English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Bwyd a Diod

Mae gan Sir Gaerfyrddin ddewis arbennig o fwytai annibynnol hyfryd sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Os yw'r chwant yn codi am bryd o fwyd, coffi a chacen, neu gludfwyd, 100% Sir Gâr yw eich canllaw i'r gorau sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig.

Mae 100% Sir Gâr hefyd yn cynnig ystod eang o gynnyrch lleol artisan i greu’r brecwast Cymreig neu bicnic perffaith i’w  fwynhau ar un o’n traethau hyfryd. 

Mae gan bob busnes a restrir sgôr hylendid o 4 neu uwch neu maent yn aros am sgôr hylendid.

Os ydych yn fusnes yn Sir Gaerfyrddin a hoffech ychwanegu eich manylion ar 100% Sir Gâr.

Cofrestrwch eich busnes yma

 

Hidlo yn ôl:

Hendy Gwyn ar Daf

Printed Chocolates Ltd

Ychydig iawn o esboniad sydd ei angen ar Printed Chocolates. Rydym yn argraffu'n uniongyrchol ar ein bariau siocled o ansawdd uchel iawn, sydd wedi'u gwneud â llaw gan ein gwneuthurwr siocled.

Ble i ddod o hyd i ni

Glendalough House Gerddi'r Ffynnon Hendy Gwyn SA34 0HR

Cadw mewn cysylltiad

Gwinllan Hebron Vineyard

Mae Gwinllan Hebron Vineyard, wrth odre Mynyddoedd y Preseli, yn winllan Gymreig fach, teuluol. Rydym yn winllan unigryw heb ymyrraeth. Sy'n canolbwyntio ar burdeb cynnyrch. Rydym yn ymarfer dim ymyrraeth yn y winllan a dim ymyrraeth yn y gwindy.

Ble i ddod o hyd i ni

Lletty A, Hebron. Hendy Gwyn ar Daf

Cadw mewn cysylltiad

Roadhouse Whitland

Yn Roadhouse rydym yn ceisio rhoi profiad pleserus i bob cwsmer sy'n cerdded i mewn. Gall hynny fod yn bryd tri chwrs gyda ffrindiau, noson ramantus i ddau, seibiant cyflym i gael coffi a darn o gacen neu bryd o fwyd i'r teulu.

Ble i ddod o hyd i ni

Roadhouse, Abbey Road, Whitland, Sa340lg

Cadw mewn cysylltiad

Jabajak Vineyard

Mae Jabajak yn winllan a bwyty gydag ystafelloedd sy'n cael ei redeg gan deulu ac sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae'r cyfan ar 7 erw o dir mewn man tawel, heddychlon ond canolog ar hyd coridor yr A40.

Ble i ddod o hyd i ni

Banc-y-llain, Llanboidy Rd, Whitland, SA34 0ED

Cadw mewn cysylltiad

Dangos 4 allan o 4