English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Ffurflen Addewid

Bydd eich addewid i helpu gyda newid yn yr hinsawdd yn gwneud gwahaniaeth.

A wyddech chi...…

> Rhwng 1900 a 2009, cafwyd cynnydd o 0.7 gradd Celsius yn nhymheredd arwyneb cyfartalog y Ddaear. (1.3 gradd Fahrenheit)

> Mae 90% o wyddonwyr yn cytuno bod y newid presennol hwn yn ein hinsawdd yn cael ei achosi gan bobl.

> Digwyddodd y tymheredd poethaf dros y 100 mlynedd diwethaf ar ôl y flwyddyn 2000 (ac eithrio 1998).

Mae newid yn yr hinsawdd yn wahanol i newidiadau tymhorol yn y tywydd, fel y gaeaf neu'r haf neu'r tymor glawog. Mae newidiadau yn yr hinsawdd yn arwain at newid hirdymor yn y tywydd mewn rhanbarth, fydd yn para am ddegawdau neu hyd yn oed filoedd o flynyddoedd. Mae newidiadau tywydd mewn man penodol yn normal ac yn lleol - ond dylai hinsawdd yr ardal honno aros yr un fath. Ni ddylai fod eira yn y gwledydd trofannol, ac yn Alaska byddai'n rhyfedd pe bai'r tywydd yn drofannol yn sydyn.

Pam ddylen ni becso am newid hinsawdd?

Pan fydd yr hinsawdd yn newid, bydd bywyd fel rydym ni'n ei adnabod yn hollol wahanol. Dyma rai o effeithiau posibl cynhesu byd-eang.

> Wrth i'r iâ yn y capiau pegynol a'r rhewlifau doddi, bydd hynny'n achosi cynnydd yn lefelau'r môr. Gan fod y rhan fwyaf o'n dinasoedd mawr yn yr ardaloedd arfordirol, bydd y llifogydd yn effeithio ar filiynau o bobl.

> Bydd y tywydd hefyd yn dod yn fwy eithafol wrth i'r blaned gynhesu. Bydd stormydd cryfach, sychder a gaeafau oerach.

> Bydd newidiadau yn y tywydd yn effeithio ar ein hiechyd gan fod ein cyrff wedi addasu i'r tywydd rydym yn ei adnabod.

> Bydd ecosystemau'n cael eu heffeithio a bydd bywydau llawer o rywogaethau yn cael eu peryglu. Bydd Pengwiniaid ac Eirth Gwynion yn marw os bydd y rhew yn toddi gan nad ydynt yn gallu byw yn unman arall. Bydd planhigion ac anifeiliaid mewn rhanbarthau trofannol yn darfod os bydd eu rhanbarth yn mynd yn rhy oer yn sydyn.

Beth allwch chi ei wneud?

Gallwn geisio lleihau ein Hôl-troed Carbon yn ein ffyrdd bach ein hunain.

> Os gallwch gerdded i gyrchfan neu gymudo, peidiwch â defnyddio'r car.

> Ailddefnyddio, Arbed ac Ailgylchu. Ceisiwch beidio ag anfon gormod o wastraff i'n safleoedd tirlenwi.

> Prynwch cynhyrchion y gellir eu hailgylchu yn unig.

> Prynwch gan gwmnïau a gweithgynhyrchwyr sy'n gwerthfawrogi'r amgylchedd.

Fy Addewid