Glannau Afon Teifi, Cenarth
Lleoliad picnic
Pentref bach ar lannau Afon Teifi yw Cenarth, ac mae ganddo gyfres o raeadrau a phyllau bychain. Mae hefyd yn enwog am ei gaws. Gallwch brynu darnau o gaws o siop fferm Caws Cenarth cyn crwydro tuag at lannau'r afon am bicnic ger y rhaeadrau i edrych am ddyfrgwn a glas y dorlan.
Cyngor am bicnic: Galwch heibio'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol ar y ffordd. Mae'r siop yn llawn blancedi Cymreig arbennig sy'n wych ar gyfer eich picnic.
Sut i gyrraedd: O Genarth, ewch ar y B4332 tuag at Foncath. Cadwch lygaid am arwydd y Comisiwn Coedwigaeth ar y chwith ac yna dilynwch y lôn i'r chwith, mae'n arwain i fyny'r rhiw lle gallwch barcio'r car ac mae safle picnic gwych i'w gael yma.
Taith gerdded a awgrymir: Cenarth i Castell Newydd Emlyn
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Mae caffi a deli Tŷ Croeso yng Nghastell Newydd Emlyn yn cynnig pasteiod, tartenni sawrus, cawl, caws Cymreig lleol, cracers a diodydd poeth, a hynny i gyd am bris gwych. Pris: Mae basgedi i ddau ar gael o £20 ac yn cynnwys detholiad o'r byrbrydau uchod.

Ty Croeso, Castellnewydd Emlyn


Ble i aros:
Gwely a Brecwast- Mae Canolfan Ceridwen sydd wedi'i leoli yn Nyffryn Teifi, yn daith 20 munud mewn car yn unig o Gaerfyrddin. Mae'n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau llety gan gynnwys ffermdy gwely a brecwast, bythynnod, yurts a hyd yn oed bws deulawr o'r flwyddyn 1964 sydd â lle i chwe pherson gysgu, o fewn 40 erw o dir organig sy'n cynnig golygfeydd godidog.
Hunanarlwyo- Mae Gwyliau Bythynnod Blaenfforest yn cynnwys dau fwthyn gwledig, cartrefol sydd yng nghanol erwau o gefn gwlad godidog ar gyrion tref farchnad Castellnewydd Emlyn. Mae lle i ddau berson gysgu mewn un bwthyn a lle i bedwar yn y llall ac mae gan y ddau ohonynt dwba twym yn yr awyr agored sy'n cynnig golygfeydd o'r goedwig a sŵn yr adar.