
Lili Wen Welshcakes
Dechreuais y busnes bach hwn ddwy flynedd a hanner yn ôl ac mae wedi tyfu'n araf dros y cyfnod hwnnw. Rwyf yn gwneud ac yn gwerthu pice ar y maen cartref, gan gynnwys rhai traddodiadol a rhai ag amrywiol flasau fel lemwn a siocled gwyn, oren siocled Terry's, bakewell ceirios, cnau Ffrengig a syryp euraidd, ac ati.

AJ's Tavern
Mae AJ's Tavern yn dafarn / bwyty cyfeillgar lleol yng nghanol Dafen, rydym yn gweini bwyd gwych trwy gydol yr wythnos a chinio dydd Sul ar ddydd Sul. Mae gennym nifer fawr o ddiodydd o safon ar gael. Mae gennym BT SPORTS a SKY SPORTS Rydym hefyd yn ymddangos ar Just Eat a Uber Eats.
Cysylltwch â ni
Ble i ddod o hyd i ni
AJ's Tavern 21 Maescanner Rd, Dafen Llanelli Carmarthenshire SA14 8LR

Grey Alders
Cig eidion a chig dafad Cymreig, seidr sych a sebon cartref yn uniongyrchol o'r fferm. Rydym yn hongian ein cig dafad yn yr oerwr am 42 diwrnod a'n cig eidion o wartheg sy'n cael eu bwydo ar laswellt am 56 diwrnod. Mae ein seidr Tafod Teilo yn 6% abv. Mae'r siop fferm ar agor chwe diwrnod yr wythnos.
Ble i ddod o hyd i ni
Wernlwyd,Pen-y-bont,Caerfyrddin,SA33 6QN

West End fish and chips
Mwynhewch bysgod a sglodion ffres a blasus, byrgyrs, cyw iâr, pasteiod a mwy yn West End Fish and Chips yng Nghaerfyrddin.


Dewi James a'i Gwmni
Rydym yn gigyddion wedi'n lleoli yng nghalon gorllewin Cymru sydd wedi bod yn cyflenwi cig lleol o'r safon uchaf i'r fasnach adwerthu ac arlwyo am dros 70 mlynedd.
Ble i ddod o hyd i ni
Y Gigyddfa, Sgwar Emlyn Newcastle Emlyn, SA38 9BQ

Stacey's Kitchen
Coffi arbenigol ac amrywiaeth arbennig o gacennau. Ciniawau ysgafn fel ciabattas a byrddau pigo. Bwyd tymhorol wedi'i wneud o gynnyrch o'n gardd furiog ein hunain. Tiroedd hardd i fynd am dro bach (i losgi calorïau'r cacennau). Yn croesawu cŵn.

Blasus Welshcakes Ltd
Yn cynhyrchu a gwerthu pice ar y maen gyda blasau traddodiadol ac amgen. Yn cynhyrchu a gwerthu pice ar y maen y gellir eu coginio gartref gyda blasau traddodiadol ac amgen
Ble i ddod o hyd i ni
CWRT Y CAPEL HENFWLCH ROAD CARMARTHEN SA33 6AA
