Sir Gâr yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Fel arfer, mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod llawn gorymdeithiau, cyngherddau ac eisteddfodau ac mae plant yn mynd i'r ysgol mewn gwisg draddodiadol Gymreig, ac mae pawb yn gwisgo cenhinen neu genhinen bedr ar eu llabed.

Dewi Sant: hanes cryno
Dewi Sant oedd y ffigwr mwyaf yn Oes Seintiau Cymru yn y 6ed ganrif, sylfaenydd llu o gymunedau crefyddol ac fe yw'r unig nawddsant brodorol o wledydd Prydain ac Iwerddon.
Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi – ym 589. Cafodd ei ganoneiddio gan y Pab Callixtus yn y 12fed ganrif, ac rydym wedi dathlu Dydd Gŵyl byth ers hynny.
Syniadau ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Gwnewch y pethau bychain
Dilynwch eiriau Dewi Sant ei hun: gwnewch y pethau bychain. Pa ffordd well o ddathlu na dod â'r geiriau hynny'n fyw gyda hwyl a charedigrwydd. Ewch ati i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy wneud y pethau bychain.

Beth am gael cystadleuaeth pobi pice ar y maen?
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi drwy weld pwy all bobi'r Pice ar y maen a'r Bara Brith cartref gorau. Neu ewch ati i goginio pryd Cymreig traddodiadol megis Cawl neu selsig Morgannwg pan fyddwch yn cyrraedd adref. Darganfyddwch y llefydd bwyta mwyaf blasus sy'n gweini

