English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae Rhydaman yn un o brif drefi Sir Gaerfyrddin, a bu unwaith yn ganolbwynt i'r gymuned lofaol yng Ngorllewin Cymru. Saif 'Dilyn y Wythïen', cerflun tywodfaen 6 metr o uchder gan Howard Bowcott, yng nghanol y dref fel teyrnged i gyfraniad yr ardal i'r diwydiant glo. Rhydaman yw'r ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro Dyffryn Aman.

Daw enw'r dref o'r rhyd a ddefnyddiwyd ar un adeg i groesi Afon Aman. Heddiw gallwch groesi'r afon yn yr un man ar lwybr troed a llwybr beicio.

Mae'r dref yn golygu llawer i'r entrepreneur a'r personoliaeth deledu, Ameer Rhys Davies-Rana. Gofynnom iddo ddweud mwy wrthym am y dref. I gael gwybod rhagor, darllenwch y canlynol.

Mae Ameer yn adnabyddus fel cyflwynydd ar deledu Cymraeg. Mae hefyd yn rhedeg busnes digwyddiadau llwyddiannus, yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg i ysgolion.

Mae'n cyfaddef nad yw Rhydaman efallai wedi bod ar frig y rhestr o leoedd i ymwelwyr fynd iddyn nhw yn y sir. Ond mae Ameer yn teimlo eu bod nhw'n colli allan, a bod treulio amser yn yr hen dref lofaol hon, mor Gymreig ei naws, yn rhywbeth gwerth ei wneud yn bendant.

Yn gyntaf oll, mae'n hawdd cyrraedd Rhydaman. Dafliad carreg o'r M4 ac yn agos at bob rhan o'r sir, mae Ameer yn honni gyda'i dafod yn ei foch mai Rhydaman yw "Canolbwynt Cymru”.

Chwilio am y Twrch Trwyth

Mae Ameer yn tynnu sylw at y cerfluniau o faedd a dau fochyn bach sydd ar y ffordd i Rydaman. Mae llun y baedd hefyd ar gristau Cyngor Tref Rhydaman a'r clybiau pêl-droed a rygbi. Ond beth yw arwyddocâd yr anifail hwn i'r dref?

'Y Twrch Trwyth' yw'r enw lleol ar y baedd ac mae'n destun chwedl Arthuraidd. Yn ôl yr hanes, syrthiodd Culhwch mewn cariad ag Olwen, ac er mwyn ennill ei llaw mewn priodas, rhoddwyd her iddo gan ei thad, a oedd yn gawr dieflig. Un o'r pethau roedd yn rhaid iddo ei wneud oedd cipio'r crib, siswrn a rasel hudol oedd rhwng clustiau'r Twrch Trwyth. Ar ôl erlid y baedd a'i saith mochyn bach o Iwerddon, daliodd Culhwch, Arthur a'i fyddin nhw yn y man a elwir heddiw yn Dyffryn Aman, ac er iddynt ladd pum mochyn bach, llwyddodd y Twrch Trwyth i ffoi eto.

Siopwr hapus

Gall siopwyr grwydro Arcêd Fictoraidd deniadol Rhydaman. Porwch drwy waith awduron lleol yn 'College Street Books', cyn mwynhau cyfle i ddarllen mewn tawelwch gyda phaned a chrepe yn Vive la Crepe. Os am gael rhywbeth gwirioneddol Gymreig, ewch i Cyfoes ar Stryd y Cei ar gyfer dillad, nwyddau cartref, crefftau, a rhoddion o safon. Mae Rhydaman hefyd yn dref Masnach Deg swyddogol, felly cadwch lygad am nwyddau Masnach Deg o amgylch y dref. Un o hoff lefydd Ameer am fwyd yw Caffi Windsor. Mae gan y siop 'sgod a sglods' deuluol hon enw da iawn ymysg pobl Rhydaman, ac mae'r pei ffagots a pys yn flasus dros ben.

Mae Ameer yn dweud bod y dref yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r sir gyda'r hwyr. Mae'n dweud bod y clwstwr o dafarndai a bariau ar Stryd y Gwynt bellach yn gallu cystadlu â'r stryd o'r un enw yng nghanol Abertawe. Ceir digon o dafarndai i ddewis ohonynt, ond dywed Ameer os yw ymwelwyr yn chwilio am noson a fydd yn rhoi gwir flas iddyn nhw ar Gymoedd de Cymru, efallai dylent fynd i Glwb Cymdeithasol Lles y Glowyr Rhydaman.

Siopwr hapus

Gall siopwyr grwydro Arcêd Fictoraidd deniadol Rhydaman. Porwch drwy waith awduron lleol yn 'College Street Books', cyn mwynhau cyfle i ddarllen mewn tawelwch gyda phaned a chrepe yn Vive la Crepe. Os am gael rhywbeth gwirioneddol Gymreig, ewch i Cyfoes ar Stryd y Cei ar gyfer dillad, nwyddau cartref, crefftau, a rhoddion o safon. Mae Rhydaman hefyd yn dref Masnach Deg swyddogol, felly cadwch lygad am nwyddau Masnach Deg o amgylch y dref. Un o hoff lefydd Ameer am fwyd yw Caffi Windsor. Mae gan y siop 'sgod a sglods' deuluol hon enw da iawn ymysg pobl Rhydaman, ac mae'r pei ffagots a pys yn flasus dros ben.

Mae Ameer yn dweud bod y dref yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r sir gyda'r hwyr. Mae'n dweud bod y clwstwr o dafarndai a bariau ar Stryd y Gwynt bellach yn gallu cystadlu â'r stryd o'r un enw yng nghanol Abertawe. Ceir digon o dafarndai i ddewis ohonynt, ond dywed Ameer os yw ymwelwyr yn chwilio am noson a fydd yn rhoi gwir flas iddyn nhw ar Gymoedd de Cymru, efallai dylent fynd i Glwb Cymdeithasol Lles y Glowyr Rhydaman.

Yr 'Aur Du' newydd

Mae cysylltiadau eraill, sy'n peri syndod efallai, â threftadaeth lofaol Rhydaman. Mae'r dref a arferai fod yn enwog am yr aur du gwreiddiol – glo – bellach yn creu fersiwn newydd: coffi. Ewch i Coaltown Coffee ar gyrion y dref, am baned o goffi cynaliadwy arobryn. Mae holl goffi Coaltown yn cael ei rostio a'i bacio gan bobl leol yn rhostfa'r cwmni.

Lawr wrth lan yr afon

I feicwyr a cherddwyr, mae Ameer yn sôn am y llwybr 9 cilometr (6 milltir) rhwng Rhydaman a Brynaman Uchaf sy'n dilyn Afon Aman. Mae'r llwybr hwn, sy'n boblogaidd gan gerddwyr a beicwyr, yn mynd drwy goetiroedd, lonydd deiliog a pharcdir. Yr hyn a achosodd i bentrefi Dyffryn Aman dyfu oedd darganfod a chloddio glo a haearn yn lleol. Fodd bynnag, erbyn heddiw prin yw'r arwyddion o'r gorffennol diwydiannol hwn, ac mae natur wedi ail-hawlio'r safleoedd a'r tomenni. Mae'r afon a'i glannau yn gynefinoedd pwysig i adar dŵr fel yr hwyadwydd, yr hwyaden wyllt, glas y dorlan, a'r sigl-i-gwt. Oddi fry mae'n bosibl gwelwch chi fwncathod, ac os ydych chi'n lwcus, ambell farcud coch.

Byd natur yn cwrdd â dyn

Mae Cwar y Mynydd Du, a elwir yn lleol yn Cwar Herbert, i'w weld yn Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog. Mae'r safle'n gapsiwl amser o gyfnod arwyddocaol yn nhreftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Fe welwch olion ffisegol o ddatblygiadau calch dros gannoedd o flynyddoedd gyda gweithfeydd cwar, odynau a thomenni sy'n dyddio o'r gwaith bach yn yr 1700au hyd at waith masnachol yr 20fed ganrif. Ar ddiwrnodau clir, mae golygfeydd ysblennydd i'r gorllewin tuag at Sir Benfro, i'r de tuag at Fôr Hafren, ac i'r gogledd tuag at Bumlumon ym Mynyddoedd y Cambria.

Taith a hanner

Ewch am dro yn y car dros y Mynydd Du ar yr A4069 ac rydych chi'n siŵr o gael gwefr heb ei hail. Mae'r ffordd yn cael ei galw weithiau yn 'ffordd Top Gear', ar ôl i Jeremy Clarkson gael ei ffilmio yn gyrru arni nôl yn 2011. Ers hynny mae wedi dod yn ffefryn cadarn gydag awduron cylchgronau ceir, beicwyr, a'r sawl sy'n berchen ceir perfformiad uchel – ac nid yw'n syndod bod camerâu cyflymder symudol i'w gweld yma'n aml (rydych chi wedi cael rhybudd!) O safbwynt gyrru, mae'n well teithio o'r gogledd i'r de - mae 'Tro'r Gwcw' yn hynod gofiadwy. I'r bobl nad yw injan yn eu cyffroi, mae'r golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi yn well wrth deithio o'r de i'r gogledd. Sbin arall yn y car yw ffefryn Ameer, sef y daith i ben Mynydd y Betws. Mae gan y ffordd hon olygfeydd eang o Rydaman (mae Ameer yn awgrymu mai dyma'r lle gorau i dynnu llun) cyn croesi i Gwm Tawe.

Tymhorau newidiol

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, ger pentref Carmel, ar hen gwar calchfaen mawr. Yn dibynnu pa dymor rydych yn ymweld, fe gewch brofiad gwahanol iawn. Yn y gwanwyn, mae'r coetir yn llawn clychau'r gog a'r aer yn arogli o arlleg gwyllt. Y warchodfa yw cartre'r unig hafn (llyn tymhorol) ym Mhrydain. Mae'n cael ei fwydo gan ddŵr daear yn unig, ac mae Pant y Llyn yn llenwi ddiwedd yr hydref, gan gyrraedd dyfnderoedd o hyd at 3 metr yn y gaeaf. Fodd bynnag, mae'r llyn yn sychu ac yn diflannu'n llwyr yn ystod yr haf.

Mae Ameer yn adnabyddus fel cyflwynydd ar deledu Cymraeg. Mae hefyd yn rhedeg busnes digwyddiadau llwyddiannus, yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg i ysgolion.

Awgrymiadau Ameer

Man Instagram – Yr olygfa yn ôl i gyfeiriad Rhydaman o Fynydd y Betws.

Y Ffaith Ryfeddol – Mae Rhydaman yn lle gwych am noson allan wirioneddol Gymreig.

Y Daith Gerdded Orau – Taith Gerdded Afon Dyffryn Aman

Y Lle i gael Lluniaeth – Bar Caffi a Bwyty Blas yn Stryd y Gwynt

Ei Ffefryn Personol – Caffi Windsor

Dyffryn Aman a'r Mynydd Du

Pethau i’w gwneud