English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Cyrraedd Sir Gaerfyrddin

Hawdd Cyrraedd, anodd gadael.....

Cyrraedd a Theithio Sir Gaerfyrddin

 

Ffyrdd

Mae cysylltiadau ffyrdd ardderchog yn Sir Gaerfyrddin. Gallwch yrru ar hyd yr M4 o Lundain i Bont Abraham mewn llai na 4 awr a thaith fer yn unig sydd wedyn ar hyd yr A48 i Gaerfyrddin. Mae'r A40 yn croesi'r sir o Lanymddyfri i Hendy-gwyn. Mae'n hawdd cyrraedd yr M5, M6, M42 a'r M50 o Sir Gaerfyrddin. Mae'n daith hwylus o bob rhan o Brydain.

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i'r cyhoedd yn cael eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin

Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio canolog i ganiatáu i ddefnyddwyr ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir. 

Mae mwy o bwyntiau gwefru yn Sir Gaerfyrddin i'w gweld ar-lein i'ch helpu i gynllunio a dod o hyd i'ch pwynt gwefru agosaf. Chwiliwch Sir Gaerfyrddin ar y map defnyddiol hwn o bwyntiau gwefru. 

 

Teithio ar Goets a Bws

Mae'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl ac ymlaen i Sir Gaerfyrddin yn ardderchog. Mae National Express yn cynnig cysylltiadau gwych i'r holl brif drefi a dinasoedd ac wedi cyrraedd y sir, mae rhwydwaith bysiau helaeth yn gwasanaethu'r ardal gyfan. 

Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru

Amserlenni Gwasanaethau Bysiau Lleol

Traveline.cymru

Nationalexpress.com

Firstcymru.co.uk

 

Teithio ar drên

Mae gwasanaethau cyflym ac aml yn cysylltu â  Gorsaf Paddington, Llundain (3 awr) a gwasanaethau rheolaidd i Fanceinion. Mae teithio yma ar drên yn rhwydd.

Greatwesternrailway

Transport for Wales

 

Mae Rheilffordd Calon Cymru

Yn ymestyn am 120 o filltiroedd o Abertawe i Amwythig heibio i rai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru. Mae'r lein yn mynd trwy ddwyrain y sir trwy Rydaman, Llandybïe, Llandeilo, Llangadog, Llanwrda, Llanymddyfri, Cynghordy ac ymlaen i Bowys.

Heart-of-wales.co.uk

Transport for Wales 

 

Mewn cwch

Hwylio o Ddoc Penfro ac Abergwaun i Rosslare. I gael manylion am brisiau ac amserau hwylio cysylltwch â'r canlynol:

Irish Ferries Pembroke - irishferries.com

Stena Sealink - stenaline.co.uk

 

Hedfan

Ychydig dros awr yn unig yw'r daith o Sir Gaerfyrddin i faes awyr rhyngwladol Caerdydd. 

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd - cardiff-airport.com