English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Anturiaethau Golau lleuad

Yn Sir Gaerfyrddin, nid yw darganfod y gorffennol yn ymwneud yn unig â dysgu am hanes. Yn un o'n safleoedd Awyr Dywyll, gallwch edrych i fyny ac edrych yn ôl 2.5 miliwn o flynyddoedd. Dyna faint o amser mae hi wedi cymryd i olau Seren y Gogledd, yr Orïon a'r Aradr gyrraedd Sir Gaerfyrddin. Gallwch chi gyrraedd yma llawer cyflymach gan fod Sir Gaerfyrddin yn syth ar ddiwedd yr M4.

I'r gogledd o'r sir, mae Mynyddoedd Cambria, yma gallwch brofi Llwybr Gyrru Astro, sy'n 50 milltir o hyd. Mae'n uno safleoedd yn Sir Gaerfyrddin â safleoedd newydd yn siroedd cyfagos Ceredigion a Phowys. Mae Canllaw Awyr Dywyll Mynyddoedd Cambria yn sôn mwy am hyn. I'r dwyrain o'r sir, cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2013 - y pumed lle yn unig yn y byd i ennill y teitl arbennig hwn - mae'r diffyg llygredd golau yma yn golygu y ceir golygfeydd gwych o'r Llwybr Llaethog.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw'r ardd fotaneg gyntaf i gael ei dynodi'n Safle Darganfod Awyr Dywyll. Yma, gallwch fwynhau noson gyda'r sêr, yn un o'i partïon gyda'r sêr. Cewch wrando ar arbenigwyr sêr-ddewiniaeth, profi perisgopau pwerus a syllu i'r gorffennol.

Mewn storïau a straeon tylwyth teg, mae'r anturiaethau mwyaf cyffrous yn digwydd yng ngolau'r lleuad. Dewch yn y nos i ddarganfod ochr wahanol i Sir Gaerfyrddin!

Wybren y nos yw un o bleserau mwyaf y gaeaf. Wrth iddi nosi'n gynt ac wrth i'r awyr fynd yn dywyll am hirach, mae'r lleoedd awyr dywyll yn Sir Gaerfyrddin yn dod yn fyw. Dyma rai o'r lleoedd gorau i weld y sêr.

  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - Safle Darganfod Awyr Dywyll (dosbarth Llwybr Llaethog yn cynnal digwyddiadau)
  • Llanllwni - Mynydd Llanllwni, golygfeydd godidog yn ystod y dydd a'r nos (SN 507389)
  • Llyn Brianne / Maes Parcio ym Mhen Uchaf Dyffryn Tywi ger argae Llyn Brianne (SN 793484)
A wyddech chi?

Mae Mynyddoedd Cambria wedi lansio Canllaw Awyr Dywyll newydd i helpu ymwelwyr i gael cipolwg ar Orïon, yr Aradr a Seren y Gogledd yn ogystal â llwybr gyrru seryddol 50 milltir. Mae'r llwybr hwn yn ymuno safleoedd newydd yn Sir Gaerfyrddin â safleoedd newydd yng Ngheredigion a Phowys gerllaw.

Llwybr gyrru seryddol

 

Cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2013, dim ond y pumed lle yn y byd i ddal y teitl mawreddog. Mae'r diffyg llygredd golau yma yn golygu bod golygfeydd disglair o'r Llwybr Llaethog.

Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Sir Gaerfyrddin 

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru oedd yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i gael ei choroni'n Safle Darganfod Awyr Dywyll, ac mae'n siŵr y byddwch yn meddwl bod hynny'n beth da i'r planhigion, ond dim o reidrwydd ichi fel ymwelwyr yn ystod y dydd ... ond meddyliwch eto! Mae'r ardd yn cynnal Parti'r Sêr, arbennig, sy'n cynnwys arbenigwyr ym maes seryddiaeth, telesgopau pwerus a sgyrsiau diddorol iawn. Bydd y Parti nesaf yn cynnwys craffu ar graterau'r lleuad a darganfod Iau, y Nifwl Orïon a rhagor o hynodion cosmig.

Astro Events

 

 

Dewch o hyd i wersyllfa yng nghefn gwlad, yn bell o oleuadau disglair y ddinas, a mwynhau rhyfeddod y tywyllwch. https://www.darkskiescamping.wales/ 

 

Ar noson glir, sbïwch yn yr awyr yn ddigon hir ac fe welwch chi sêr gwib, a hyd yn oed seren gynffon.

Rhowch eich cot amdanoch, cydiwch yn eich camera a phrofwch fyd cyffrous ffotograffiaeth yn ystod y nos. Cofiwch ein tagio ni ar Facebook ac Instagram #Dymasirgâr

Mwynhewch yr olygfa ar daith syllu ar y sêr yn ystod y nos yn y Bannau gyda Hawk Adventures; dewch o hyd i'r llefydd gorau i weld y gwahanol gytserau ac, os ydych chi'n ffodus, cewch gip-olwg clir ar gawod o sêr gwib.

Dewch ar Daith Gerdded Ystlumod ym Mharc Dinefwr i ddarganfod hynt a helynt byd natur y nos. Mae'r teithiau hyn, sy'n cael eu harwain gan geidwaid, yn defnyddio offer arbennig i wrando ar ystlumod, a hynny er mwyn ichi gael y profiad gorau posibl o greaduriaid diddorol y nos.

Yn ogystal â theithiau syllu ar y sêr, mae Hawk Adventures hefyd yn cynnal teithiau cerdded yn y goedwig i'r rheiny ohonoch sydd wir yn ddewr. Byddwch yn fwy effro o lawer wrth i chi fentro i Fforest Brechfa ar ôl iddi nosi, a dilyn llwybrau sydd fel y fagddu ar adegau.