English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Dewch i archwilio teithiau creadigol gan wneuthurwyr lleol

MT Jewellery Ltd

Yr em yn y goron 

Os hoffech ymuno ag eiconau Cymreig megis Catherine Zeta-Jones, Michael Sheen a Bryn Terfel a chael eich darn arbennig eich hun o emwaith cyfoes, wedi'i wneud gan ddylunydd gemwaith sydd wedi ennill gwobrau, yna mae rhaid i chi ymweld â Llandeilo. Yng Ngwesty'r Castell byddwch yn dod o hyd i drysor o Gymru. Mae Mari Thomas wedi'i chynnwys yn y cyfeirlyfr mawreddog o ddylunwyr gemwaith blaenllaw ac mae hi wedi creu coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Beth am sbwylio'ch hun i un o ddyluniadau Mari, sy'n dwyn ysbrydoliaeth o ddiwylliant Cymru a nodweddion y dirwedd. Ewch â darn adref gyda chi o'r ystod sy'n seiliedig ar y gair 'cariad' neu 'cofio' i'ch atgoffa am Sir Gaerfyrddin.

MT Jewellery Ltd
Gwesty'r Castell, 113 Stryd Rhosmaen, Llandeilo SA19 6EN
www.marithomas.com
Ffôn: 01558 660001

• Gwasanaeth comisiynu unigol yn ôl y gofynion a'r gyllideb
• Mae'r oriel yn cynnwys casgliad gemwaith Mari Thomas ynghyd ag arddangosfa o dros 30 o ddylunwyr o Gymru ac yn rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau.
• Mwynhewch wylio Mari a'r gwneuthurwyr gemwaith eraill yn saernïo eu casgliadau yn y gweithdy gemwaith.

Gemwaith Quicksilver

Y lliw arian

Efallai mai Dylan Thomas yw mab enwocaf Talacharn, ond rhaid bod y gof arian Alby Barratt yn ail agos yn hyn o beth. Dro ar ôl tro mae ffyddloniaid lleol ac ymwelwyr rhyngwladol yn dychwelyd at Emwaith Quicksilver lle mae Alby wedi bod yn dylunio ac yn saernïo gemwaith unigryw ers bron 30 mlynedd. Dywedir bod arian yn perthyn i'r lleuad ac i lanw a thrai, felly hwyrach mai Talacharn a ddenodd Alby i Gymru, a dyma'r ysbrydoliaeth ar gyfer y modrwyau, y breichledau a'r cadwyni cain a hardd a wneir o arian â llaw. Dewiswch o blith detholiad mawr o gerrig hanner gwerthfawr a phenderfynwch sut yr hoffech iddynt gael eu gosod i greu eich darn unigryw.

Gemwaith Quicksilver
Kingston House, Stryd y Brenin, Talacharn SA33 4QE
www.quicksilverjewellery.co.uk
Ffôn: 01992 427700

• Ar un adeg roedd Dre-fach yn cael ei galw yn 'Huddersfield Cymru’
• Gall teuluoedd gael hwyl wrth ddilyn y llwybr a gynlluniwyd yn arbennig, 'Llwybr y Gynffon Wlanog'

National Wool Museum

Stori gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach, Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul SA44 5UP
www://amgueddfa.cymru/gwlan/
Ffôn: 0300 111 2333

Efallai y bydd yn eich synnu i wybod mai gwlân oedd y diwydiant pwysicaf a mwyaf eang yng Nghymru ar un adeg. Yn Amgueddfa Wlân Cymru ym mhentref pert Dre-fach yn Nyffryn Teifi (a oedd unwaith yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlân ffyniannus) gallwch dreulio amser, trwy gydol y flwyddyn, yn dod i wybod y stori gyfareddol honno. Melin y Cambria oedd yr Amgueddfa ar un adeg, a oedd yn gwneud crysau a siolau, blancedi, carthenni a hosanau a oedd yn cael eu gwerthu ar draws y byd. Dysgwch sut y caiff cnu'r ddafad ei droi'n ddefnydd. Gallwch weld tecstilau cyfoes yn cael eu cynhyrchu a Chasgliad Tecstilau Fflat Cenedlaethol Cymru. Dyma gyfle na allwch ei golli. Diwrnod mas gwych i'r teulu cyfan.

• Ar un adeg roedd Dre-fach yn cael ei galw yn 'Huddersfield Cymru’
• Gall teuluoedd gael hwyl wrth ddilyn y llwybr a gynlluniwyd yn arbennig, 'Llwybr y Gynffon Wlanog'