Fforest Brechfa
Lleoliad picnic
Mae'r heddwch sy'n disgyn dros goedwigoedd yn y gaeaf, ynghyd â'r niwl, y mwsogl a phelydrau'r haul gaeafol sy'n disgleirio drwy resi o goed yn cynnig safle perffaith am bicnic hudol. Mae Brechfa yn ardal fawr llawn coed conwydd gyda byrddau picnic a llwybrau ag arwyddion sy'n berffaith am ychydig o grwydro yn y gaeaf. Peidiwch â cholli Llwybr Gardd y Fforest a chael cyfle i weld y coed cochion anferth, ewcalyptws, cyll Ffrengig a derw digoes.
Cyngor am bicnic: Gallwch greu bwrdd a chadeiriau arbennig o gyfforddus drwy gasglu nodwyddau pinwydden at ei gilydd ac yna eu gorchuddio â blanced picnic. Beth am hel tylwyth teg yn y goedwig gyda'ch plant? Mae'r tir gwyllt a'r pinwydd tyrog sy'n codi o'r llethrau mynyddig yn safle perffaith i fwynhau teithiau cerdded cyffrous.
Sut i gyrraedd: Mae Safle Picnic Abergorlech ym Mrechfa. Mae Abergorlech yn bentref bychan ger Fforest Brechfa ar y B4310 a chanddo gymuned gyfeillgar sy'n croesawu pob math o ymwelwyr. Gallwch ddod o hyd iddo ger Fforest Brechfa ar y B4310.
Taith gerdded a awgrymir: Brechfa Forest
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Deli Ginhaus
Mae picnic unigryw y Ginhaus Deli yng nghanol Llandeilo yn cynnwys Focaccia Glanbrydan, 150g yr un o ddau gaws Cymreig megis Perl Wen a Pherl Las, pot o olifau cymysg, pecyn o Salami Cymreig Bakers Pig, pot o gnau cymysg a jar fechan o siytni Miranda. Pris: £22 am ddau berson - rhoddir y bwyd mewn bag papur brown gyda chyllyll a ffyrc tafladwy. Mae dewis i fynd â bwrdd o bren (gyda blaendal i'w ddychwelyd i chi) i osod eich picnic yn daclus. Gall nwyddau ychwanegol gynnwys Jin Cymraeg, fflasg o goffi neu gawl, neu gall cwsmeriaid hyn yn oed ddewis y cynnwys eu hunain.

Hamper from Ginhaus Deli, Llandeilo


Ble i aros:
Gwely a Brecwast- Ty Mawr Country Hotel yn westy gwledig arobryn sy'n ennill enw da am ei fwyd gwych. Mae'r gwesty tawel a diarffordd hwn yn fan perffaith ar gyfer seibiant ymlaciol ac mae'n agos at yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Parc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Gerddi Aberglasne.
Hunanarlwyo- Mae Bwthyn Penrhipyn a oedd yn siop gofaint yn wreiddiol, yn fwthyn o'r 19eg ganrif ym mhentref bach godidog Gwernogle, Dyffryn Cothi. Adeiladwyd y bwthyn o gerrig afon ac mae ganddo nodweddion traddodiadol gan gynnwys trawstiau derw a llawr pren. Mae'r bwthyn hwn yn agos at Fforest Brechfa, mynydd Llanfihangel Rhos y Corn a Llwybrau Gorlech, Abergorlech, ac yn berffaith ar gyfer dihangfa dawel.