English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Traciau a Chylchffyrdd

Sir Gaerfyrddin - Canolbwynt Beicio Cymru

Ffordd Gaeëdig

Bydd cwrs rasio 'ffordd gaeëdig' newydd – y cyntaf yn ne Cymru – yn agor yr haf hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre, gan gyd-fynd â dyhead y sir i fod yn ganolbwynt beicio Cymru. Bydd y trac pwrpasol yn cyrraedd safonau Beicio Prydain a hwn fydd y gorau o'i fath yng Nghymru, os nad Prydain, gan ddenu digwyddiadau, rasys a gwersylloedd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, a hynny mewn awyrgylch di-draffig a diogel. Bydd yn gymorth i ddatblygu beicio yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth a bydd modd i gampau a gweithgareddau eraill, megis athletau, triathlon a sgi-rolio, ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i parcgwledigpenbre.cymru neu i ddefnyddio y cwrs rasio gwelwch gwefan British Cycling yma 

Felodrome

Rydym yn ffodus iawn o gael un o'r felodromau hynaf yng Nghymru, os nad y byd, yma yn Sir Gaerfyrddin. Adeiladwyd felodrom Parc Caerfyrddin – cartref Clwb Beicio Towy Riders – yn 1900 ac mae newydd gael ei adnewyddu. Rhoddwyd paneli newydd ar wyneb y trac yn lle'r 232 o baneli a oedd yno ynghynt, crëwyd parth diogel ar ochr fewn y trac a gosodwyd ffens ddiogelwch newydd ar hyd ochr fas y trac. Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan glybiau beicio lleol a'r gymuned leol, y bwriad yw iddo fod yn ganolfan ragoriaeth ranbarthol a fydd yn cynnal cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyngor Tref Caerfyrddin sy'n rheoli'r trac; am ragor o wybodaeth ac i archebu lle ewch i velodrome.cymru

Llwybr Cwm Tywi

Mae prosiect newydd cyffrous wedi cychwyn yn Nyffryn Tywi hardd, wrth i'r hen reilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo gael ei hadfywio yn atyniad hamdden o bwys ac yn atyniad i ymwelwyr. Bydd yn darparu llwybr di-draffig 16 milltir o hyd drwy un o'r ardaloedd mwyaf prydferth yng Nghymru, a bydd yn dilyn cwrs Afon Tywi bron wrth iddi lifo o Landeilo i Gaerfyrddin ar ei ffordd i Fae Caerfyrddin. Bydd y llwybr yn costio rhwng £5 ac £8 miliwn, ac mae set gref o bartneriaid a rhanddeiliaid yn cael ei ffurfio ac mae cyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor.