English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybrau Beicio Mynydd

Sir Gaerfyrddin - Canolbwynt Beicio Cymru

Llwybrau Gorau

Allt Nant-y-Ci

Mae Allt Nant-y-Ci ger pentref Saron, rhyw ychydig i’r gorllewin o Rydaman. Mae llecynnau coediog, tawel y parc yn berffaith ar gyfer mynd am dro, a cheir llwybr beicio oddi ar y ffordd â rampiau a rhwystrau gosod i’r rhai sy’n fwy anturus. Bydd adarwyr yn gwerthfawrogi’r ŵylfan adar, sydd mewn cornel heddychlon o’r parc. Ar ddiwrnod braf a chynnes, y gwelltiroedd yn Allt Nant-y-Ci yw un o’r llefydd gorau yn Sir Gâr i weld ieir bach yr haf a gweision y neidr.

Gradd: Heb eu graddio ond petai wedi'u graddio bydd yn Wyrdd – Hawdd

Hyd: Prif lwybr tua. 800m, llwybr beicio tua. 350m

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, h.y. beiciau â theiars ceinciog!

 

Man cychwyn/gorffen: Prif maes parcio 

Lluniaeth: Mae yna ddewis eang o dafarndai a chaffis da yn Rhydaman, Capel Hendre, a Tir-Y-Dail 

 

Coedwig Crychan, Llanymddyfri

Mae Coedwig Crychan wedi bod yn boblogaidd gyda cherddwyr a marchogion erioed; mae'r coedwigoedd helaeth, y coed mawr hardd, y bywyd gwyllt a'r golygfeydd gwych yn golygu bod y goedwig yn ffefryn gan bawb. Bellach gallwch fwynhau'r goedwig o'ch beic, ac mae nifer o lwybrau beicio y maent oll yn addas i deuluoedd sy'n chwilio am lefydd i feicio oddi ar y ffordd mewn lleoliad trawiadol.

Dewiswch o bum llwybr gwahanol y gallwch ymuno â nhw o'r pedwar maes parcio sydd yn y goedwig:
•Brynffo – Esgair Fwyog – 7.1km
•Golygfa Epynt – 13.5km
•Cwm Coed Oeron – 12.8km
•Allt Troedrhiw-fer – 4km
•Allt Troedrhiw-fer – cyswllt Golygfa Epynt – 4.9km

Gradd: Heb eu graddio ond petaent wedi'u graddio byddent yn Wyrdd – Hawdd

Hyd: 4km – 15km

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, hynny yw beiciau â theiars ceinciog!

 

 

Man cychwyn/gorffen: Pedwar maes parcio Coedwig Crychan.

Lluniaeth: Mae gan Lanymddyfri ddewis o dafarndai a chaffis da.

Manylion pellach: www.crychanforest.org.uk

 

Cwm Rhaeadr, Cil-y-cwm

Mae Coedwig Cwm Rhaeadr, sydd ym mharthau uchaf Dyffryn Tywi ger Rhandir-mwyn a Llanymddyfri, yn un o gyfrinachau pennaf Sir Gaerfyrddin. Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn untrac gradd coch o safon ac mae'n cynnwys disgynfa dros grib garegog, sydd â golygfeydd trawiadol o'r dyffryn a'r rhaeadr.

Mae gan Gwm Rhaeadr enw da am feicio cyflym a golygfeydd ysblennydd. Mae'r llwybr yn dechrau drwy ddringfa raddol 2.5km drwy'r goedwig, hyd nes eich bod yn dod mas ar dop y dyffryn. Oddi yma gallwch edmygu'r rhaeadr a chael eich gwynt atoch, cyn mynd fel y cythraul am i lawr ar hyd yr untrac technegol sy'n ymlwybro drwy'r goedwig. Mae rhannau untrac, troeon, a neidiau wrth ichi hedfan rhwng y coed ar y llwybr 3.5km am i lawr. Er mai llwybr byr yw hwn, mae'n un gwerth chweil. Mae'r holl gylchgronau'n dwlu arno ac yn rhoi adolygiadau da iawn. Ewch ddwywaith os ydych am lwybr hirach.

Gradd: Coch – Anodd

Hyd: 6.7km

 

 

 

Beic: Beic mynydd o safon yn unig

Man cychwyn/gorffen: Cil-y-cwm

Lluniaeth: Neuadd Arms yng Nghil-y-cwm

Rhagor o wybodaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru

Parc Gwledig Pen-bre

Parc gwledig penigamp â choedwig fawr a thraeth euraid wyth milltir o hyd. Mae nifer o lwybrau beicio addas i deuluoedd yn y goedwig. Mae modd llogi beiciau ar y safle yn y Ganolfan Sgïo.

Gradd: Heb ei raddio, ond buasai’n Wyrdd (hawdd) petai wedi

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, h.y. beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Maes parcio’r parc gwledig

Lluniaeth: Mae bwyd a diod ar gael yn y parc ac mae dewis o dafarndai a chaffis gwych gerllaw ym Mhen-bre, Porth Tywyn a Chydweli.

 

 

Rhagor o Wybodaeth: Parc Gwledig Penbre 

 

Pembrey Country Park

A great country park with a large forest and an eight-mile long golden sandy beach. The forest has numerous bike tracks and cycleways all suitable for families. Bike Hire is available on site at the Ski Centre.

Grade: Ungraded but if it was graded it would be Green – Easy

Bike: Mountain bikes and hybrid mountain / road bikes, bikes with knobbly tyres!

Trailhead: Country park car park

Refreshments: There are food and drink facilities in the park and nearby Pembrey village, Burry Port and Kidwelly have a selection of great pubs and cafes.

 

Fforest Brechfa

Fforest Brechfa yw un o gyfrinachau gorau Sir Gaerfyrddin ac mae'r golygfeydd syfrdanol a'r cymoedd dwfn yn wych ar gyfer beicio mynydd.

Mae Llwybr Gorlech yn cynnwys tair dringfa a disgynfa sylweddol sy'n ymestyn am 19km. Gall beicwyr mwy profiadol brofi eu sgiliau ar lwybr heriol gradd du Raven, tra bo Llwybr Derwen yn fan cychwyn perffaith i deuluoedd a dechreuwyr.

Cyfleusterau / lluniaeth: Mae meysydd parcio am ddim â chyfleusterau i gael picnic a barbeciw. Mae tafarn y Black Lion, Abergorlech, sydd rownd y gornel o'r maes parcio, yn gyfleus dros ben i'r sawl sy'n beicio ar Lwybr Gorlech. Ym maes parcio Byrgwm mae caffi'r Sied i'r rheiny sy'n beicio Llwybr Raven neu Lwybr Derwen. Hefyd gerllaw mae'r Fforest Arms ym Mrechfa.

Cyrraedd yno: Mae Abergorlech ar y B4310 tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin ac 8 milltir i'r gogledd o Landeilo.

Llwybr Raven

Mae llwybr gradd du Raven yn enwog bellach am ei fod mor heriol, ac fe'i dyluniwyd gan Rowan Sorrel a Brian Rumble, felly mae'n sicr o fod at ddant y beiciwr mwyaf eithafol hyd yn oed. Bydd Llwybr Raven yn profi eich holl sgiliau, gan fod cynifer o ddisgynfeydd cyflym untrac rhwng y coed, neidiau ac ati, sy'n eich tywys i rannau mwyaf anghysbell y fforest. Bydd coed enfawr yn tyrru drosoch wrth i chi fynd fel cath ar dân drwy'r fforest, a cheir ambell lannerch â golygfeydd gwych o'r ardal wledig gyfagos. Mae wedi'i raddio'n ddu am reswm!

Gradd: Du – Difrifol

Hyd: 18.5km

Beic: Beic mynydd o safon

Man cychwyn/gorffen: Byrgwm

 

Llwybr Gorlech

Mae llwybr gradd coch Gorlech wedi'i enwi ar ôl y nant brydferth sy'n rhedeg drwy fforest Brechfa, ond peidiwch â gadael i hyfrytwch yr enw eich twyllo! Oes mae gennych olygfeydd gwych a choed enfawr, ond yn ogystal â'r lleoliad mae rhinweddau lu yn perthyn i Lwybr Gorlech gan gynnwys hynodrwydd technegol y llwybr ei hun. Mae Llwybr Gorlech yn galed, yn gyflym, ac yn wych ym mhob tywydd, a bydd y nodweddion technegol niferus a heriol yn profi eich sgiliau i gyd, ac mae hynny oll cyn wynebu'r ddisgynfa olaf! Ond does dim rhaid i chi ein credu ni, cymerwch gip ar yr adolygiadau!

Gradd: Coch – Anodd

Hyd: 19km

Beic: Beic mynydd o safon

Man cychwyn/gorffen: Abergorlech

Llwybrau Derwen

Mae dau lwybr Derwen yn cynnig rhywbeth arbennig! Llwybr beicio mynydd i'r teuluoedd mwyaf anturus! Mae'r llwybr wedi ei raddio'n wyrdd (hawdd) ond mae darn glas (cymedrol) hefyd. Mae'r llwybrau'n addas i deuluoedd sydd â rhywfaint o brofiad o feicio ac o feicio mynydd. Bydd y darn gwyrdd yn baratoad hwylus ar gyfer y darn glas, sydd ychydig yn fwy heriol. Mae Llwybr gwyrdd Derwen yn 9.2km o hyd tra bo'r un glas yn 4.7km o hyd, sef cyfanswm o 13.9km os byddwch yn beicio'r ddau. Yn wahanol i lwybrau gwyrdd eraill, nid yw Llwybr Derwen Brechfa i gyd ar ffyrdd y fforest, ceir darnau untrac sy'n rhan o'r goedwig Dderi, dringfeydd graddol, disgynfeydd hwyliog, a throeon a fydd yn gyflwyniad go iawn i heriau beicio mynydd, heb fod yn ormod o her! Mae dau fan gwych hefyd i stopio a mwynhau'r olygfa a hyd yn oed bwrdd picnic neu ddau. Dewch â'r teulu a dechreuwch ar y llwybr gwyrdd ac ewch ymlaen i'r glas.

Gradd: Gwyrdd – Hawdd a Glas – Cymedrol

Hyd: Gwyrdd 9.2km, Glas 4.7km

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, hynny yw beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Byrgwm