Ewch i'r Gorllewin am y Gwanwyn
Ffres, persawrus, a ffyniannus. Dyma'r geiriau sy'n aml yn gysylltiedig â'r gwanwyn ac maent yn ddisgrifiad da o Sir Gaerfyrddin yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r gwanwyn yn gyfnod o ailddeffro ac adnewyddu. Does unman well i ymlacio a chael egni newydd na'n sir hardd, flodeuog a gwefreiddiol, ar ddiwedd yr M4.
Mae'n amser dilyn yr haul a theithio tua'r gorllewin. Mae'r gwyntoedd ysgafn o'r Iwerydd yn golygu bod y gwanwyn yn cyrraedd ychydig yn gynt yn y gorllewin na llawer o lefydd eraill yn y DU. Daw'r gwyntoedd â chynhwysion ar gyfer bywyd newydd: cynhesrwydd a dŵr gan sbarduno tymor newydd hyfryd a bywiog.
Adnewyddwch eich corff ar ôl gaeafgysgu. Llenwch eich ysgyfaint ag awyr iach wrth i chi grwydro'r mynyddoedd yng ngogledd y sir. Yng ngwarchodfa Gwenffrwd-Dinas yr RSPB gallwch gerdded drwy'r carped o glychau'r gog yn y Coedwigoedd Glaw Celtaidd. Yna ewch am daith fer i fyny i ogof Twm Siôn Cati, sef cuddfan honedig yr enwog Twm Siôn Cati.
Ar ôl yr holl gerdded bydd angen bwyd iach arnoch chi i'ch paratoi ar gyfer yr antur nesaf yn Sir Gaerfyrddin. Felly, byddwch yn falch o glywed bod y marchnadoedd a'r bwytai yr adeg hon o'r flwyddyn yn llawn llysiau gwyrdd, shibwns, berwr, betys a moron wedi'u tyfu'n lleol.