English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Pentywyn i Llanrath

Pentywyn i Llanrath - Llwybr Arfordir Cymru

Between Pendine and Amroth, with their throngs of summer visitors, lies an isolated coastline of rugged beauty with a wealth of natural and historical interest.

To our Stone Age ancestors, this section of coastline would be virtually unrecognisable. During the last Ice Age, the glaciers advanced south, to a line just short of Pendine. Looking north the land lay under a deep cover of ice, whilst to the south, what is now Carmarthen Bay was dry land.

The remains of peat beds that can be found below the present-day high tide level have been radiocarbon dated to around 3000BC and tell of a time when the bay was marshy ground cloaked by a forest of alder and oak.

At this time Neolithic peoples lived in the area and left their mark in the form of stone chambered tombs. Later Bronze Age remains include ritual burial monuments such as barrows and ring cairns. More impressive earthworks were left by Iron Age communities who built hill forts at Top Castle and Gilman Point. They are promontory hillforts (a type common to the west coast of Wales) situated on naturally defensible positions where the land drops away steeply on three sides.

The mediaeval settlement at Pendine was inland and uphill of the present-day beach resort, centred on the Parish church. Relic field boundaries dating back to this time can still be seen on the slopes leading down to Marros beach. Unfortunately, many others, some of which may have been Bonze Age, were destroyed in the 1980s.

Pendine emerged as a holiday resort from the mid-18th century onwards when there was a growing interest in sea bathing as a health cure. The long period of the Napoleonic Wars forced many of the well-to-do to travel within England and Wales and this gave a boost to the seaside resorts.

 

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

                      Lawrlwytho taith gerdded               Plotaroute map

Pam Cerdded?

Taith ac iddi ddarnau heriol weithiau ar hyd rhan ddeniadol dros ben o Fae Caerfyrddin a Llwybr Arfordir Cymru.

Pa mor Hir?

Mae'r llwybr tua 8.5 cilometr (5.3 milltir), gan ddringo 374 metr (1,227 troedfedd).

Pa mor Anodd?

Mae rhai rhannau serth iawn a allai fod yn anodd i ambell gerddwr, a dilynir llwybrau glaswelltog garw am lawer o'r ffordd. Ceir siopau, tafarndai a chaffis yn y pentrefi sydd ar gychwyn ac ar ddiwedd y daith, ond does dim byd rhyngddynt na chysgod ychwaith. Bydd angen i gerddwyr wisgo dillad ac esgidiau priodol.

Man Cychwyn - Maes Parcio, Pentywyn

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth – ✔

Video for the Pendine to Amroth walk

Mannau o Ddiddordeb

1. Mae'r golygfeydd godidog o'r arfordir a chefn gwlad yn gwneud y ddringfa heriol i gopa'r bryn yn werth chweil.

2. Yn yr haf mae blodau melyn llachar y garnedd felen yn amlwg ar ochr y llwybr. Mae'r planhigyn hwn yn wenwynig i geffylau a gwartheg, ond mae'n fwyd i'r gwyfyn claergoch, sydd yntau'n wenwynig wedyn i adar (ond mae'r rheiny'n dysgu i adael llonydd iddynt yn fuan iawn).

3. Gellir gweld cloddiau a ffosydd amddiffynnol bryngaer Oes Haearn o hyd yn Nhrwyn Gilman. Roedd criw o smyglwyr yn arfer byw yn agos i fan hyn, a defnyddient ogofâu'r ardal i gadw eu nwyddau gwaharddedig.

4. Adeiladwyd y slab o goncrit wrth geg cwm Morfa Bychan ar gyfer ymarfer hyfforddi cyfrinachol adeg yr Ail Ryfel Byd, sef "Exercise Jantzen". Defnyddiwyd y traeth gan filwyr yn eu hawyrennau a'u tanciau er mwyn ymarfer ar gyfer glaniadau Normandi.

5. "Bydd llawer o lapswcho pan fydd yr eithin yn blodeuo" yw'r hen ddywediad. Yn aml mae Eithin Cyffredin ac Eithin Gorllewinol yn tyfu gyda'i gilydd, a rhyngddynt maent yn eu blodau drwy gydol y flwyddyn. Arferid defnyddio'r eithin i gynhesu ffyrnau bara a'i felino i wneud porthiant i'r ceffylau, a châi'r blodau eu casglu fel conffeti neu eu berwi i wneud moddion i leddfu poen tonsilitis.

6. Mae'r gwelyau mawn 5000 oed ar draeth Marros yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Gofalwch nad ydych yn eu niweidio.

7. Olion wal a godwyd o gerrig bach y traeth a phwll melin sydd wedi gordyfu yw'r unig bethau sy'n weddill o Felin Marros erbyn hyn. Crybwyllir y felin mewn arolwg o'r ystâd sy'n dyddio'n ôl i 1307.

8.Yng Nghastell Top gwelir olion helaeth Bryngaer Oes Haearn.

9. Coed Teague - Dywed chwedloniaeth leol mai yma lladdwyd y blaidd gwyllt olaf yng Nghymru.

10. Bae Caerfyrddin yw un o'r safleoedd pwysicaf ym Mhrydain i'r Fôr-hwyaden Ddu, y gellir ei gweld o ddiwedd yr haf drwy gydol y gaeaf, cyn gadael i fridio yn Sgandinafia a Rwsia.

Golygfa o lwybr arfordir yn edrych dros Bentywyn

Telpyn point

Parc Arfordirol y Mileniwm

Wales Coast Path