English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybrau Celtaidd

I ddarganfod yr Ysbryd Celtaidd

 


Darganfyddwch Lwybrau Celtaidd Gorllewin Cymru a Dwyrain Hynafol Iwerddon a byddwch yn dilyn ffyrdd llai cyfarwydd i wlad yr hynafiaid. Byddwch yn dod ar draws abatai coll, cerrig cysegredig ac adfeilion cestyll. Byddwch yn darganfod chwedlau'r Seintiau, cewri a thywysogion. Byddwch yn archwilio arfordiroedd gwyllt a mynyddoedd garw a fydd yn tanio eich ymdeimlad o antur. Byddwch yn dod o hyd i bentrefi lliwgar a threfi prysur lle mae pobl yn dal i gyfarch ei gilydd ar y stryd – boed yn gyfaill neu'n ddieithryn.

Dewch i weld sut mae'r gorffennol yn dylanwadu ar fywyd bob dydd yn ein cornelyn ni o'r ddaear.

 

 

Mewn chwedloniaeth Geltaidd, roedd canol gaeaf yn cael ei weld fel brwydyr dros y golau. Fe'i hymladdwyd rhwng Brenin y Celyn  oedd yn cynrychioli tywyllwch y gaeaf, a Brenin y Derw, oedd yn arwydd o oleuni'r gwanwyn a'r haf. Nawr, mae heuldro’r gaeaf wedi mynd heibio, mae'r golau'n ennill ac mae'n bryd edrych ymlaen.  Mae'r ffilm hon yn dathlu buddugoliaeth golau ac yn annog teithwyr i gynllunio ymweliad â Dwyrain Hynafol Iwerddon a Gorllewin Cymru yn 2022.

Y Bannau Celtaidd

lleoliadau lle byddwch chi'n dod o hyd i'r golygfeydd, y seiniau a'r straeon o luniodd ein rhan ni o'r byd.

Eiliadau Celtaidd

Y lleoedd lle mae'r cysylltiad â'r gorffennol, y tir â'r ysbryd yn cael ei ddwysáu.

Darganfyddiadau

profiadau a syniadau i'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch Antur Geltaidd eich hun