English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Tŵr Paxton

Lleoliad picnic

Er mwyn bod yng nghanol golygfeydd ardderchog Dyffryn Tywi, mae'n werth mynd am bicnic gaeafol ger Tŵr Paxton. Mae'r maes parcio sy'n agos i'r tŵr yn golygu nad oes angen cerdded yn rhy bell ac mae digonedd o borfa i osod eich blanced. Mae'r ffug-dŵr Neo-Gothig hwn, a adeiladwyd gan William Paxton rhywbryd rhwng 1805 a 1808 i gynllun Samuel Pepys Cockerell, er cof am yr Arglwydd Nelson ac ar fryncyn ger Llanarthne ac yn edrych dros Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Bellach, mae'r tir yn cael ei gynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyngor am bicnic: Gall fod yn wyntog yma felly ewch â chot wrthwynt gyda chi!

Sut i gyrraedd: Ar hyd y ffordd rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin (B4300). Mae'r arwydd i droi yn Llanarthne.

Taith gerdded a awgrymir: Nantgaredig 

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:

Wrights Food Emporium 
Mae'n cynnwys darnau o quiche Wrights, tybiau o salad ffres y gaeaf (raddichio, afalau a chnau cyll wedi'u trochi mewn llaeth enwyn), salami Charcutier, caws Teifi, cracers cartref, rholiau selsig Wrights, sudd afal Cymreig neu seidr Skyborry, fflasg o gawl tymhorol, fflapjac a bar o siocled granola Nom Nom. Pris: £40 am ddau berson - rhoddir y bwyd mewn basged (i'w dychwelyd) gyda chyllyll a ffyrc tafladwy. Gall eitemau ychwanegol gynnwys coffi, gwin a chacen, neu mae modd teilwra eich basgedi hefyd.

 

Hamper from Wrights Food Emporium

Ble i aros:

Gwely a Brecwast - Nid yw Llwynhelyg yn llety cyffredin! Mae gan y Tŷ Gwledig urddasol a chyfoes hwn dair ystafell wely foethus a llu o wobrwyon.

Hunanarlwyo-  - Mae Tŷ Pencnwc yn ffermdy o Oes Fictoria sydd â dwy ystafell wely a lle i bedwar person, ac wedi'i leoli ar ddwy erw o hyfrydwch cefn gwlad.