English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llyn Llech Owain

Parc Gwledig Llyn Llech Owain

Llecyn 73 hectar (180 erw) yw Parc Gwledig Llyn Llech Owain, o dan reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, lle ceir llwybrau natur, ardal antur sy'n cynnwys maes chwarae antur pren gwych, lle chwarae ar wahân i blant bach â nodweddion llai. Trwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded neu feiciau hirach o amgylch y parc gwledig ac mae llwybr beiciau mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy anturus yn eich plith! Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mewn mannau eraill, ceir llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail ac mae llecynnau o goetiroedd conwydd yn cael eu clirio a'u haddasu'n weundiroedd a choetiroedd llydanddail. Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel.

Dyma fan sydd o ddiddordeb hanesyddol ac efallai yr hoffai blant wybod yn ôl y chwedl, mai Owain Lawgoch oedd yn gofalu am y ffynnon ar fynydd Mynydd Mawr. Bob dydd ar ôl cael digon o ddŵr i'w hunan a'i geffyl, roedd Owain o hyd yn ofalus iawn i roi'r llechfaen yn ôl yn ei le er mwyn dal y dŵr i mewn. Fodd bynnag, un tro, fe anghofiodd y cwbl am wneud hyn a llifodd y dŵr fel afon i lawr ochr y mynydd. O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe'i henwyd yn Llyn Llech Owain!

Saif y Ganolfan Ymwelwyr wrth ymyl y llyn ac o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos. Yn y Ganolfan, ceir arddangosfa a gwybodaeth ynghylch rheolaeth y Parc Gwledig. Mae ein tîm o Barcmyn Cefn Gwlad yn gweithio yma a byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau neu glywed am unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld.

Mae gan Lyn Llech Owain safleoedd picnic, a thoiledau ynghyd â darpariaeth ar gyfer pobl anabl. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ymweliad â'r lle cyn bo hir!

Maes chwarae

Mae'r maes chwarae sydd newydd eu hadnewyddu yn fwy hygyrch i bawb ac yn cynnwys offer hygyrch

Ni chaniateir cŵn yn y parciau Antur, ond mae meinciau picnic i chi ymlacio a mwynhau awyrgylch y parc tra bod y plant yn rhyddhau eu hegni.

I archebu Hwb Gwaith Llesiant

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn cynnig Hwb Gwaith Llesiant gwych yn y Tŵr Darganfod sydd ar gael i'w logi am ddim i grwpiau neu unigolion gyfarfod a mwynhau'r natur wych o'ch cwmpas gan edrych allan i'r llyn ysblennydd yn y Parc Gwledig, neu fel arall, os hoffech gyfarfod â mwy na'r nifer sy'n gallu bod yn yr ystafell neu os hoffech gyfarfod y tu allan yn yr awyr iach, mae gan y parc loches gyfarfod yn yr awyr agored y gallwch ei defnyddio hefyd.

Mae'n debyg bod gweithio mewn amgylchedd naturiol yn hybu llesiant a chynhyrchiant, felly mae'r amgylchedd tawel sydd yma ar lan y dŵr yn ddelfrydol.

Parcio

1 Awr - £1.20

Hyd at 2 awr - £1.80

Hyd at 4 awr - £2.80

Dros 4 awr (aros hir / trwy'r dydd) - £3.30

Blynyddol - £30.00

Ar gyfer trwyddedau parcio Parc Gwledig Llyn Llech Owain, ni ddylai cerbydau fod yn fwy na 3.5 tunnell o bwysau gros; Rhaid i gerbydau fod yn llai na 2 fetr (6 troedfedd 8 modfedd) o uchder; Cerbydau wedi'u hadeiladu'n unig ar gyfer cludo dim mwy nag 8 teithiwr heb gynnwys y gyrrwr

*Ni chaniateir parcio dros nos