Y Gât
Drwy’r pandemig Coronafeirws mae iechyd a llesiant ein cwsmeriaid a’n staff wedi parhau i fod yn brif flaenoriaeth inni.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno cyfyngiadau pellach mewn ymateb i’r cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19 yng Nghymru, bydd Y Gât, Sanclêr yn parhau ar gau hyd nes y rhoddir gwybod fel arall.
Canolfan Crefftau Gorllewin Cymru
Mae'r adeilad cerrig ysblennydd hwn sydd yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac a oedd ar un adeg yn felin ac wedyn yn siop nwyddau i ffermwyr, yn parhau i fod yn ganolbwynt tref Sanclêr. Mae'r adeilad nodedig hwn wedi cael ei newid a'i addasu'n ddiweddar er mwyn darparu oriel a chanolfan arddangos, siop, ystafelloedd cynadledda / cyfarfod, stiwdios artistiaid, yn ogystal â chaffi a llyfrgell Sanclêr.
Yn ogystal ag ennill gwobr "Trysor Cudd" Croeso Cymru am sawl blwyddyn yn olynol, cafodd yr adeilad ei ddisgrifio hefyd yn "atyniad sy'n darparu profiadau arbennig a chofiadwy i ymwelwyr".
Mae'r adeilad cyfan yn hygyrch i bawb ac mae Wi-Fi am ddim ar gael ym mhob man.
Oriau Agor Y Gât:
Dydd Llun i Dydd Gwener – 9:00am – 4:00pm
Dydd Sadwrn - 9:00am – 3:00pm
Dydd Sul - AR GAU
Mae'r Llyfrgell at agor pob dydd, ond mae staff ddim ond ar gael:
Dydd Mawrth - 1:00pm - 4:30pm
Dydd Iau - 1:30pm - 4:30pm
Dydd Gwener - 9:00am - 11:30am
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn Y Gât, dilynwch ni ar Facebook

Cysylltwch a Ni
Ffoniwch: 01267 224963
Ebostwich: YGat@sirgar.gov.uk
Y Gat, Heol Pentre,
Sancler, Sir Gaerfyrddin,
Cymru, SA33 4AA
Yr Oriel a'r Siop



Mae'r man adwerthu a'r man arddangos yn pwysleisio celf, crefftau a gwneuthurwyr o Gymru, rhai newydd a rhai sydd wedi ennill eu plwyf, gan eu galluogi i arddangos eu gwaith.
Mae'r oriel yn cynnal 8 o arddangosfeydd bob blwyddyn sy'n amrywio o ddyfrlliwiau, gwaith cerameg, printiau a ffotograffau i decstilau. Mae'r artistiaid a llawer o gyflenwyr y siop yn cael eu dewis o Dde Cymru yn bennaf.
Mae'r siop yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion gwreiddiol a gwahanol gan gynnwys gemwaith, gwaith cerameg, mêl lleol a gwaith metel yn ogystal â dewis da o grochenwaith sy'n cael ei greu ar y safle.
Caffi




Ers lansio'r caffi yn 2018, mae'r ddewislen wedi cael ei datblygu i apelio at amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae'r caffi yn falch o gael sgôr hylendid 5 seren.
Heddiw, mae'n gwerthu amrywiaeth o fyrbrydau ysgafn, teisennau cartref, salad a diodydd gan gynnwys Te Cymreig arbennig.
Hefyd, mae'r caffi yn cynnig gwasanaeth arlwyo i gleientiaid sy'n defnyddio'r ystafelloedd cyfarfod, o de a choffi i fwffes poeth ac oer.
Ystafelloedd Cyfarfod

Yn ogystal â llyfrgell Sanclêr a Chyngor Tref Sanclêr, mae dwy ystafell gyfarfod ar y llawr cyntaf sydd ar gael i'w llogi ynghyd â lolfa ar wahân. Mae'r ddwy ystafell wedi’u hofferu’n llawn ac mae Wi-Fi ar gael ym mhob rhan o'r adeilad.
Taf
Mae ein hystafell gynadledda wych â seddi ar gyfer hyd at 14 o bobl ar ffurf ystafell bwrdd ac mae'n berffaith ar gyfer cyfarfodydd staff, cynadleddau a diwrnodau hyfforddiant. Mae ein cyntedd agored yn gallu cael ei ddefnyddio yn ystod egwyl eich cyfarfodydd hefyd.
Dewi
Mae ein hystafell gyfarfod â seddi ar gyfer hyd at 25 o bobl ar ffurf theatr ac mae'n hyblyg o ran newid cynllun yr ystafell. Mae ein cyntedd agored yn cael ei ddefnyddio yn ystod egwyl eich cyfarfodydd hefyd.
Mae ein caffi ar y safle yn gallu bodloni unrhyw ofynion arlwyo.
Stiwdios Artistiaid

Ar ail lawr yr adeilad mae stiwdios artistiaid ar gael i'w rhentu/llogi (os oes rhai'n wag).
Mae cyflenwad dŵr, trydan, man ffôn a Wi-Fi ym mhob stiwdio.
Rydym yn cynnig cyfraddau cymaradwy ac amserlenni hyblyg o ran llogi.
P'un a ydych yn ddylunydd, yn grefftwr neu'n artist sy'n chwilio am leoliad perffaith yn ardal Sanclêr, mae'r chwilio ar ben!