English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Talacharn

 

Lleoliad picnic

Dyma'r lle perffaith i fwyta picnic yn debyg i fardd neu ddramodydd. Mae heulwen isel y gaeaf yn ychwanegu at hud a lledrith Talacharn lle mae'r castell canoloesol yn edrych dros yr aber. Caiff Cartref Dylan Thomas ei drochi mewn goleuni euraid ac mae'r cysgodion yn disgyn yn hyfryd ar hyd ei ddesg ysgrifennu. Dewiswch fainc islaw'r castell neu rhowch flanced ar borfa feddal glannau Afon Taf gan gynnig llwncdestun i'r dref a ddaeth y cawr o lenor hwn i'w charu. Gallwch fyfyrio ar eiriau Dylan a deall sut y gwnaeth y lleoliad hwn ddylanwadu arno wrth ysgrifennu Dan y Wenallt.

Cyngor am bicnic: Yfwch ddiod neu ddwy, byddai Dylan Thomas yn rhoi sêl ei fendith! Neu beth am alw heibio Gwesty Browns, hoff dafarn y llenor, ar eich ffordd adref.

Sut i gyrraedd: Mae maes parcio islaw'r castell yn Nhalacharn.

Taith gerdded a awgrymir: Talacharn

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:

The Ferryman Deli
Mae'r Deli hwn yng nghanol tref Talacharn, lle mae'r fwydlen ar y bwrdd du yn newid yn barhaus, yn nefoedd i fwydgarwyr. Yno, gweinir coffi masnach de gan farista arbennig, platiaid o gawsiau o Gymru, cacennau cartref a phot o de, heb anghofio peis a thartenni lleol. Mae'r Ferryman Deli ar stryd fawr tref hanesyddol Talacharn, yn agos at y castell a chartref Dylan Thomas ac yn fan delfrydol i brofi hyfrydwch Talacharn. 
 

Ferryman Deli, Talacharn

 

Ble i aros:

Gwely a Brecwast- Mae Browns Hotel yng nghanol tref Talacharn yn fan eiconig yn llenyddol eiconig sy'n enwog am fod yn hoff le yfed y bardd a'r llenor Dylan Thomas. Mae gan bob un o'r 15 ystafell wely naws o'r 1950au (celfi retro, cesys dillad o'r oes a fu, raciau bagiau'r hen reilffordd, blancedi Cymreig) ac maent yn cydnabod Thomas ei hun gan fod yr ystafelloedd wedi'u henwi ar ôl ei hoff drefi lleol a'i gerddi.

Hunanarlwyo- Mae The Cors Country House yn ddihangfa fohemaidd mewn man tawel yng nghanol Talacharn ac mae'n cynnig lle i hyd at wyth person gysgu. O'r tu allan, mae'r tŷ sydd ar ddwy erw o erddi cain yn ystad wledig bob modfedd ohono, felly mae'r awyrgylch Ffrengig ysblennydd y tu mewn yn peri ychydig o syndod.