English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llanymddyfri

Mae chwedlau a hanes wrth wraidd y dref farchnad hyfryd hon ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n cael ei hamgylchynu gan fynyddoedd mawreddog, coetiroedd deiliog a rhaeadrau hudol gan sicrhau bod golygfa drawiadol ym mhob cyfeiriad. Mae llawer o'r farn mai pen gorllewinol y Bannau, sydd o fewn Sir Gâr, yw'r gwir drysor, ac mae'n gartref i lawer o'r rhannau o'r parc cenedlaethol sydd wedi'u harchwilio lleiaf.

Mae Llanymddyfri yn dref farchnad bert a thawel dyddiau hyn ond meddyliwch am y 30,000 o anifeiliaid a arferai basio drwy'r dref bob blwyddyn ar eu ffordd i farchnadoedd pell. Rhoddwyd llawer o gyfoeth yng ngofal y porthmyn, eu cynorthwywyr a'u cŵn. Heddiw, byddwch yn aml yn gweld math gwahanol o deithiwr – beicwyr modur yn mynd i'r dref ar gyfer yr hufen iâ yng nghaffi'r West End! Saif cerflun bendigedig o 'Braveheart' Cymru, sef Llewelyn ap Gruffydd Fychan, ar dwmpath Castell Llanymddyfri

Fodd bynnag, y peth gorau am Lanymddyfri yw ei lleoliad rhagorol; ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae'n fan canolog perffaith ar gyfer crwydro rhan orllewinol y parc. Gan ei bod yn agos iawn i'r Mynydd Du, Coedwig Crychan, Cwm Rhaeadr, Afon Tywi a Chronfa Ddŵr Wysg, mae'n lle delfrydol ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth, ac mae'n baradwys i'r rhai sy'n dwlu ar natur.

Bydd pawb sy'n dwlu ar hanes a chwedlau hefyd yn mwynhau'r dref farchnad ddeniadol hon, oherwydd ei threftadaeth porthmona; heddiw gallwch deimlo'r dreftadaeth honno yn y dref. Ac, yn ogystal â bod yn gartref i olion Castell Llanymddyfri o'r 12fed ganrif, mae hefyd yn hen gartref Llywelyn ap Gruffydd Fychan, un o gefnogwyr allweddol Owain Glyndŵr, dewis y bobl i fod yn Dywysog Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Tref farchnad llawn cymeriad a hanes; o wrthryfel Owain Glyndwr yn y 15fed ganrif, i dreftadaeth porthmona'r 19eg ganrif, pan basiodd filoedd o anifeiliaid drwy'r dref ar eu ffordd i farchnadoedd pell.

Er bod y porthmyn wedi rhoi'r gorau i'w masnach erbyn hyn (ynghyd â'r rhan fwyaf o'r 100 o dafarndai a wasanaethodd y gymuned hon!), mae amaethyddiaeth wedi parhau'n rhan bwysig o'n cymdeithas. Cefais fy magu ar fferm, tua 10 milltir i'r gogledd o Lanymddyfri; yn nhroedfryniau mynyddoedd Elenydd, cyn treulio dwy flynedd gofiadwy yn astudio yng Ngholeg Llanymddyfri; yr ysgol breswyl o ganol y 19eg ganrif yng nghanol y dref.

Rhodri with International Welsh rugby player Wyn Jones.

C-Dd: Rhodri gyda chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Wyn Jones.

Ar ôl chwarae rygbi dros Lanymddyfri yn fy mlynyddoedd iau, aeth y gamp â mi i bob cwr o'r byd. Ond does unman yn debyg i gartref, a dyna pam y penderfynodd fy ngwraig a finnau ddychwelyd i Ddyffryn Tywi, tua chwe blynedd yn ôl, i fagu ein teulu.

Mae'n rhan brydferth o'r byd, felly dyma fy rhestr o'r pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud a'u gweld yn ystod penwythnos yn Llanymddyfri a'r ardal gyfagos!

 

Sut i dreulio penwythnos yn Llanymddyfri - Rhodri Gomer Davies

Mae lleoliad y dref - ar hyd glannau afon Tywi, sy'n gwahanu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria – yn ei gwneud yn ganolfan wych ar gyfer archwilio'r ardal gyfagos. Mae hefyd yn hawdd ei chyrraedd, gan ei fod yn 90 munud o Gaerdydd, Abergwaun, Aberystwyth a Henffordd.

Os ydych chi'n cyrraedd nos Wener, mae digon o opsiynau llety gwely a brecwast hyfryd yn y dref, neu os ydych chi eisiau aros mewn gwesty, mae Gwesty'r Castell yn ddelfrydol. Wrth i chi gyrraedd, gadewch i ddychymyg eich plant redeg yn wyllt, wrth iddynt archwilio adfeilion y castell o'r 13eg ganrif drws nesaf!

Efallai eich bod yn chwilio am breifatrwydd llety hunanarlwyo, neu brysurdeb safle gwersylla a charafanau? Mae Llanymddyfri a'r ardal gyfagos yn cynnig popeth. Amrywiaeth eang o opsiynau llety sy'n addas i anghenion pawb.

Dydd Sadwrn Delfrydol

Ym mhob man yn Llanymddyfri, mae'r dirwedd yn drawiadol. I'r de, mae parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn boblogaidd iawn ymhlith twristiaid. O fewn 45 munud yn y car, gallwch gyrraedd Pen-y-fan, y copa uchaf yn ne Prydain. Neu os ydych chi eisiau mynd i rywle tawelach, beth am ymweld â Llyn y Fan, sy'n llai poblogaidd ymhlith twristiaid (ond yn fwy hardd!)? Mae'r paradwys fach hon yn un o gyfrinachau gorau Cymru. Llyn naturiol, sy'n gorwedd yng nghysgodion dramatig Fan Brycheinog a Bannau Sir Gâr, dim ond ugain munud o Lanymddyfri.

Ar ôl 40 munud o gerdded, byddwch chi'n cyrraedd y llyn, lle gallwch weld cudyll coch, barcudiaid coch a bodaod uwchben. Mae'r golygfeydd yn wirioneddol hudolus yno, fel y mae llawer o'r chwedlau; megis Morwyn y Llyn, a briododd fab ffermwr lleol, ac y daeth eu plant yn feddygon enwog Myddfai.

Ond peidiwch â stopio wrth y llyn! Ar ôl cerdded am 40 munud arall, byddwch chi'n cyrraedd brig Fan Brycheiniog lle mae'r golygfeydd 360 gradd yn anhygoel! Os ydych chi'n teimlo'n ddigon egnïol, beth am fynd i lawr a gorffen drwy gerdded o amgylch Llyn y Fan Fawr (y mwyaf o'r ddwy lyn), cyn dychwelyd i'ch car?

Gan eich bod yn yr ardal, galwch heibio i'r ganolfan bwydo barcudiaid coch ger Llanddeusant ar eich ffordd yn ôl. Cuddfan wedi'i hadeiladu'n arbennig i weld adar ysglyfaethus enwocaf Cymru yn cael eu bwydo bob dydd. Dirywiodd poblogaeth y barcudiaid coch o ganlyniad i erledigaeth a chasglu wyau, ond fe'i hailgyflwynwyd yn llwyddiannus yn y 1990au ac mae bellach yn ffynnu unwaith eto, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru. Mae bwydo'n digwydd bob dydd am 3pm yn ystod yr haf, neu 2pm pan fydd y clociau'n mynd yn ôl am y gaeaf.

Os yw eich lefelau egni ychydig yn isel, beth am ddal trên tua'r gogledd ar hyd rheilffordd Calon Cymru tuag at Amwythig? Yr unig reilffordd yng nghanolbarth Cymru i osgoi toriadau Beeching yn y 1960au, mae'n wledd i'r llygaid, gyda golygfeydd godidog ar draws y dirwedd hardd. Ond rhywbeth a wnaed gan ddyn fydd yn siŵr o'ch syfrdanu, sef Traphont Cynghordy. Pont reilffordd y 19eg ganrif, 18 bwa, sy'n sefyll dros 30 metr uwchben y ddaear.

Gwledda fel y bobl leol

Cofiwch gael cinio yng Ngwesty'r Castell ar ôl i chi ddychwelyd. Terîn cig coesgyn mochyn, wy selsig a Cheddar Cymreig cryf, wedi'i weini ag amrywiaeth o siytni. Neu beth am The Old Printing Office ar draws y ffordd? Mae adeilad 400 mlwydd oed, sy'n gartref i un o'r gweisg argraffu hynaf yng Nghymru, ond sydd bellach yn gweini amrywiaeth o brydau cartref a chacennau fydd pawb yn eu mwynhau.

Crwydro siopau

Un o atyniadau Llanymddyfri yw ei hamrywiaeth o siopau annibynnol. Gallwch chwilio am drysorau mewn siopau hen bethau, bwyta bara, cacennau, sgons a thoesenni ffres o The Patisserie, ac ewch i galon sgwâr y farchnad ddydd Sadwrn olaf pob mis ar gyfer cynnyrch lleol ffres ym marchnad y ffermwyr. Trefnwch eich ymweliad i gyd-fynd â dydd Sadwrn olaf y mis, ac ewch i farchnad y ffermwyr sy'n cael ei chynnal yng nghanol y dref, o dan gysgod neuadd y dref eidalaidd a adeiladwyd 19eg ganrif.

Mae gan y tafarndai ran arbennig i'w chwarae yn hanes Llanymddyfri; yn y gorffennol, roedd mwy na chant ohonynt yn y dref! Er bod y mwyafrif llethol bellach wedi cau, mae digon o leoedd eraill i gael diod; megis The Bluebell Inn, Gwesty'r Plough a'r Arglwydd Rhys, lle gallwch roi cynnig ar y cwrw Cymreig gorau, fel Gower Gold, yn ogystal â chwrw gan fragwyr lleol gan gynnwys Brecon Brewing a Glamorgan Brewing Co.

Dydd Sul - Diwrnod Gorffwys?.... neu efallai ddim

Os ydych chi'n dwlu ar feicio (ac mae gennych ddigon o egni ar ôl dydd Sadwrn!) gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â'ch beic! Mae Llanymddyfri yn berffaith i feicwyr; y cyrchfan perffaith ar gyfer archwilio Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria (neu Fynyddoedd Elenydd i ddefnyddio'r enw Cymraeg go iawn). Gan eu bod mor anghysbell, gelwir Mynyddoedd Elenydd hefyd yn wylltir olaf Cymru, gan ymestyn ar draws bron i 500 milltir sgwâr o dir tenau ei boblogaeth, o Pumlumon yn y gorllewin, i Goedwig Maesyfed yn y dwyrain a Mynydd Mallaen i'r de; mae'n sicr yn baradwys i feicwyr!

Cyn cychwyn, beth am siarad â'r clwb beicio lleol, sef Clwb Seiclo Llanymddyfri, ar Facebook? Bydd yr aelodau gwybodus yn siŵr o'ch cyfeirio i'r lle cywir! Byddai fy hoff lwybr yn mynd â mi tuag at Langadog, wedyn i fyny a thros y Mynydd Du; un o'r dringfeydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Neu dewiswch gael dydd Sul mwy hamddenol. Prynwch frechdanau a danteithion blasus o La Patisserie, cyn pacio'r car a mynd i Ddyffryn Tywi ar gyfer picnic gan edrych dros Lyn Brianne; cronfa enfawr a gwblhawyd ar ddechrau'r 1970au, i ddarparu dŵr i lawer o dde Cymru.

Ar ôl i chi ddychwelyd, cofiwch stopio yng Ngwarchodfa Natur Dinas yr RSPB ar lannau afon Tywi. Gall pobl sy'n mwynhau gwylio adar weld y barcudiaid coch, y gwybedogion brith y siglenni llwyd a'r tingochiaid uwchben. Oddi yno, dilynwch y llwybr pren a dringo i fyny i'r coetir, i chwilio am Ogof Twm Siôn Cati; arwr gwerin Cymru o'r 16eg ganrif (yn aml yn cael ei gymharu â Robin Hood), a arferai guddio oddi wrth yr awdurdodau yn y bryniau pert hyn.

 

Mae croeso cynnes Cymreig yn aros yn Llanymddyfri. Efallai nad yw ein tref yn uchel ar restr pobl o leoedd i ymweld â nhw, ond bydd yn cael ei hychwanegu! Mae gan y dref bopeth sydd ei angen ar gyfer penwythnos cofiadwy, a byddem yn fwy na hapus i'w rhannu gyda chi!

 

Cyfle Gwych

Dim ond 20 munud yn y car o Lanymddyfri yw'r unig fwyngloddiau aur Rhufeinig hysbys yn y DU; Mwyngloddiau Aur Rhufeinig Dolaucothi. Maen nhw'n cael eu cynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn, a gall ymwelwyr fynd o dan y ddaear ar deithiau tywys i ganfod sut y defnyddiwyd mwyngloddiau aur o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Gallwch hyd yn oed chwilota am aur!

Cerdyn Post Perffaith

Ac os ydych chi'n chwilio am bentrefi pert sydd heb eu difetha, sy'n adlewyrchu gwir fywyd Sir Gaerfyrddin, ewch i bentref bychan Cwm Du – y bu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn helpu i'w gadw – a mwynhewch ei fwyty a'i far cyn mynd am dro yn y cefn gwlad hyfryd o'i amgylch.

Yn dymuno eich bod chi yma

P'un a ydych am aros mewn eiddo hunanarlwyo o ansawdd uchel, safleoedd gwersylla a pharciau carafannau, neu westai a thai llety annibynnol rhagorol, mae gan Lanymddyfri gymysgedd cyfoethog ac amrywiol i ddewis ohonynt.

Gweld pethau i'w gwneud yn Llanymddyfri a Bannau Brycheiniog

Cliciwch yma