Mae ymwelwyr yn heidio i bentref Pentywyn oherwydd ei draeth gogoneddus 7 milltir o hyd. Ond mae dwy ochr i'r traeth. I Drwyn Gilman yn y gorllewin mae pyllau glan môr, ac yn gefndir iddynt y mae clogwyni dramatig, ynghyd â llwybrau troed â golygfeydd godidog sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n 870 milltir o hyd.
I Draeth Talacharn yn y dwyrain mae tywod gwastad, euraidd lle mae sawl ymdrech wedi bod i dorri record cyflymder y byd ar dir ac mae anturiaethwyr yn dal i chwilio am anturiaethau yno sy'n cyflymu curiad y galon.
Mae'r pentref wedi trawsnewid cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch i raglen ddatblygu gwerth £7 miliwn. Mae hyn yn cynnwys promenâd 500 metr di-draffig a chanolfan fasnachol glan y môr sy'n cynnwys siop llogi byrddau syrffio a chaiacau, siop de, parlwr hufen iâ a bwyty Asiaidd Fusion. Hefyd mae disgwyl i'r Amgueddfa Cyflymder ailagor yn 2022 mewn cartref newydd sbon.
Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod rhagor am y pentref bach hwn sydd â thraeth mawr.
Dwlu ar gyflymder
Yn y 1920au, wrth i yrwyr gyrraedd cyflymder o 150mya, daeth yn amlwg nad oedd ffyrdd a thraciau rasio bellach yn lleoliadau addas ar gyfer ymdrechion i ennill record cyflymder y byd ar dir. Roedd angen arwyneb llyfn, syth oedd o leiaf 5 milltir o hyd i gael unrhyw siawns o gyflymu i gyflymder uchaf a fyddai'n torri record cyn cyrraedd milltir ac yna digon o bellter brecio wedi hynny, a oedd cyn bwysiced. Roedd Traeth Pentywyn yn cynnig yr ateb perffaith.
Y person cyntaf i ennill y record yma oedd Malcolm Campbell yn Blue Bird yn 1924 ac eto yn Blue Bird II yn 1927. Gwnaeth J G Parry-Thomas, y Cymro, ymgais i adennill y record oddi wrth Campbell wythnosau'n unig yn ddiweddarach, a arweiniodd at ei farwolaeth annhymig.
Yn fwy diweddar gosododd Don Wales, ŵyr Cambell, y record cwrs cyflymder tir trydan yma yn 2000. Ym mis Mai 2019, gosododd Zef Eisenberg record cwrs newydd o 210mya yn ei Porsche 911.
Er mai prin yw'r ardaloedd ar y traeth y gallwch yrru arnynt erbyn hyn, mae Traeth Pentywyn yn dal i fod yn lle arbennig i lawer o bobl sy'n dwlu ar injan.
Amgueddfa Cyflymder
Mae gwaith yn cael ei wneud i gwblhau'r adeilad newydd yn lle'r Amgueddfa Cyflymder gwreiddiol, a gaeodd yn 2018. Pan fydd yr amgueddfa newydd yn agor yn ddiweddarach yn 2022, bydd yn cyflwyno straeon dramatig am rasio, treialon a recordiau cyflymder ar dir dros 100 mlynedd, a hynny trwy amrywiaeth o arddangosfeydd rhyngweithiol. Mae'r adeilad newydd wedi'i ddylunio fel bod prif atyniad yr amgueddfa, sef Babs, car Parry-
Thomas a dorrodd record cyflymder y byd dros dir, wedi'i leoli ochr yn ochr yn berffaith â llinell rasio'r traeth.
Barod am antur
Os nad yw arogl cryf petrol neu wich hen glustogwaith lledr o Loegr yn rhoi gwefr ichi, mae digon o anturiaethau eraill i'w cael yma. Mae Morfa Bay Adventure yn cynnig ystod eang o weithgareddau awyr agored, ar y safle yn ei ganolfan ym Mhentywyn ac oddi ar y safle mewn lleoliadau o amgylch Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae'r gweithgareddau ar y safle yn cynnwys abseilio/dringo, saethyddiaeth, taflu bwyelli, byw yn y gwyllt, rhaffau uchel/gwifren wibio, beicio mynydd, cwrs rhwystrau mwd, reslo Sumo, a stacio cretiau/naid ffydd. Mae'r gweithgareddau oddi ar y safle y gellir eu trefnu yn cynnwys syrffio a phadlfyrddio ar eich traed, ogofa, arfordira, crwydro ceunentydd a chaiacio môr.
Ond o'r holl weithgareddau y maent yn eu cynnig, mae'n debyg mai tir-hwylio yw'r mwyaf cyffrous, gan roi'r cyffro ichi o deithio ar gyflymder o dros 30mya ychydig fodfeddi'n unig uwchben y tywod. Dechreuwch y bore gyda sesiwn friffio ynghylch diogelwch a gwers gyflym am dechneg a throi, cyn mynd ar gwrs ffigur 8 sylfaenol ac yna symud ymlaen i gwrs uwch i ddysgu troeon anoddach a chyflymach. Erbyn amser cinio, gallech fod yn rhoi cynnig ar eich record cyflymder dros dir eich hun yma.
Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Arfordir Cymru yw'r llwybr cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir gwlad yn ei gyfanrwydd – dyma 870 milltir o olygfeydd trawiadol, ardaloedd diwylliannol poblogaidd, cyfarfyddiadau â natur a miloedd o flynyddoedd o hanes. Mae'r rhan sydd yn Sir Gaerfyrddin oddeutu 67 milltir o hyd yn gyfan gwbl. Mae'r rhan hon o'r llwybr yn mynd yn bennaf ar hyd copa'r clogwyni am 4 milltir o Bentywyn, gan gynnig golygfeydd godidog i gyfeiriad y dwyrain tuag at Benrhyn Gŵyr ac i gyfeiriad y gorllewin i Ddinbych-y-pysgod ac i Ynys Bŷr, cyn cyrraedd cildraeth Amroth a'r ffin â Sir Benfro.
Ar gefn dy geffyl
Os oes yn well gennych farchnerth â choesau yn hytrach nag olwynion, ewch i Ganolfan Farchogaeth Marros lle gallwch fynd allan am daith yn eu coetir hynafol. Darperir ar gyfer marchogion newydd a nerfus ac mae staff wrth law i addysgu sgiliau marchogaeth sylfaenol ac i arwain y ceffylau ar droed, os oes angen. Ar gyfer marchogion hŷn, mwy profiadol mae cyfle i fynd â cheffyl ar y tywod a chael y profiad a'r cyffro o farchogaeth ar hyd ewyn y don. Byddwch yn mynd allan o’r ganolfan mewn grŵp bach, ar hyd cilffyrdd a thraciau fferm, lle byddwch yn mynd ar drot ac ar garlam bach i ddod i arfer â symudiadau eich ceffyl. Unwaith y byddwch ar y traeth, byddwch yn cyflymu'n raddol ac, mewn dim o dro, byddwch yn carlamu ar y tywod ac yn ewyn y don.
Argymhellion
Man Instagram: Ar y traeth, i dynnu llun unrhyw un yn tir-hwylio, yn syrffio barcud neu'n carlamu ar geffyl ar hyd ewyn y don. Bydd nifer y bobl sy'n hoffi'r llun yn dyblu os mai chi yw'r un sy'n gwneud y pethau hyn!
Y ffaith ryfeddol: Yn 1944, ail-grëwyd rhan o Wal yr Iwerydd yn Nhrwyn Ragwen er mwyn datblygu dulliau o dorri'r wal go iawn yn ystod glaniadau 'D-Day'.
Y peth mae'n rhaid ei wneud: Ewch i weld Babs, y car a ddefnyddiodd Parry-Thomas pan enillodd record cyflymder y byd dros dir, yn yr Amgueddfa Cyflymder newydd.
Y trysor cudd: Ewch ar daith ogofa i Ogof y Bont Werdd, y credir iddi gael ei defnyddio gan ysbeilwyr lleol i guddio'u nwyddau gwaharddedig.
Man i gael tamaid blasus: Cambrian Ice Cream Parlour yn y ganolfan fasnachol, sy'n cynnwys bron gormod o ddewis o flasau.