Darganfod Llwybr Dyffryn Tywi
Y gwanwyn hwn, mae Sir Gâr yn agor un o'i phrosiectau mwyaf cyffrous yn 2026: Llwybr Dyffryn Tywi. Ers talwm, roedd rheilffordd dawel yma yn cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo ac mae wedi cael ei thrawsnewid yn llwybr bywiog, di-draffig sy'n gwahodd cerddwyr, beicwyr a'r rhai sy'n dwlu ar natur i grwydro yng nghanol Sir Gâr.
Mae'r llwybr yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau byr p'un a ydych chi'n chwilio am y wefr o weld bryniau prydferth cefn gwlad, yn mwynhau trefi marchnad hanesyddol, neu'n syml am anadlu awyr iach y wlad.
Y llwybr
Mae modd crwydro ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi o Gaerfyrddin neu Landeilo, gan roi'r rhyddid i chi gynllunio'ch taith yn union fel y mynnwch. Gallwch ymuno â'r llwybr mewn gwahanol fannau, archwilio rhannau wrth eich pwysau eich hun, a gwerthfawrogi'r bwyd, y diwylliant a'r awyrgylch lleol ar hyd y daith. Mae Caerfyrddin a Llandeilo yn fannau dechrau a gorffen ardderchog, ond cofiwch nad yw canol y trefi yn ddi-draffig. Ond, ar ôl ichi gamu ar y llwybr, mae milltiroedd o gefn gwlad gwych, bryniau tonnog, a golygfeydd heddychlon yr holl ffordd.
Os ydych chi'n dechrau yng Nghaerfyrddin mae'r llwybr yn dechrau yn Amgueddfa Caerfyrddin, lle mae stori'r sir yn cael ei datgelu trwy arddangosfeydd sy'n dod â'r gorffennol yn fyw. Oddi yno, mae'r llwybr yn ymdroelli am 13 milltir, gan ddilyn troeon hamddenol Afon Tywi. Yma fe welwch fryniau tonnog, dolydd wrth lan yr afon, a llwybrau tawel sy'n darparu tapestri byw sy'n newid yn ôl y tymhorau.
Edrychwch i fyny fry i weld barcutiaid coch yn hedfan uwchben, ceirw'n pori, a murmur ysgafn o gân yr adar yn cyd-fynd â'ch camau.
Mae tirnodau hanesyddol yn ychwanegu cymeriad at y llwybr, sef Tŵr Paxton a Chastell Dryslwyn, sy'n sefyll uwchlaw'r dyffryn â golygfeydd ysgubol ohono, a Bryn Myrddin, sy'n llawn mythau a chwedlau lleol. Gall tro hamddenol oddi ar y llwybr fynd â chi i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasne, neu i Blas Dinefwr, yr atyniad mawreddog, sy'n cynnig cyfleoedd bythgofiadwy i weld byd natur, hanes a phensaernïaeth.
Mae'r llwybr croesawgar, di-draffig hwn wedi'i gynllunio ar gyfer crwydro hamddenol, lle i anadlu'n ddwfn, ymgolli yn y golygfeydd, a chysylltu â'r harddwch naturiol a'r dreftadaeth gyfoethog sy'n diffinio Sir Gâr. P'un a ydych chi'n cynllunio taith gerdded fer, taith feicio i'r teulu, neu antur lawn o'r dechrau i'r diwedd, mae Llwybr Dyffryn Tywi yn cynnig profiad heddychlon, diogel a phrydferth i gerddwyr a beicwyr fel ei gilydd.
Mae'r llwybr yn gorffen yn Ffair-fach, ar gyrion Llandeilo, lle mae siopau bwtîc, caffis croesawgar, a danteithion Cymreig blasus yn cynnig ffordd berffaith o orffen eich diwrnod.
Beicio ac antur
I'r rhai sydd ar ddwy olwyn, mae Llwybr Dyffryn Tywi yn syfrdanol. Mae'r llwybr di-draffig, sy'n wastad ar y cyfan, yn hygyrch i deuluoedd, beicwyr achlysurol, a'r rhai sydd wrth eu bodd ar e-feiciau fel ei gilydd. Mae'n gyfleus i logi beiciau gan Actif Sir Gâr yn ystod misoedd yr haf yn Abergwili neu gan Ynni Sir Gâr yng ngorsaf Llandeilo, gan ei gwneud hi'n hawdd dechrau eich taith o'r naill ben neu'r llall. (Rhaid archebu ymlaen llaw)
Y tu hwnt i'r llwybr, mae Sir Gâr yn hafan ar gyfer beicio. Gall gwefr-garwyr daclo'r llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Brechfa neu Barc Beicio Hafod Trails, a gall beicwyr ffordd fynd ar hyd llwybrau prydferth fel Taith Cestyll Dyffryn Tywi. Mae hyd yn oed opsiynau ar gael i'r rhai sy'n mwynhau beicio trac, gan gynnwys y felodrom yng Nghaerfyrddin.
Cerdded ar Lwybr Dyffryn Tywi
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn berffaith ar gyfer cerddwyr o bob gallu. Mae'r arwyneb gwastad, di-draffig yn ddelfrydol ar gyfer crwydro hamddenol, teithiau cerdded i'r teulu, neu ddiwrnod cyfan mas sy'n rhoi boddhad.
Mae'r llwybr yn dilyn afonydd Tywi a Chothi, gan groesi pontydd hyfryd a rhodfa bren. Mae'r nodweddion hyn nid yn unig yn amddiffyn cynefinoedd sensitif ond hefyd yn gwneud y daith gerdded yn ddiogel, yn hygyrch ac yn bleserus ym mhob tymor. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad am farcutiaid coch uwchben, ceirw yn y caeau, ac adar y gwlyptir ar hyd glannau'r afon.
Mae tirnodau hanesyddol diddorol ar hyd y daith yn cynnig cipolwg ar orffennol cyfoethog Sir Gâr, ac mae'r golygfeydd helaeth a chefn gwlad heddychlon yn gwneud pob darn yn gofiadwy.
I'r rhai sydd am fynd ymhellach, cysylltwch eich taith gerdded â Llwybr Rheilffordd Calon Cymru i gael diwrnod mas hyblyg a chynaliadwy. Gallwch hefyd ymestyn eich taith i wneud cylch hirach, gan gysylltu â Phontargothi neu fynd i mewn i dref Llandeilo.
Yn ogystal, mae digon o gyfleoedd i stopio am luniaeth. Mae'r caffis croesawgar ar hyd neu ger y llwybr yn cynnig lleoedd gwych i fwynhau coffi, cacen, neu ginio cyn parhau â'ch taith gerdded.
Caffis, diwylliant, a bwyd blasus
Ni fyddai unrhyw daith ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi yn gyflawn heb gael blas ar y bywyd lleol. Mae caffis bach hyfryd fel Stacey's Kitchen ym Mhalas yr Esgob a bwytai annibynnol bob hyn a hyn ar hyd y llwybr yn cynnig pob dim – o goffi twym i borc Cubanos enwog yr ardal yn Wright's Food Emporium.
Mae Caerfyrddin a Llandeilo yn fannau perffaith i orffen eich antur. Yng Nghaerfyrddin, mae awyrgylch bywiog y dref farchnad yn berffaith ar gyfer mynd am dro bach yn y bore, siopa'n lleol, neu oedi i gael brecwast cyn cychwyn ar eich taith. Yn ogystal, mae'r siopau bwtîc a'r bwydydd o fri yn golygu bod Llandeilo yn lle hyfryd i aros, ac yn ffordd berffaith o ymlacio ar ôl diwrnod o grwydro.
Taith gerdded ar gyfer pob tymor
Mae pob tymor yn cynnig rhywbeth gwahanol.
Mae'r gwanwyn yn llenwi'r dolydd â blodau gwyllt.
Yn yr haf mae'r diwrnodau'n hir a braf ac mae cân yr adar i'w chlywed ar hyd yr afonydd.
Mae'r hydref yn trawsnewid y dyffryn â lliwiau cyfoethog, cynnes.
Mae'r gaeaf yn cynnig llwybrau tawelach a golygfeydd heddychlon ar lan yr afon.
Beth bynnag fo'r adeg o'r flwyddyn, mae Llwybr Dyffryn Tywi yn cynnig y ffordd berffaith o archwilio Sir Gâr ar droed gan gyfuno natur, treftadaeth a threfi croesawgar mewn un llwybr hygyrch â golygfeydd godidog.
P'un a ydych chi'n cerdded, yn beicio, neu'n syml yn oedi i wylio ceirw ar ymyl yr afon, mae'r llwybr yn cynnig cyfle i ailgysylltu â byd natur a hanes. Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn gwahodd pob ymwelydd i grwydro, i archwilio, ac i oedi ar eu cyflymdra eu hunain a'u telerau eu hunain.
Cyfleusterau
-
Hygyrchedd
-
Croesawu cŵn
-
Parcio
-
Toiledau
-
Caffi
-
Ar agor drwy’r flwyddyn
-
Mynediad am ddim