English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Yng Nghymru, rydym ni'n enwog am ein cestyll. Efallai nad yw hynny'n syndod. Mae'r tir hwn yn werthfawr a bu ymladd drosto ers canrifoedd. Yn Sir Gaerfyrddin, ceir nifer o gestyll. Mae gan bob un ei stori ei hun i'w hadrodd a phob un wedi'i adeiladu ar dirweddau neu forluniau dramatig. Heddiw, mae croeso mawr i ymwelwyr ac nid yw concro cestyll yn gymaint o her ag yr oedd yn yr oesoedd canol.

Ni fydd angen tarian ac arfwisg arnoch mwyach ond yn hytrach, byddai pâr o esgidiau cerdded cadarn ac o bosib, cot law i'ch amddiffyn rhag yr elfennau yn fwy defnyddiol.

Gellir dod o hyd i gestyll ledled y sir. Ar hyd yr arfordir, ceir Castell Talacharn, Cydweli a Llansteffan sy'n cynnig golygfeydd godidog dros Fae Caerfyrddin. Ar y mewndir, yn aml saif y cestyll uwchben dyffrynnoedd ac afonydd. Yma, ceir cadarnleoedd Dinefwr, Dryslwyn, Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin. O bosib, y castell mwyaf dramatig ohonyn nhw i gyd, ac yn sicr yr un sy'n ymddangos fwyaf mewn lluniau yw Castell Carreg Cennen. Saif Castell Carreg Cennen ar wyneb craig, yn edrych dros Afon Cennen a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Os nad oes diddordeb gennych mewn cestyll, beth am ymweld â thŷ hanesyddol neu blasdy? Yma, yn aml, mae'r straeon am orffennol diwydiannol Sir Gaerfyrddin ac mae'r gwrthdaro yn llai treisgar ond yr un mor ddiddorol.

Castell Dryslwyn 

Saif Castell Dryslwyn, sydd yn llecyn o bwys mawr ym meddyliau a thraddodiadau'r Cymry, yn ogoneddus ar ben bryncyn uwchlaw Dyffryn Tywi. Cysylltir y safle â thywysogion Deheubarth, sef teulu brenhinol de-orllewin Cymru.

 

Cyfleusterau

Castell Carreg Cennen 

Mae ymweliad â Charreg Cennen yn antur – nid lleiaf oherwydd yr olygfa o'r clogwyn 325 troedfedd y mae'r castell yn sefyll ar ei frig, a'r daith drawiadol ar hyd y rhodfa a naddwyd yn y graig ac sy'n arwain at ogof naturiol o dan yr amddiffynfeydd.

Cyfleusterau

Castell Dinefwr
Dinefwr Castle

Mae Castell Dinefwr yn un o gestyll y Cymry a dyma brif gadarnle Tywysogion Deheubarth. Mae'n un o'r safleoedd hanesyddol a diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. Saif y castell mewn 800 erw o barcdir ysblennydd sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyfleusterau

Kidwelly Castle
Kidwelly castle

Un o'r cestyll canoloesol mwyaf trawiadol a chyflawn ym Mhrydain, a godwyd gyntaf ar ffurf gwrthglawdd anferth ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif. Teulu'r de Chaworths gododd y castell cerrig cyntaf ac fe'i haddaswyd llawer yn ddiweddarach gan Ieirll Caerhirfryn.

Cyfleusterau

Castell Talacharn

Codwyd y castell yma yn gyntaf ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif a hynny ar ffurf gwrthglawdd. Ailgodwyd y castell ar ffurf castell cerrig ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg gan deulu Eingl-Normanaidd de Brian. Yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg trawsnewidiodd Syr John Perrot y castell yn balas Tuduraidd.

Cyfleusterau

Castell Llansteffan
Llansteffan castle

Mae adfeilion y castell hwn, a arferai fod yn ysblennydd, yn goruchwylio porth Afon Tywi. Codwyd y castell hwn ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif o fewn safle caer ar bentir o'r Oes Haearn. Cafodd ei ailadeiladu o garreg, a'i ddal gan deulu'r de Camvilles am y rhan helaeth o'r Oesoedd Canol.

Cyfleusterau

Castell Castellnewydd Emlyn

Mae'r adfeilion yn dyddio i gyfnod pan oedd Arglwyddi Normanaidd a Thywysogion Cymru yn cystadlu am oruchafiaeth yn y gornel hon o Gymru.  Saif yr adfeilion mewn llecyn gwyrdd, prydferth yn ymyl afon Teifi. Bu Syr Rhys ap Thomas, ffrind Harri'r VII, yn meddiannu'r castell ar un adeg.

Cyfleusterau

Castell Caerfyrddin

Ar un adeg, un o gestyll mwyaf Cymru ac yma roedd canolfan lywodraethu'r Normaniaid yn ne a gorllewin Cymru. Fe'i codwyd gan Frenin Harri I ar ffurf castell Mwnt a Beili gydag amddiffyniadau o bren cyn iddo gael ei addasu yn gaer o gerrig yn ystod y 13eg ganrif.

Cyfleusterau

Safleoedd treftadaeth eraill

Safleoedd treftadaeth eraill sy'n werth ymweld â nhw yn y sir yw Abaty Talyllychau, a sefydlwyd ar gyfer yr Urdd Bremonstratensaidd gan yr Arglwydd Rhys rhwng 1184 ac 1189. Mae'r llynnoedd yn dawel a'r dirwedd o amgylch yr abaty'n doreithiog. Hefyd ceir Castell Llanymddyfri, lle y saif cerflun bendigedig o 'Braveheart' Cymru, sef Llewelyn ap Gruffydd Fychan, ar dwmpath y castell. Mae Tŵr Paxton, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ffug-dŵr sy'n ifancach nag y mae'n edrych. Cafodd y tŵr Gothig trawiadol hwn ei godi ar Ystad Middleton rhwng 1808 ac 1815 a chafodd ei gysegru i'r Arglwydd Nelson. Mae'n werth ymweld â'r lle i weld golygfeydd godidog Dyffryn Tywi.

 

Historic Houses

Plas Dinefwr

Saif y plas hwn, sydd o'r 17eg ganrif ac sydd â ffasâd Fictoraidd, ar dir Parc a Chastell Dinefwr. Mae'r plas yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae bellach yn rhoi profiad ymarferol i'r ymwelwyr o ran sut beth oedd bywyd yn 1912. George a Cecil Rice ddyluniodd y dirwedd anhygoel o'r 18fed ganrif.

Cyfleusterau

Castell y Strade

Mae'r plasty urddasol hwn o Oes Fictoria yn berl cudd. Ond mae'n debygol eich bod eisoes wedi gweld rhannau ohono, gan ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu. Bellach, mae wedi ei adfer i'w hen ogoniant gan Patrick Mansel Lewis, ac mae ei deulu wedi bod yno ers 200 mlynedd.

Cyfleusterau

Plas Llanelly

Camwch yn ôl i 1714 gyda'r Arglwydd Stepney a'r Fonesig Stepney ar daith dywysedig. Cewch weld sut roedd y Sioriaid yn byw, gallwch glywed sut roedd y teulu Stepney wedi llunio tref Llanelli a chlywed yr hanesion tramgwyddus 'fyny grisiau a lawr grisiau' sy'n aflonyddu'r plas heddiw.

Cyfleusterau

Plasty Parc Howard

Gallwch fwrw golwg ar orffennol Llanelli a chasgliad 'Crochenwaith Llanelly' yn y plasty hanesyddol hwn sydd mewn parc 24 erw hyfryd. Cafodd y plasty ei godi yn 1885 gan y Buckleys, sef llinach bragu enwog o Lanelli. Rhoddodd y teulu Stepney ef i Lanelli yn 1912.

 

Cyfleusterau

Sir Gaerfyrddin – Gardd Cymru

Gerddi Gogoneddus