Llefydd i aros
Ymlaciwch yn y llefydd ramantus yma
Tan Y Lan

BWTHYN RHAMANTUS A CHARTREFOL I DDAU YN UNIG
Beth am fwynhau'r tywydd 'cwtsho' hwn a dianc i'r bwthyn hyfryd a rhamantus hwn sydd mewn ardal dawel a heddychlon gyda golygfeydd gwych dros Afon Tywi a'r aber tuag at Gastell Llansteffan.
Ewch am dro rhamantus ar hyd y traeth tywodlyd gerllaw neu cerddwch o'n bwthyn ar hyd Llwybr yr Arfordir, neu gallwch ymlacio a gwrando ar y tawelwch o'ch amgylch. Beth bynnag yr ydych eisiau ei wneud, rydych ar eich gwyliau.
Bydd gwely dwbl cyffyrddus a chynnes yn barod ar eich cyfer, mae'r pris yn cynnwys yr holl lieiniau a thywelion a'r gwresogi.
Mae'r prisiau yn dechrau o £120.00 y cwpwl am 3 noson
Old Oak Barn

DIANC I GEFN GWLAD
Camwch y tu allan i ddrws ffrynt yr Old Oak Barn a byddwch yn cael eich cyfarch gan dawelwch y dyffryn coediog prydferth, sydd yn llawn bywyd gwyllt ac sydd â thros 35 erw o lwybrau drwy'r goedwig i'w crwydro.
Prisiau o £250 am 4 noson ym mis Chwefror
Basel Cottage
SIOCLED A GWIN AM DDIM
Gall cyplau sy'n aros yn Basel Cottage dros wythnosau Santes Dwynwen a Sant Ffolant fwynhau siocled a gwin am ddim. Gallwch hefyd fwynhau Te Hufen cartref yn ystod eich arhosiad.
Mae'r prisiau'n dechrau o £361 am 3 noson
Red Kite Cottage a Bwthyn y Golchdy

CWTSIWCH I MEWN YN RED KITE COTTAGE A'R GOLCHDY
Dathlwch eich arhosiad gyda Prosecco a siocledi a gynigir i westeion sy'n aros dros noson / penwythnosau Santes Dwynwen a Sant Ffolant. Ymlaciwch o flaen y tanllwyth o dân yn y Golchdy.
Y Golchdy - Prisiau'n dechrau o £128 am 3 noson
Red Kite Cottage - Prisiau'n dechrau o £250 am 3 noson