English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Canllaw gorau Sir Gâr ar wyliau i'r merched 

Miri'r Merched yw canllaw gorau Sir Gâr i ferched sydd am ddod at ei gilydd i fwynhau anturiaethau gwyllt, eiliadau tawel neu brofiadau creadigol.

Casglwch eich grŵp o ferched at ei gilydd i ddianc i galon Gorllewin Cymru. Mae Sir Gâr yn cynnig golygfeydd trawiadol, trefi hardd a phrofiadau bythgofiadwy sy'n golygu ei fod yn lle perffaith ar gyfer penwythnos llawn hwyl, ymlacio a chysylltiad gwirioneddol.  

P'un a ydych chi'n dyheu am deithiau cerdded ar hyd yr arfordir, caffis clyd, gweithdai crefftau, neu amser arbennig mewn sba, bydd ein canllaw 'Miri'r Merched' yn rhoi'r holl atebion i chi gael diwrnodau llawn chwerthin a chreu atgofion a fydd yn para.

Gwyliau i'r Merched - rydyn ni wedi paratoi tair amserlen bosib i chi y gallwch chi eu dewis a'u cymysgu ar gyfer eich gwyliau eich hun ynghyd â syniadau am wahanol fathau o lety i'ch grŵp chi.  

Rydyn ni hefyd yn cyflwyno’r 'Criw Iachusol', sef casgliad o dywyswyr arbenigol a phobl greadigol sy'n amrywio o fforwyr i wehyddwyr, sy'n siŵr o gynnig rhywbeth ychwanegol i'ch gwyliau yn Sir Gâr. 

Rydyn ni hyd yn oed yn cynnig ein 'Gwyliau Parod i'r Merched', sef canolfannau encil a mannau tawel sy'n gwneud y gwaith cynllunio drosoch chi.

 

Gwyliau i'r Merched wedi'u creu gennyn ni – i'ch ysbrydoli chi

Steil, ysbryd a chyfeillgarwrch - crwydro Gorllewin Sir Gâr

Mae'n bryd camu i ffwrdd o'r gwaith, y drefn ddyddiol a chyfrifoldebau a chymryd ychydig ddyddiau i dawelu a chysylltu â'r bobl sydd agosaf atoch chi.

🍷 Cinio mewn gwinllan yn Jabajack neu Hebron 
🧖‍ Boreau sba yn Dylan Coastal Resort 
🌅 Mynd am dro o amgylch Castell Talacharn wrth i'r haul fachlud 
🥂 Gwyliau clyd yn Mansion House neu Dŷ Penbryn
📸 Llefydd perffaith i dynnu llun yn y castell ac ar y traeth yn Llansteffan 

Byddwch chi'n crwydro tref farddonol, yn chwilota am fwyd ar hyd yr arfordir ac yn mwynhau bwyd Cymreig tymhorol. 

📍 Llety: Talacharn, Llansteffan neu Gaerfyrddin
💫 Ar y diwedd byddwch chi'n teimlo: Wedi dadflino ac wedi adfywio'n greadigol 

 

Anadlu, cysylltu a pherthyn - crwydro canol Sir Gâr

Taith sy'n cynnig diwylliant, cefn gwlad hyfryd ac amser gyda ffrindiau gydol oes.

🌳 Teithiau cerdded yn y bore drwy Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
🏰 Ymweld â chastell a phlasty yn Llandeilo 
🧁 Danteithion melys mewn caffis chwaethus fel Pitchfork & Provision 
💎 Gweithdy gemwaith ymarferol gydag Elen Bowen
🍽️ Prydau hyfryd yn Y Polyn a'r Cawdor 

P'un a ydych chi'n mwynhau sgons yng Nghaffi Gardd Aberglasne neu'n syllu ar y sêr ar daith gerdded yng ngolau lleuad, bydd gennych chi amser i ymlacio a sgwrsio.

📍Llety: Llandeilo, Llanymddyfri neu Gastellnewydd Emlyn 
💫 Ar y diwedd byddwch chi'n teimlo: Yn sefydlog, yn llawen ac yn wridog

 

Chwerthin a chysylltiad gydol oes - arfordir Sir Gâr

Anturiaethau ar lan y môr ynghyd ag ymlacio mewn sba.

🚤 Caiacio a sesiynau sawna ger Dyffryn y Swistir
📷 Mannau brecinio sy'n haeddu llun ar Instagram a llwybrau arfordirol hardd
🍰 Lleoedd i fwynhau rhywbeth melys fel Crazy Crepes a Shire Coffee 
🎉 Pryd o fwyd a diodydd wrth edrych dros Fae Sant Elli
🎡 Tobogan a hwyl ar y traeth ym Mharc Gwledig Pen-bre

Mae'r gwyliau hyn yn cynnig cymysgedd o chwerthin ac ymlacio ar lan y môr ger traeth hiraf Cymru. 

📍 Llety: Glanyfferi, Cydweli neu Ben-bre
💫 Ar y diwedd byddwch chi'n teimlo: Yn gysylltiedig, yn ddibryder, ac yn fodlon

Y Criw Iachusol 

Mae gan y rhanbarth ddewis eang o arweinwyr arbenigol, gwneuthurwyr, pobl greadigol ac ymarferwyr holistaidd a fydd yn ychwanegu at wyliau grŵp. Mae profiadau dan arweiniad ein 'Criw Iachusol' yn gallu cael eu harchebu fel rhan o'ch gwyliau i'r merched.

Mae Lisa Denison - tywysydd cerdded a chrefftwr ymwybyddiaeth ofalgar yn gwahodd grwpiau i wehyddu eu matiau eistedd eu hunain cyn eu harwain ar deithiau tywysedig ysbrydoledig.
Craig Evans – fforiwr a storïwr Mae Craig, gyda Llew, ei adargi melyn ffyddlon, yn rhannu ei wybodaeth anhygoel am hanes yr arfordir yn ogystal â chwilota am fwyd môr.
Pavlina Holicova - therapydd tylino holistaidd sy'n arbenigo mewn ayurveda. Bydd hi'n dod i unrhyw lety gwyliau i gynnig sesiwn arbennig a fydd yn eich helpu i ymlacio.
Elen Bowen - gwneuthurwr gemwaith sy'n cyfuno technegau traddodiadol â chelfyddyd fodern i greu darnau unigryw, llawn ystyr. Ffordd hwyliog a boddhaol o dreulio amser gyda ffrindiau, gan greu atgofion parhaol ochr yn ochr ag ategolion hardd.
Yoka Kilkelly – crochenydd medrus Mae Yoka yn trosglwyddo'r sgil hynafol o lunio llestri i grwpiau gan greu profiad llawn hwyl yn ogystal â rhywbeth i gofio'r amser gyda'ch gilydd.
Hazel Smith - hyfforddwr marchogaeth ac arbenigwr mewn cyfathrebu â cheffylau. Mae Hazel a'i thîm yn rhedeg stabl ceffylau ar yr arfordir, sef Canolfan Farchogaeth Marros, ger Pentywyn lle maen nhw'n mynd â grwpiau ar deithiau a reidiau bythgofiadwy ar y traeth.
Charlie Kingswood – mae'r beiciwr mynydd arbenigol a pherchennog Hafod Trails, y llwybr MTB diweddaraf yn y sir, yn cynnig profiad o lwybrau gwefreiddiol i lawr rhiw i feicwyr o bob lefel. 
Mae Will Mason-Jones – crochenydd, yn cynnig dosbarthiadau llawn hwyl i bobl â phob lefel o brofiad sy'n awyddus i ddysgu sut i siapio clai ar olwyn nyddu.
Mae Paul a Nick– arbenigwyr te a pherchnogion Tea Traders, yn cynnig sesiynau blasu te llawn hwyl i archwilio eu hamrywiaeth o dros 100 o de dail arbennig a dysgu mwy am stori ddiddorol te.
Lisa Fearn - cogydd teledu ac awdur bwyd, mae gan Lisa ysgol goginio yng nghanol Dyffryn Tywi ac mae'n cynnig profiadau coginio sy'n canolbwyntio ar brydau gwirioneddol Gymreig. 
Rosa Harradine - crefftwr a gwneuthurwr ysgubau a brwshys hunanddysgedig. Mae Rosa yn dysgu'r grefft o ddefnyddio ffibrau naturiol a chyll wedi'u cynaeafu â llaw i greu eitemau hardd.
Mae Helen Elliot - arlunydd, sy'n adnabyddus am ei phaentiadau lliwgar o orllewin Cymru, yn cynnig dosbarthiadau paentio preifat i grwpiau i ysbrydoli celf tirwedd llawn hwyl.
Mae Jane Evans - ffeltiwr ac artist tecstilau angerddol, yn cynnal dosbarthiadau hwyliog gan ddefnyddio techneg ffeltio gwlyb i greu siolau, blancedi, crogluniau a llestri.
Emma Robinson - arlunydd, unig hyfforddwr paentio Bob Ross ardystiedig yng Nghymru. Ymunwch â hi yn Little Tree Studio am brofiad paentio unigryw sy'n llawn lliw a llawenydd.
Mari Acciaioli - hyfforddwr holistaidd, ymunwch â Mari yn ei stiwdio yng Nghaerfyrddin i ymdrochi mewn bowlenni sain grisial. Mwynhewch adnewyddiad hyfryd wrth i chi ymdrochi yn sŵn bowlenni sain grisial. Profwch ymlacio ac iachâd dwfn, y gweithgaredd perffaith i grŵp.

Gwyliau Parod i'r Merched - canolfannau encil a mannau tawel 

Gwyliau Parod i'r Merched yw’r lleoedd rydyn ni wedi’u dewis sy'n gwneud y gwaith cynllunio drosoch chi. Gallan nhw fod yn ganolfannau encil arbenigol lle gallwch chi ymuno â phrofiad llesiant grŵp neu fannau tawel a fydd yn dylunio ac yn cyflwyno amserlen unigryw i'ch grŵp sy'n cynnwys cinio preifat gyda chogydd, profiadau creadigol a llesiant.

Encil Maes y Bryn - Yng nghanol 10 erw o fryniau, dolydd a choetir ar gyrion Coedwig Brechfa mae tîm mam a merch yn cyflwyno encilion sy'n canolbwyntio ar deithiau cerdded myfyrdod natur, iachâd egni, myfyrdod dyddiol dan arweiniad ac arferion ymwybyddiaeth ofalgar.

Fferm Bronhaul - Ar fferm deuluol fach ger Caerfyrddin mae'r lle hwn yn cynnig encilion sy'n canolbwyntio ar y manteision iachau sy'n gysylltiedig â threulio amser yn adfywio'r tir – gweithgarwch corfforol, awyr iach a'r ymdeimlad o weithredu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Golden Grove Retreat - Man llesiant sy'n seiliedig ar natur yng nghanol 10 erw o dir wedi'i ddad-ddofi ychydig i'r de o Landeilo sy'n cynnig prif dŷ a phebyll saffari ar gyfer llety. Ymunwch ag encilion sy'n adfer yr enaid a gallwch chi fwynhau cyfleusterau gan gynnwys sawna, pwll plymio a mannau seremonïol, neu trefnwch eich encil neu'ch gweithdy eich hun. 

Mandala Yoga Ashram - Mae'r encilion ashram yn amrywio rhwng 2 a 10 diwrnod ac yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud â phrif ganghennau ioga, yn ogystal ag advaita a tantra. Mae'r pwyslais ar feithrin mewnwelediad uniongyrchol yn eu hamgylchedd Ashram cefnogol.  

Old School House - Llety hardd â lle i hyd at 8 o westeion lle bydd y perchennog Danielle yn creu gwyliau grŵp arbenigol. Dewiswch o blith amrywiaeth o brofiadau unigryw, gan gynnwys dosbarth pobi pice ar y maen, Cymraeg, celf, tapas, gwneud gwydr, Pilates, ioga a hyd yn oed gweithdy gwneud modrwyau arian. 

Stables Wellbeing - Mae'r ganolfan encil deuluol hon, sydd ychydig y tu allan i dref farchnad Llandeilo, yn cynnig encilion grŵp y gallwch chi ymuno â nhw neu'r cyfle i greu profiadau pwrpasol ar gyfer grwpiau preifat gan gynnwys Pilates, cerdded, ioga a gweithdai llesiant arbenigol. 

Canolfan Ceridwen - Fferm deuluol organig, eco-ymwybodol yng ngogledd y sir ger Castellnewydd Emlyn, sy'n cynnig llety amgen, gweithdai creadigol, digwyddiadau a phrydau blasus gan ddefnyddio cynnyrch cartref. 

Pant y Castell - Dyma le ysbrydoledig i archwilio prosiectau creadigol, neu i roi hwb i freuddwyd greadigol. Mae Pant y Castell ger Cross Hands yn cynnig encilion creadigol i grwpiau. Felly, p'un a ydych chi am ddysgu sut i greu crochenwaith, crefftau gwydr a cherameg neu beintio, gall Lois drefnu sesiynau gyda chrefftwyr lleol.

Golden Grove Retreat
Stables Wellbeing

Steil, ysbryd a chyfeillgarwch 

Diwrnod 1:

Llety: Arhoswch mewn ystafell â golygfa yn Caban, Pentywyn (lle i 40) neu dewiswch y plasty Sioraidd cain sy'n edrych dros Fae Caerfyrddin, sef Mansion House, Llansteffan neu un o nifer o opsiynau hunanarlwyo chwaethus. 

Welsh Escapes websitesOld School House, Caerfyrddin (lle i 8)

Cors Country House, Talacharn (lle i 10)

Tŷ Penbryn, Llangynnwr, Caerfyrddin (lle i 24)

Caban, Pentywyn (lle i 40)

Parcglas Pods, St. Clears (2 bod, lle i 3ym mhob un )

Os ydych chi'n chwilio am driniaethau sba, dewiswch Dylan Coastal Resort yn Nhalacharn.

Bore: Mwynhewch gerdded ar lan yr afon yn Sanclêr a chrwydro o amgylch y dref.

Cinio a phrynhawn: Mwynhewch ginio hamddenol a phrofiad blasu gwin naill ai yn Jabajak neu Winllan Hebron, dau windy enwog yn Sir Gâr. Mwynhewch brydau lleol blasus gyda gwinoedd Cymreig wedi'u gwneud â llaw.

View this post on Instagram

A post shared by Jemma Vickers (@hebronvineyard)

Gyda’r hwyr:  Archebwch i gael swper yn Picton House, sy'n cynnig lletygarwch cynnes a phrydau blasus gyda bwyd lleol

Diwrnod 2:

Bore: Ewch i dref farddonol Talacharn, sy'n adnabyddus am ei golygfeydd trawiadol dros yr aber a Dylan Thomas ei hun. Ewch am daith gerdded ysgafn i edrych o gwmpas cyn ymlacio yn y sba drwy'r bore yn Dylan Coastal Resort.

View this post on Instagram

A post shared by Luxury Lodges | Self-catering Holidays | Ownership (@llcollectionuk)

 

Cinio: Ewch i Tŷ Glo / Globe Wine Bar am ginio i fwynhau prydau blasus a naws hamddenol.

Prynhawn: Ymunwch â Craig Evans am brofiad chwilota arfordirol sy'n cyfuno antur â darganfod bwyd gwyllt. Ewch i archwilio’r traeth a dysgu adnabod gwymon, pysgod cregyn a phlanhigion bwytadwy.

Gyda’r hwyr: I orffen y dydd, ewch i gerdded ar hyd yr aber a thrwy dir Castell Talacharn, lleoliad perffaith i weld yr haul yn machlud.

Diwrnod 3:

Bore: Ewch am dro hamddenol i draeth a chastell Llansteffan i fwynhau awyr iach y môr. Mae'r golygfeydd panoramig ar ben clogwyn ac adfeilion rhyfeddol y castell yn lle perffaith ar gyfer lluniau sy'n haeddu lle ar Instagram.

Cinio: Yn Inn at the Sticks, sydd wedi ennill gwobrau ac yn cynnig bwydlen blasus ac awyrgylch croesawgar.

View this post on Instagram

A post shared by Inn At The Sticks (@innatthesticks_)

Y Prynhawn: Ewch i Gaerfyrddin i grwydro'n hamddenol o amgylch tref hynaf Cymru, yna sbwyliwch eich hun drwy gael te clyd yn Tea Traders gyda chymysgeddau arbenigol a danteithion melys.

Gyda’r hwyr: Mwynhewch bryd o fwyd blasus yn Dexter's Steakhouse & Grill neu'r New Curiosity. Mae'r ddau yn cynnig cynnyrch Cymreig tymhorol gyda gwahaniaeth chwaethus.

Anadlu, cysylltu a pherthyn

Diwrnod 1:

Llety: Mwynhewch wyliau chwaethus fel grŵp yng Ngwesty'r Cawdor (24 o ystafelloedd wely a 2 benty) yn Llandeilo neu Westy'r Emlyn (29 o ystafelloedd gwely) yng Nghastellnewydd Emlyn. Mae'r ddau yn cynnig hyblygrwydd o ran trefniadau cysgu. Neu, dewiswch opsiwn hunanarlwyo sy'n llawn naws wledig fel:

Talog Retreat, Talog (3 bwthyn 5* gyda thwba twym. Mae lle i 6 yn Starlight, lle i 6 yn Moonlight, a lle i 8 yn Shooting Star)  

Glansevin ,Llangadog (lle i 40 o westeion)

Penparc NT, Llandielo – (lle i 8)

Tirallen – (lle i 10)

Os hoffech chi gael rhywbeth ychydig yn wahanol, mae Nantseren, Llangadog yn wersyll hudolus o dan awyr serennog syfrdanol, gyda llynnoedd a choedwigoedd. 

Neu, dewiswch Erwlon Riverside Pods ar gyrion Llanymddyfri sy'n cynnig gwerth gwych am arian a lleoliad tawel.

View this post on Instagram

A post shared by Wild At Heart Retreats 💫 (@wildatheartretreats)

 

Bore: Ewch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i grwydro rhywfaint o'r 568 erw o barcdir a'r tŷ gwydr eiconig. Neu, archebwch sesiwn cerdded a gwehyddu gyda Lisa Denison. Dysgwch sut i wehyddu mat eistedd ar ŵydd pegiau ac yna cael taith dywysedig.

Cinio: Galwch yn Wright's Food Emporium, sy'n adnabyddus am ei naws wledig, ei fwyd Cymreig o safon a'i deli o'r radd flaenaf, ac yn lle perffaith i gasglu rhai danteithion i'w mwynhau yn ddiweddarach.

Prynhawn: Ewch i Gastell Dinefwr i weld golygfeydd syfrdanol a chrwydro Plas Dinefwr, ac yna mwynhau coffi a danteithion melys yn Pitchfork and Provision yn Llandeilo. 

View this post on Instagram

A post shared by Pitchfork and Provision (@pitchfork.and.provision)

 

Gyda’r hwyr: Archebwch i gael swper yn Cellar 62 yn The Angel.

Diwrnod 2

Bore ac Amser cinio: Dechreuwch eich diwrnod drwy grwydro o amgylch tref hyfryd Llanymddyfri, ewch i La Patisserie i brynu danteithion blasus ar gyfer picnic cyn cerdded i fyny i Lyn y Fan, llyn rhewlifol anghysbell o dan Fannau Caerfyrddin. Mwynhewch olygfeydd syfrdanol a rhannu straeon am chwedl 'Morwyn y Llyn'.

Prynhawn: Ewch i grwydro Aberglasne, un o erddi gorau Cymru sy'n cynnwys 10 erw a thros 20 o arddulliau gardd, ac yna mwynhau te a sgons ffres yn eu caffi.

Gyda’r hwyr: Swper yn Y Polyn, sy'n enwog am ei fwyd tymhorol syml a'i fwydydd Cymreig cryf.

View this post on Instagram

A post shared by Y Polyn (@polyncarmarthen)

 

Diwrnod 3:

Bore: Archebwch le mewn gweithdy gemwaith gydag Elen Bowen yng Nghastellnewydd Emlyn. Ewch ati i ddylunio a gwneud darn unigryw fel atgof arbennig o'ch penwythnos.

View this post on Instagram

A post shared by Gemwaith Elen Bowen Jewellery (@bowen_jewellery)

 

Cinio: Mwynhewch ginio blasus yn Riverside Café yng Nghastellnewydd Emlyn, lle clyd sy'n berffaith ar gyfer bwyd da a sgyrsiau gwych. Neu prynwch ginio i fynd gyda chi yn Crwst. 

Prynhawn: Ewch i grwydro Castellnewydd Emlyn cyn mynd ymlaen i Genarth, lle sy'n enwog am ei raeadr a'i lwybr cerdded ar lan yr afon, cyn cwblhau'r gwyliau gyda the hufen yn Nhŷ Te Cenarth.

Chwerthin a chysylltiad gydol oes

Diwrnod 1

Llety: Arhoswch yn yr ysguboriau hardd yn The Courtyard Wales ger Glanyfferi – sy'n cynnig tair ysgubor wahanol ar gyfer rhwng 8-48 o westeion yn ogystal â thwba twym a phwll nofio dan do.

Neu, mae gan Kidwelly Farm cottages ysgubor drawiadol arall â lle i hyd at 10 a sawna, pwll plymio a dau gwt bugail clyd, sydd â'u pyllau tân a'u twba twym eu hunain.  

Mae podiau glampio Gwlad yn cynnig pum pod ac mae gan bob un le i hyd at bedwar o bobl.

Bore: Ewch i grwydro tref hanesyddol Cydweli, ei chastell a Chamlas Cymer i fwynhau'r golygfeydd hardd.

Cinio: Galwch heibio Kidwelly Deli i brynu danteithion blasus.

Prynhawn: Ewch ar daith gerdded arfordirol.

Gyda’r hwyr: Gorffennwch y diwrnod drwy fwynhau swper yn yr Old Moathouse gyda'i brydau mawr a'i groeso cynnes.

Diwrnod 2:

Bore: Dechreuwch drwy gael sesiwn caiacio neu badlfyrddio ar Gronfeydd Cwm Lliedi. Yna, ewch i ymlacio yn y sawna coetir yn Sauna y Coed a mwynhau coffi a chacen gartref yn Hiatus Coffee.

View this post on Instagram

A post shared by Sauna Y Coed (@saunaycoed)

 

Cinio: Ewch i Fredricks Brasserie ym Machynys, lle mae golygfeydd godidog o'r arfordir a phrydau wedi'u hysbrydoli'n lleol yn creu lleoliad perffaith.

Prynhawn: Ewch i gerdded ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm gyda'i olygfeydd eang o Benrhyn Gŵyr ac wedyn cael seibiant i fwynhau rhywbeth melys yn Crazy Crepes ym Mhorth Tywyn. Neu, dewiswch ymlacio ac aros ar ôl cinio i fynd i'r machynys sba ym Machynys.

View this post on Instagram

A post shared by Machynys Resort (@machynysresort)

 

Gyda’r hwyr: Ewch i St Elli Bay yn Llanelli ar ddiwedd eich diwrnod lle cewch fwyd a naws wych.

Diwrnod 3:

Bore: Mwynhewch ddosbarth crochenwaith gyda Will yn Parc Pottery yn Rhydaman. Dyma'r ffordd berffaith i fod yn greadigol a chreu mwy o atgofion. Galwch yn Rhostfa Coaltown, un o'r llefydd gorau i gael coffi yn Sir Gâr. Gallech chi hyd yn oed archebu gweithdy barista i berffeithio eich celf latte. 

Cinio: Mwynhewch ginio blasus yn BLAS yn Rhydaman, ffefryn lleol sy'n gweini prydau ffres, blasus mewn lleoliad hamddenol.

View this post on Instagram

A post shared by BLAS (@blas.sa18)

 

Prynhawn: Ewch i Barc Gwledig Pen-bre am brynhawn o wallgolff, tobogan, neu grwydro'r twyni tywod ac yna cerdded ar hyd y traeth.

Gyda’r hwyr: Ymlaciwch wrth gael swper yn The Ship Aground ym Mhorth Tywyn - tafarn draddodiadol sy'n berffaith ar gyfer sgwrsio â ffrindiau ar ddiwedd y dydd.