Pam Cerdded?
Dilynwch Lwybr y Landsker o Hendy-gwyn ar Daf i Lanboidy. Man cychwyn da yw Canolfan Hywel Dda, gyda maes parcio'n agos iawn ger y gerddi hardd. Yna dilynwch y llwybr heibio Abaty hanesyddol Hendy-gwyn ar Daf, a alwyd yn Fam Dŷ'r Sistersiaid Cymreig ac ymlaen i Lanboidy gyda nifer o fannau o ddiddordeb gan gynnwys caer o'r Oes Haearn. Manteisiwch ar y cyfle hefyd i weld rhai o henebion hanesyddol a chofrestredig niferus yr ardal.
Taith gerdded linol yw hon.
Pa mor hir?
Mae'r daith gerdded ychydig dros 10km
Pa mor Anodd?
Cymedrol i Egnïol
Man cychwyn: Canolfan Ddehongli Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf.
Maes Parcio: ✔
Trafnidiaeth Gyhoeddus: ✔
Lluniaeth: ✔