Llanybydder & the Cambrian Mountains
English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae pentref Llanybydder yn gorwedd ar lan Afon Teifi sef y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae'r Pentref, sydd yn y ddwy sir, yn borth i Fynyddoedd Cambria ac yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, seiclo, pysgota ac amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.

Mae'r pentref yn gartref i oddeutu 1600 o bobl ac mae'r Gymraeg i'w chlywed yn gryf yno. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r pentref wedi croesawu cannoedd o bobl ledled Ewrop yn sgil swyddi yn y diwydiannau amaethyddol.

Darllenwch fwy i gael gwybod rhagor am y pentref a'r ardal gyfagos ac i wybod beth sydd i'w weld ac i'w wneud yno.

Tref farchnad yw Llanybydder. Mae wedi denu pobl i fasnachu yno ers canrifoedd. Heddiw, mae marchnadoedd da byw yn cael eu cynnal yn rheolaidd, lle mae ffermwyr yn ymgasglu i brynu a gwerthu defaid a gwartheg. Ond efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am y marchnadoedd ceffylau a gynhelir ar ddydd Iau olaf pob mis.

Mart Ceffylau

Cynhelir y Mart Ceffylau gan Evans Brothers, cwmni teuluol lleol o arwerthwyr. Fe siaradon ni â Mark Evans sy'n rhedeg y busnes heddiw. Dywedodd wrthym fod y marchnadoedd ceffylau wedi bod yn cael eu cynnal ers 1895 a Llanybydder yw un o’r ychydig arwerthiannau ceffylau misol sydd ar ôl yn y DU Mae enw da'r farchnad yn denu prynwyr o bob rhan o'r DU ac Iwerddon a thu hwnt. Ymhlith yr ymwelwyr hynny, dros y blynyddoedd, bu rhai wynebau enwog iawn gan gynnwys rhai o enwau mawr y byd roc yn y 60au, y ‘Rolling Stone’ Mick Jagger a’i gariad ar y pryd, Marianne Faithfull. Fe achoson nhw gynnwrf pan ddaethon nhw mewn sbortscar melyn a oedd yn bur wahanol i'r Land Rovers mwdlyd a'r ceir stad.

Pan fydd y mart ceffylau yn y dref mae yna fwrlwm go iawn, wrth i brynwyr a gwerthwyr ymgynnull i rannu straeon a chynllunio ar gyfer y diwrnod. Dywedodd Mark wrthym fod rhai ymwelwyr yn dod i’r farchnad dim ond i flasu'r awyrgylch ar y diwrnod arbennig hwn. Os ydych chi'n penderfynu mynd i'r farchnad, cofiwch beidio â chodi llaw i gyfarch eraill o amgylch y cylch gwerthu - neu efallai y byddwch yn mynd adref â Chob Cymreig yn annisgwyl!

Stori Cymraeg

Gan fod cynifer o ddefaid yng Nghymru, nid yw’n syndod ein bod yn enwog am ein cynnyrch gwlân, yn enwedig y flanced Gymreig. Ynghyd â chwiltiau Cymreig, mae galw mawr am yr eitemau hyn unwaith eto. Un sydd wedi chwarae rôl allweddol yn hyn o beth yw Jen Jones, casglwr cwiltiau ac arbenigwr o Lanybydder. Er bod ganddi enw Cymraeg ei naws, mae hi'n wreiddiol o New England, ond mae hi wedi helpu i feithrin enw da ac ymwybyddiaeth o'r cynnyrch Cymreig. Mae bob amser yn werth ymweld â The Jen Jones Welsh Quilts and Blankets Cottage Shop, ychydig y tu allan i Lanybydder, lle gallwch bori trwy gwiltiau hynafol lliwgar, blancedi, throws a siolau.

Teithiau Cerdded

2.5 milltir yn unig i'r de o Lanybydder mae pentref Llanllwni a'i fynydd enwog sy'n dwyn yr un enw. Mae Mynydd Llanllwni yn ddelfrydol i gerddwyr ac unrhyw un sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored a byd natur. Mae’r tir yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o gerddwyr, felly p’un a ydych yn gerddwr brwd neu’n un sy’n mwynhau mynd am dro hamddenol, byddwch wrth eich bodd yn y rhan hon o Sir Gaerfyrddin. Er mor boblogaidd ydyw, wrth i chi gerdded i’r copa, mae’n annhebygol y bydd twristiaid eraill yno. Mae’n fwy tebygol y byddwch yn gweld merlod mynydd a hyd yn oed byfflo dŵr o bryd i’w gilydd. Cewch hefyd weld golygfa odidog arall sef Barcutiaid Coch ac adar ysglyfaethus eraill yn hedfan uwchben.

Ar eich taith, byddwch yn cerdded trwy goetir hynafol, Coedwig Brechfa ac ar lan Afon Cothi. Ar lan Afon Cothi, efallai y bydd pysgotwyr plu yn aros yn amyneddgar yno i ddal brithyllod. Mae'r golygfeydd o'r mynydd yr un mor drawiadol yn ystod y dydd a'r nos. Mae Mynydd Llanllwni yn llecyn cydnabyddedig ar gyfer syllu ar yr awyr dywyll ac mae'n cael sylw yng Nghanllaw Yr Wybren Dywyll Mynyddoedd Cambrian.

Te yn y gerddi

Cyn iddi dywyllu ar y mynydd, mae'r adar, yn ôl pob sôn, yn hedfan i lawr i Norwood Gardens and Tea Rooms i dreulio’r noson. Yn ôl pob tebyg, maen nhw'n mwynhau nythu yn y bambŵs sy'n rhan o'r gerddi hyfryd hyn. Os ydych chi yn yr ardal rhwng Ebrill a Hydref, mae hwn yn lle gwych i dreulio peth amser a mwynhau lluniaeth yn yr ystafell wydr lachar. Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae taith gerdded drwy'r goedwig gyda rhododendronau, llwyni a choed, gardd Fediteranaidd, gardd rhosod a border llysieuol. Gallwch hefyd fynd â rhai planhigion adref i’ch atgoffa o’ch amser yn Nyffryn Teifi.

Llwybrau

Ar ochr arall y mynydd y mae pentref Abergorlech. Wrth i chi yrru drwy'r pentref efallai y gwelwch gerrig o siâp rhyfedd o flaen y bythynnod ar ochr y ffordd. “Cerrig Gorlech” yw’r rhain, wedi’u siapio gan Afon Gorlech y mae enw’r pentref wedi deillio ohoni. Gerllaw, mae’r maes parcio sy’n fynedfa i Goedwig Brechfa, yr enw 'modern' ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi. Heddiw mae'r goedwig yn llawn o lwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd. Gall cerddwyr ddewis rhwng Taith gerdded hamddenol Glan yr Afon, Taith Gerdded fwy egnïol Gorlech, neu Daith Gerdded egnïol Gardd y Goedwig. Ar y daith olaf, fe welwch goed o sawl rhan o'r byd: coed cochion anferth o Galiffornia; ewcalyptws o Awstralia; Ffawydd deheuol o Dde America; pinwydd o'r holl gyfandiroedd ac amrywiaeth o rywogaethau Ewropeaidd megis derw di-goes, cyll Ffrengig a phyrwydd

Mae Brechfa yn le delfrydol i feicwyr mynydd. Mae gwefan Beicio Mynydd Cymru yn dweud bod “Brechfa yn gyrchfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau amser hamddenol neu rai sy’n hoffi mynd ar gyflymdra." Mae Brechfa yn berffaith i bawb beth bynnag eu profiad a’u sgiliau. Mae Llwybr Derwen yn berffaith ar gyfer y rheiny sy'n dechrau beicio mynydd. Mae Llwybr Gorlech, a ddyluniwyd gan Rowan Sorrell, ­yn fwy heriol ac mae'r daith i lawr yn gyflymach o lawer, ac mae llwybr du dychrynllyd ond cyffrous y Raven yn dwyn enw priodol!

Ewch i'r bar

Mae'r ardal hefyd yn enwog am Gigfran ddu arall. Bob yw enw hwn, ac mae'n eistedd uwchben y Raven Bar yn y Forest Arms. Dyma un o ychydig o dafarndai cyfagos sy’n croesawu beicwyr mynydd yn ogystal ag ymwelwyr llai egnïol. Mae George Rashbrook, sy’n rhedeg y Forest Arms, bob amser yn awyddus i rannu straeon â’i westeion am Bob yn ogystal â chynnig blas ar hanes y dafarn a'r ardal. Rhwng y straeon, gall gwesteion fwynhau bwyd clasurol a phizza wedi'i goginio dros dân. Mae The Black Lion yn Abergorlech hefyd yn dafarn wych. Mae'r dafarn hon, sy'n llawn cymeriad, wedi'i lleoli ar lan yr Afon Cothi. Mae’n croesawu cŵn ac mae’n lle gwych i ymlacio ar ôl diwrnod prysur.

Argymhellion

Y Daith Gerdded Orau – Os oes gennych ddigon o egni, mae llwybr Gardd y Goedwig yng Nghoedwig Brechfa yn arbennig.

Beth sydd raid i ymwelwyr ei wneud - Mwynhau'r awyrgylch yn Llanybydder ar ddiwrnod marchnad ceffylau.

Y Stori Syfrdanol - Chwedl Bob y Gigfran

Y Trysor Cudd – Ewch i ymweld â'r Labyrinth yn Eglwys Sant Mihangel o'r 13eg ganrif, Llanfihangel Rhos y Corn

Cyfle i dynnu llun - Y golygfeydd o gopa Mynydd Llanllwni

Man i gael tamaid blasus – Mwynhau te prynhawn yn heddwch a harddwch Gerddi Norwood

Llanybydder a Mynyddoedd Cambria

Aros