15% ar ei mwyaf serth. Bydd y rhiw hon yn gwneud i'ch coesau losgi

Dechrau: Parc Gwledig Pen-bre
Cyfanswm y Pellter: 62km/38 milltir
Uchder a ddringir: 1000 metr/3280 troedfedd
Lefel Anhawster: 5/10
Amcangyfrif o'r Amser: 2.5 i 5 awr

Map o'r llwybr

Dechrau o Barc Gwledig Pen-bre, neu ychydig y tu fas iddo, lle mae digon o le parcio. Ewch ar Heol y Ffatri yn ôl i'r A484, trowch i'r chwith a dilynwch hon i Gydweli. Cymerwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan, ewch drwy Gydweli a throwch i'r chwith gan ddilyn arwydd Glanyfferi. 

Ar un adeg roedd yr ardal lle saif Parc Gwledig Pen-bre yn ffatri arfau a fu'n gweithio drwy gydol y ddau Ryfel Byd, ac mae gweddillion rhai o'r adeiladau yn dal i'w gweld mewn sawl man yn y parc. Ac yntau nawr yn barc gwledig, mae'n lle da ar gyfer y teulu cyfan rhwng bod yno draeth baner las Cefn Sidan, llethr sgïo sych ac erwau o goedwigoedd a llwybrau ar gyfer cerdded a beicio mynydd. Mae ein llwybr yn dechrau ar gwr y parc gwledig ac yn anelu yn ôl i bentref Pen-bre gan ymuno â'r heol wastad sy'n mynd tua'r gogledd-orllewin i dref Cydweli.

Mae'r heol wastad yn rhoi cyfle i gynhesu'r coesau a hyd yn oed os oes awel yn eich erbyn fe fyddwch yng Nghydweli mewn dim o dro. Mae'r dref yn gyforiog o hanes a sefydlwyd y castell a'r eglwys – sydd ill dau mewn cyflwr da – gan y Normaniaid yn 1106. Mae'n werth mynd oddi ar y llwybr ychydig i weld y castell hynod drawiadol cyn ichi ymlwybro am Lanyfferi ar hyd ffordd bert yr arfordir.

 

Wrth i'r ffordd ddechrau dringo, trowch i'r chwith i gyfeiriad Parc Gwyliau Bae Caerfyrddin. Dilynwch y ffordd am 7km. Ar y gyffordd T trowch i'r chwith a thrwy Lanyfferi ac ewch yn eich blaen am 4km, wedyn trowch i'r chwith wrth y groesffordd a dilynwch hon nes y dowch i'r gyffordd T a'r A484. 

Mae'r ffordd yn gul mewn mannau ond mae'r traffig yn ysgafn ar hyd yr heol hon sy'n dilyn yr arfordir a'r rheilffordd. Rhaid taw hon yw un o'r teithiau trên mwyaf braf ym Mhrydain ac mae'n cynnig golygfeydd godidog ar draws yr aber i Dwyni Pen-bre ac yn nes ymlaen ar draws Bae Caerfyrddin i Bentywyn a Llansteffan, lle mae olion castell arall yn edrych mas dros y dyfroedd. Mae Glanyfferi yn gorwedd ar lan aber Afon Tywi ac ar un adeg roedd yn fan croesi i'r fferi ar draws yr aber; mae bwriad i ailddechrau'r fferi a'r gobaith yw y bydd beiciau'n cael croesi arni.

 

Ewch tua Chaerfyrddin am 4km a throwch yn siarp i'r dde, lle mae'r arwydd yn pwyntio am Bont-iets. Ar ôl tua 200m trowch i'r chwith i gyfeiriad Pontyberem. Dilynwch y B4306 am 10km i Bontyberem. Wrth y gyffordd, trowch i'r chwith a bron yn syth wedyn i'r dde i'r B4306, arwydd Llannon. 

 

Wrth i'r llwybr adael y pentref mae'n anelu i mewn i'r tir ac yn dringo'n raddol drwy'r coed. Mae'n mynd yn ôl i'r ffordd sy'n anelu am Gaerfyrddin ac er ei bod yn brysurach, gan mwyaf mae i lawr rhiw ac mae'n ddarn cyflym sydd ddim yn teimlo'n or-brysur. Ar ôl troad siarp i'r dde mae'r llwybr yn arwain i Bontyberem; mae'n ymlwybro'n raddol i ddechrau ac yn cynnig golygfeydd gwych wrth ichi ddringo'n uwch. Mae'r llwybr graddol yn dangos ei ddannedd wrth ichi ddynesu at bentref bychan Crwbin lle mae'r heol yn goleddu'n serth – mae'r ddringfa'n teimlo fel un o riwiau'r Alpau wrth i'r graddiant godi i 10% cyn cwpwl o gorneli cas drwy'r pentref. Mae'n teimlo fel petai'r rhiw yn mynd i ddod i ben ond dim o'r fath beth oherwydd mae'n cadw i ddringo i dir comin agored lle mae'r gwartheg yn crwydro'n rhydd o gwmpas y ceir.  

Ewch yn eich blaen i lan y rhiw am 3.5km ac yna trowch yn siarp i'r dde i ffordd fach Heol Bethel. Ewch yn eich blaen dros y mynydd gan gymryd gofal wrth y gyffordd sy'n croesi'n syth ar draws i Heol Horeb, ac ewch yn eich blaen i Bump-hewl. 

Mae'r rhiw'n un galed ac mae'r goriwaered sy'n dilyn yr holl ddringo yn dod i ben wap wrth i chi fynd mewn i Bontyberem a dringo bron yn syth wedyn. Mae'r llwybr yn gadael y pentref ac yn dringo'r rhiw, ond mae hon yn llethr haws diolch byth.

Gan droi i'r dde ar ffordd fach, mae'n parhau i ddringo ac yn pasio Mynydd Sylen lle cynhaliodd Merched Beca un o'u cyfarfodydd mwyaf ar anterth y terfysgoedd yn ne a chanolbarth Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Mae'r ffyrdd bach hefyd yn mynd heibio i fannau eraill a gysylltir â'r terfysgoedd, gan basio Pump-hewl ac i fyny un o ddringfeydd mwyaf serth y diwrnod a fydd yn gwneud ichi ymbalfalu am ragor o gêrs i'w gwneud hi i'r top. Wedyn mae'r llwybr yn mynd heibio Pen y Mynydd, ac fel mae'r enw'n awgrymu fe fydd hi i gyd lawr rhiw o hyn ymlaen!

Ym Mhump-hewl trowch i'r chwith a bron yn syth cymerwch yr ail heol ar y dde tuag at Ben-bre. Ewch yn eich blaen i fforch yn yr heol ar ôl 3km gan gymryd yr heol ar y chwith ac yna troi i'r chwith ar y gyffordd T yn fuan wedyn. Dilynwch hon i lawr rhiw tua Llanelli. Wrth y goleuadau traffig, trowch i'r dde i lawr Coedlan Denham ac i'r dde i'r A484 ac yn fuan wedyn cymerwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan ac ymuno â Llwybr Arfordirol y Mileniwm. Dilynwch hon i'r gorllewin am 5km wedyn ewch yn eich blaen ar y B4311 a dilynwch yr arwyddion am Ben-bre. Ar y gyffordd T wrth yr A484, trowch i'r chwith ac ar ôl cwpwl o gannoedd o fetrau trowch i'r chwith am Barc Gwledig Pen-bre. 

Mae'r llwybr yn disgyn tua Llanelli gan wyro bant cyn cyrraedd y dref ac ychydig wedyn rydym yn ymuno â Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sef llwybr bendigedig, di-draffig sy'n cysylltu glan môr Llanelli â Phorth Tywyn. Mae'r llwybr yn llydan ac yn llyfn ac mae'n boblogaidd gyda theuluoedd, cerddwyr a beicwyr a gorau i gyd os ewch chi gan bwyll, gan roi cyfle ichi fwynhau'r golygfeydd anhygoel dros aber Afon Llwchwr i Benrhyn Gŵyr; pan fydd y llanw mas mae'n edrych fel y gallech chi gerdded ar ei draws gan fod amrediad y llanw mor fawr.

Mae ein llwybr yn ymadael â Llwybr Arfordirol y Mileniwm cyn harbwr Porth Tywyn, ond mae'n hawdd gwyro oddi arno i fynd i weld yr harbwr. Mae modd cadw ar y llwybr hwn yr holl ffordd i Barc Gwledig Pen-bre - lle daw ein taith i ben - ond mae'n cynnwys darn o lwybr llyfn sydd heb ei darmacio. Yn lle hynny, mae ein taith ni yn cadw at yr heol ac yn dilyn ffordd gyflymach i bentref Pen-bre ac wedyn i'r chwith, i Barc Gwledig Pen-bre. Er nad yw'r daith hon yn hir iawn, mae'n cynnig cymysgedd o olygfeydd, heolydd gwych a digon o ddringo i wneud iddo deimlo fel diwrnod caled yn y cyfrwy.

 

Mannau aros

Parc Gwledig Pen-bre – Caffi'r Llethr Sgïo
Pen-bre – Siop Goffi Daisy
Cydweli – Bar Coffi'r Gatehouse
Caffi Doc y Gogledd (angen gwyro ychydig) – caffi, siop a chanolfan wybodaeth

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs – Siop Feiciau, Caerfyrddin
County Cycles – Siop Feiciau, Cross Hands
Tredz – Siop Feiciau, Cross Hands (yn Leekes)
Halfords – Siop Feiciau, Parc Adwerthu Trostre