
Hannah Nolloth Designs
Nwyddau Papur wedi'u hysbrydoli gan anifeiliaid, natur, a'r harddwch ym mhob dydd.

Truly Madly Deeply
Pob math o anrhegion gan gynnwys matiau diodydd resin a jesmonite, blychau tlysau, eirth addurniadol a dillad ac esgidiau babanod wedi'u gwnïo.

Tynewydd Alpacas
Fferm alpaca sy'n gwneud cynhyrchion hyfryd o gnu ein halpacaod, gan gynnwys hetiau, sgarffiau, menig, carthenni gwely. Mae'r holl gynhyrchion wedi'u creu o gnu alpaca 100%, gan ddefnyddio lliwiau naturiol, ac wedi'u creu yng Nghymru. Mae gennym hefyd le gwyliau i'w osod ar y fferm.

Joon Silver
Gemwaith arian wedi'u gwneud â llaw, dyluniadau unigryw am brisiau fforddiadwy

Copperworks
Gemwaith unigryw ac addurniadau i'r cartref wedi'u gwneud o gopr a llechi wedi'u hailgylchu.Mae cyrsiau ar gael hefyd.

Tea Traders
Busnes annibynnol arobryn sy'n cadw dros 100 o wahanol fathau o de dail rhydd a choffi, gan gynnwys ein cyfuniadau ein hunain o de poblogaidd iawn fel Te Brecwast Cymreig. Rydym yn stocio detholiad eang o nwyddau te a choffi, ategolion, anrhegion anarferol, a hamperi.
Ble i ddod o hyd i ni
15 Guildhall Square, Carmarthen, SA31 1PR

Been Sacks
Yn Been Sacks rydym yn gwneud bagiau â llaw gan ddefnyddio sachau ffa coffi wedi'u hailgylchu ynghyd â deunyddiau eraill. Mae pob bag yn unigryw a chaiff £1 o bob gwerthiant ei roi i Coed Cadw.

Gemwaith Defana
Gemwaith arian unigryw a gwreiddiol wedi'i wneud â llaw.
